bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 10
1 Samuel 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 11 →
1
Yna Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef, ac a'i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr ARGLWYDD a'th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth?
2
Pan elych di heddiw oddi wrthyf, yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Selsa: a hwy a ddywedant wrthyt, Cafwyd yr asynnod yr aethost i'w ceisio: ac wele, dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod, a gofalu y mae amdanoch chwi, gan ddywedyd, Beth a wnaf am fy mab?
3
Yna yr ei di ymhellach oddi yno, ac y deui hyd wastadedd Tabor: ac yno y'th gyferfydd triwyr yn myned i fyny at DDUW i Bethel; un yn dwyn tri o fynnod, ac un yn dwyn tair torth o fara, ac un yn dwyn costrelaid o win.
4
A hwy a gyfarchant well i ti, ac a roddant i ti ddwy dorth o fara; y rhai a gymeri o'u llaw hwynt.
5
Ar ôl hynny y deui i fryn DUW, yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid: a phan ddelych yno i'r ddinas, ti a gyfarfyddi â thyrfa o broffwydi yn disgyn o'r uchelfa, ac o'u blaen hwynt nabl, a thympan, a phibell, a thelyn; a hwythau yn proffwydo.
6
Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaw arnat ti; a thi a broffwydi gyda hwynt, ac a droir yn ŵr arall.
7
A phan ddelo yr argoelion hyn i ti, gwna fel y byddo yr achos: canys DUW sydd gyda thi.
8
A dos i waered o'm blaen i Gilgal: ac wele, mi a ddeuaf i waered atat ti, i offrymu offrymau poeth, ac i aberthu ebyrth hedd: aros amdanaf saith niwrnod, hyd oni ddelwyf atat, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych.
9
A phan drodd efe ei gefn i fyned oddi wrth Samuel, DUW a roddodd iddo galon arall: a'r holl argoelion hynny a ddaethant y dydd hwnnw i ben.
10
A phan ddaethant yno i'r bryn, wele fintai o broffwydi yn ei gyfarfod ef: ac ysbryd DUW a ddaeth arno yntau, ac efe a broffwydodd yn eu mysg hwynt.
11
A phawb a'r a'i hadwaenai ef o'r blaen a edrychasant; ac wele efe gyda'r proffwydi yn proffwydo. Yna y bobl a ddywedasant bawb wrth ei gilydd, Beth yw hyn a ddaeth i fab Cis? A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?
12
Ac un oddi yno a atebodd, ac a ddywedodd, Eto pwy yw eu tad hwy? Am hynny yr aeth yn ddihareb, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?
13
Ac wedi darfod iddo broffwydo, efe a ddaeth i'r uchelfa.
14
Ac ewythr Saul a ddywedodd wrtho ef, ac wrth ei lanc ef, I ba le yr aethoch? Ac efe a ddywedodd, I geisio'r asynnod: a phan welsom nas ceid, ni a ddaethom at Samuel.
15
Ac ewythr Saul a ddywedodd, Mynega, atolwg, i mi, beth a ddywedodd Samuel wrthych chwi.
16
A Saul a ddywedodd wrth ei ewythr, Gan fynegi mynegodd i ni fod yr asynnod wedi eu cael. Ond am chwedl y frenhiniaeth, yr hwn a ddywedasai Samuel, nid ynganodd efe wrtho.
17
A Samuel a alwodd y bobl ynghyd at yr ARGLWYDD i Mispa;
18
Ac a ddywedodd wrth feibion Israel, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a ddygais i fyny Israel o'r Aifft, ac a'ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law yr holl deyrnasoedd, a'r rhai a'ch gorthryment chwi.
19
A chwi heddiw a wrthodasoch eich DUW, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd, a'ch helbul; ac a ddywedasoch wrtho ef, Nid felly; eithr gosod arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr ARGLWYDD wrth eich llwythau, ac wrth eich miloedd.
20
A Samuel a barodd i holl lwythau Israel nesáu: a daliwyd llwyth Benjamin.
21
Ac wedi iddo beri i lwyth Benjamin nesáu yn ôl eu teuluoedd, daliwyd teulu Matri; a Saul mab Cis a ddaliwyd: a phan geisiasant ef, nis ceid ef.
22
Am hynny y gofynasant eto i'r ARGLWYDD, a ddeuai y gŵr yno eto. A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Wele efe yn ymguddio ymhlith y dodrefn.
23
A hwy a redasant, ac a'i cyrchasant ef oddi yno. A phan safodd yng nghanol y bobl, yr oedd efe o'i ysgwydd i fyny yn uwch na'r holl bobl.
24
A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl. A welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr ARGLWYDD, nad oes neb tebyg iddo ymysg yr holl bobl? A'r holl bobl a floeddiasant, ac a ddywedasant, Byw fyddo'r brenin.
25
Yna Samuel a draethodd gyfraith y deyrnas wrth y bobl, ac a'i hysgrifennodd mewn llyfr, ac a'i gosododd gerbron yr ARGLWYDD. A Samuel a ollyngodd ymaith yr holl bobl, bob un i'w dŷ.
26
A Saul hefyd a aeth i'w dŷ ei hun i Gibea; a byddin o'r rhai y cyffyrddasai DUW â'u calon, a aeth gydag ef.
27
Ond meibion Belial a ddywedasant, Pa fodd y gwared hwn ni? A hwy a'i dirmygasant ef, ac ni ddygasant anrheg iddo ef. Eithr ni chymerodd efe arno glywed hyn.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31