bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 3
2 Chronicles 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 4 →
1
A Solomon a ddechreuodd adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yn Jerwsalem ym mynydd Moreia, lle yr ymddangosasai yr ARGLWYDD i Dafydd ei dad ef, yn y lle a ddarparasai Dafydd, yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad.
2
Ac efe a ddechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o'r ail fis, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad.
3
A dyma fesurau sylfaeniad Solomon wrth adeiladu tŷ DDUW. Yr hyd oedd o gufyddau wrth y mesur cyntaf yn drigain cufydd; a'r lled yn ugain cufydd.
4
A'r porth oedd wrth dalcen y tŷ oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a'i uchder yn chwech ugain cufydd; ac efe a wisgodd hwn o fewn ag aur pur.
5
A'r tŷ mawr a fyrddiodd efe â ffynidwydd, y rhai a wisgodd efe ag aur dilin, ac a gerfiodd balmwydd a chadwynau ar hyd-ddo ef.
6
Ac efe a addurnodd y tŷ â meini gwerthfawr yn hardd; a'r aur oedd aur Parfaim.
7
Ie, efe a wisgodd y tŷ, y trawstiau, y rhiniogau, a'i barwydydd, a'i ddorau, ag aur, ac a gerfiodd geriwbiaid ar y parwydydd.
8
Ac efe a wnaeth dŷ y cysegr sancteiddiolaf; ei hyd oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a'i led yn ugain cufydd: ac efe a'i gwisgodd ef ag aur da, sef â chwe chan talent.
9
Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur.
10
Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur.
11
Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd: y naill adain o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a'r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall.
12
Ac adain y ceriwb arall o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a'r adain arall o bum cufydd, ynghyd ag adain y ceriwb arall.
13
Adenydd y ceriwbiaid hyn a ledwyd yn ugain cufydd: ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed, a'u hwynebau tuag i mewn.
14
Ac efe a wnaeth y wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, ac a weithiodd geriwbiaid ar hynny.
15
Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ, yn bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a'r cnap ar ben pob un ohonynt oedd bum cufydd.
16
Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell, ac a'u rhoddodd ar ben y colofnau; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau, ac a'u rhoddodd ar y cadwynau.
17
A chyfododd y colofnau o flaen y deml, un o'r tu deau, ac un o'r tu aswy; ac a alwodd enw y ddeau, Jachin; ac enw yr aswy, Boas.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36