bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 13
2 Chronicles 13
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 14 →
1
Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i'r brenin Jeroboam y dechreuodd Abeia deyrnasu ar Jwda.
2
Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Michaia, merch Uriel o Gibea. Ac yr oedd rhyfel rhwng Abeia a Jeroboam.
3
Ac Abeia a gydiodd y rhyfel â llu o ryfelwyr grymus, sef pedwar can mil o wŷr etholedig: a Jeroboam a luniaethodd y rhyfel yn ei erbyn ef ag wyth gan mil o wŷr etholedig, grymus, nerthol.
4
Ac Abeia a gyfododd ar fynydd Semaraim, yr hwn sydd ym mynydd Effraim, ac a ddywedodd, O Jeroboam, a holl Israel, gwrandewch fi;
5
Oni ddylech chwi wybod roddi o ARGLWYDD DDUW Israel y frenhiniaeth i Dafydd ar Israel yn dragywydd, iddo ef ac i'w feibion, trwy gyfamod halen?
6
Eto Jeroboam mab Nebat, gwas Solomon mab Dafydd, a gyfododd ac a wrthryfelodd yn erbyn ei arglwydd.
7
Ac ofer ddynion, sef meibion y fall, a ymgasglasant ato ef, ac a ymgadarnhasant yn erbyn Rehoboam mab Solomon, pan oedd Rehoboam yn fachgen, ac yn wan ei galon, ac ni allai ymgadarnhau i'w herbyn hwynt.
8
Ac yn awr yr ydych yn meddwl ymgadarnhau yn erbyn brenhiniaeth yr ARGLWYDD, yr hon sydd yn llaw meibion Dafydd; ac yr ydych yn dyrfa fawr, a chyda chwi y mae y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi.
9
Oni yrasoch ymaith offeiriaid yr ARGLWYDD, meibion Aaron, a'r Lefiaid? ac oni wnaethoch i chwi offeiriaid fel pobl y gwledydd eraill? pwy bynnag sydd yn dyfod i'w gysegru â bustach ieuanc ac â saith o hyrddod, hwnnw sydd yn offeiriad i'r rhai nid ydynt dduwiau.
10
Ninnau, yr ARGLWYDD yw ein DUW ni, ac nis gwrthodasom ef; a'r offeiriaid y rhai sydd yn gwasanaethu yr ARGLWYDD yw meibion Aaron, a'r Lefiaid sydd yn eu gorchwyl.
11
Ac y maent hwy yn llosgi i'r ARGLWYDD boethoffrymau bob bore a phob hwyr, ac arogl-darth peraidd; ac yn cadw trefn y bara gosod ar y bwrdd pur, a'r canhwyllbren aur a'i lampau, i losgi bob prynhawn: canys yr ydym ni yn cadw goruchwyliaeth yr ARGLWYDD ein DUW; ond chwi a'i gwrthodasoch ef.
12
Ac wele, DUW sydd ben gyda ni, a'i offeiriaid ef ag utgyrn soniarus i utganu yn eich erbyn chwi. O feibion Israel, nac ymleddwch yn erbyn ARGLWYDD DDUW eich tadau; canys ni lwyddwch chwi.
13
Ond Jeroboam a barodd osod cynllwyn o amgylch, a dyfod o'u hôl hwynt: felly yr oeddynt hwy o flaen Jwda, a'r cynllwyn o'r tu ôl iddynt.
14
A Jwda a edrychodd yn ôl, ac wele ryfel iddynt ymlaen ac yn ôl; a hwy a waeddasant ar yr ARGLWYDD, a'r offeiriaid a leisiasant mewn utgyrn.
15
A gwŷr Jwda a floeddiasant: a phan waeddodd gwŷr Jwda, DUW a drawodd Jeroboam, a holl Israel, a flaen Abeia a Jwda.
16
A meibion Israel a ffoesant o flaen Jwda: a DUW a'u rhoddodd hwynt i'w llaw hwynt.
17
Ac Abeia a'i bobl a'u trawsant hwy â lladdfa fawr: a syrthiodd yn archolledig o Israel bum can mil o wŷr etholedig.
18
Felly y darostyngwyd meibion Israel y pryd hwnnw; a meibion Jwda a orfuant, oherwydd iddynt bwyso ar ARGLWYDD DDUW eu tadau.
19
Ac Abeia a erlidiodd ar ôl Jeroboam, ac a ddug oddi arno ef ddinasoedd, Bethel a'i phentrefi, a Jesana a'i phentrefi, ac Effraim a'i phentrefi.
20
Ac ni chafodd Jeroboam nerth mwyach yn nyddiau Abeia: ond yr ARGLWYDD a'i trawodd ef, fel y bu efe farw.
21
Ond Abeia a ymgryfhaodd, ac a gymerth iddo bedair ar ddeg o wragedd, ac a genhedlodd ddau fab ar hugain, ac un ar bymtheg o ferched.
22
A'r rhan arall o hanes Abeia, a'i ffyrdd ef, a'i eiriau, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Ido.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36