bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 18
1 Samuel 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 19 →
1
Ac wedi darfod iddo ymddiddan â Saul, enaid Jonathan a ymglymodd wrth enaid Dafydd; a Jonathan a'i carodd ef megis ei enaid ei hun.
2
A Saul a'i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad.
3
Yna Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod; oherwydd efe a'i carai megis ei enaid ei hun.
4
A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun, ac a'i rhoddes i Dafydd, a'i wisgoedd, ie, hyd yn oed ei gleddyf, a'i fwa, a'i wregys.
5
A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef, ac a ymddug yn ddoeth. A Saul a'i gosododd ef ar y rhyfelwyr: ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl, ac yng ngolwg gweision Saul hefyd.
6
A bu, wrth ddyfod ohonynt, pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, ddyfod o'r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel, dan ganu a dawnsio, i gyfarfod â'r brenin Saul â thympanau, â gorfoledd, ac ag offer cerdd dannau.
7
A'r gwragedd wrth ganu a ymatebent, ac a ddywedent, Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn.
8
A digiodd Saul yn ddirfawr, a'r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef; ac efe a ddywedodd, Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: beth mwy a roddent iddo ef, ond y frenhiniaeth?
9
A bu Saul â'i lygad ar Dafydd o'r dydd hwnnw allan.
10
Bu hefyd drannoeth, i'r drwg ysbryd oddi wrth DDUW ddyfod ar Saul; ac efe a broffwydodd yng nghanol y tŷ: a Dafydd a ganodd â'i law, fel o'r blaen: a gwaywffon oedd yn llaw Saul.
11
A Saul a daflodd y waywffon; ac a ddywedodd, Trawaf trwy Dafydd yn y pared. A Dafydd a giliodd ddwywaith o'i ŵydd ef.
12
A Saul oedd yn ofni Dafydd; oherwydd bod yr ARGLWYDD gydag ef, a chilio ohono oddi wrth Saul.
13
Am hynny Saul a'i gyrrodd ef ymaith oddi wrtho, ac a'i gosododd ef yn dywysog ar fil: ac efe a aeth i mewn ac allan o flaen y bobl.
14
A Dafydd a ymddug yn ddoeth yn ei holl ffyrdd; a'r ARGLWYDD oedd gydag ef.
15
A phan welodd Saul ei fod ef yn ddoeth iawn, efe a'i hofnodd ef.
16
Eithr holl Israel a Jwda a garodd Dafydd, am ei fod ef yn myned i mewn ac allan o'u blaen hwynt.
17
A dywedodd Saul wrth Dafydd, Wele Merab fy merch hynaf, hi a roddaf fi i ti yn wraig: yn unig bydd i mi yn fab nerthol, ac ymladd ryfeloedd yr ARGLWYDD. (Canys dywedasai Saul, Ni bydd fy llaw i arno ef, ond llaw y Philistiaid fydd arno ef.)
18
A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Pwy ydwyf fi? a pheth yw fy mywyd, neu dylwyth fy nhad i yn Israel, fel y byddwn yn ddaw i'r brenin?
19
Eithr yn yr amser y dylesid rhoddi Merab merch Saul i Dafydd, hi a roddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig.
20
A Michal merch Saul a garodd Dafydd: a mynegasant hynny i Saul; a'r peth fu fodlon ganddo.
21
A dywedodd Saul, Rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo yn fagl, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef. Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd, Trwy un o'r ddwy y byddi fab yng nghyfraith i mi heddiw.
22
A Saul a orchmynnodd i'w weision fel hyn; Ymddiddenwch â Dafydd yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele, y brenin sydd hoff ganddo dydi, a'i holl weision ef a'th garant di: yn awr gan hynny ymgyfathracha â'r brenin.
23
A gweision Saul a adroddasant wrth Dafydd y geiriau hyn. A Dafydd a ddywedodd, Ai ysgafn yw yn eich golwg chwi ymgyfathrachu â brenin, a minnau yn ŵr tlawd a gwael?
24
A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Fel hyn y llefarodd Dafydd.
25
A dywedodd Saul, Fel hyn y dywedwch wrth Dafydd; Nid yw y brenin yn ewyllysio cynhysgaeth, ond cael cant o flaengrwyn y Philistiaid, i ddial ar elynion y brenin. Ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd trwy law y Philistiaid.
26
A'i weision ef a fynegasant i Dafydd y geiriau hyn; a'r ymadrodd fu fodlon gan Dafydd am ymgyfathrachu â'r brenin; ac ni ddaethai yr amser eto.
27
Am hynny y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth, a'i wŷr, ac a drawodd ddau cannwr o'r Philistiaid: a Dafydd a ddygodd eu blaengrwyn hwynt, a hwy a'u cwbl dalasant i'r brenin, i ymgyfathrachu ohono ef â'r brenin. A Saul a roddodd Michal ei ferch yn wraig iddo ef.
28
A Saul a welodd ac a wybu fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod Michal merch Saul yn ei garu ef.
29
A Saul oedd yn ofni Dafydd yn fwy eto: a bu Saul yn elyn i Dafydd byth.
30
Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan: a phan elent hwy, Dafydd a fyddai ddoethach na holl weision Saul; a'i enw ef a aeth yn anrhydeddus iawn.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31