bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 4
1 Samuel 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 5 →
1
A Daeth gair Samuel i holl Israel. Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel: a gwersyllasant gerllaw Ebeneser: a'r Philistiaid a wersyllasant yn Affec.
2
A'r Philistiaid a ymfyddinasant yn erbyn Israel: a'r gad a ymgyfarfu; a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid: a hwy a laddasant o'r fyddin yn y maes ynghylch pedair mil o wŷr.
3
A phan ddaeth y bobl i'r gwersyll, henuriaid Israel a ddywedasant, Paham y trawodd yr ARGLWYDD ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr ARGLWYDD, a deled i'n mysg ni; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion.
4
Felly y bobl a anfonodd i Seilo, ac a ddygasant oddi yno arch cyfamod ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn aros rhwng y ceriwbiaid: ac yno yr oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, gydag arch cyfamod DUW.
5
A phan ddaeth arch cyfamod yr ARGLWYDD i'r gwersyll, holl Israel a floeddiasant â bloedd fawr, fel y datseiniodd y ddaear.
6
A phan glybu'r Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, Pa beth yw llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid? A gwybuant mai arch yr ARGLWYDD a ddaethai i'r gwersyll.
7
A'r Philistiaid a ofnasant: oherwydd hwy a ddywedasant, Daeth DUW i'r gwersyll. Dywedasant hefyd, Gwae ni! canys ni bu'r fath beth o flaen hyn.
8
Gwae ni! pwy a'n gwared ni o law y duwiau nerthol hyn? Dyma y duwiau a drawsant yr Eifftiaid â'r holl blâu yn yr anialwch.
9
Ymgryfhewch, a byddwch wŷr, O Philistiaid; rhag i chwi wasanaethu'r Hebreaid, fel y gwasanaethasant hwy chwi: byddwch wŷr, ac ymleddwch.
10
A'r Philistiaid a ymladdasant; a lladdwyd Israel, a ffodd pawb i'w babell: a bu lladdfa fawr iawn; canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hugain o wŷr traed.
11
Ac arch DUW a ddaliwyd; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, a fuant feirw.
12
A gŵr o Benjamin a redodd o'r fyddin, ac a ddaeth i Seilo y diwrnod hwnnw, â'i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben.
13
A phan ddaeth efe, wele Eli yn eistedd ar eisteddfa gerllaw y ffordd, yn disgwyl: canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch DUW. A phan ddaeth y gŵr i'r ddinas, a mynegi hyn, yr holl ddinas a waeddodd.
14
A phan glywodd Eli lais y waedd, efe a ddywedodd, Beth yw llais y cynnwrf yma? A'r gŵr a ddaeth i mewn ar frys, ac a fynegodd i Eli.
15
Ac Eli oedd fab tair blwydd ar bymtheg a phedwar ugain; a phallasai ei lygaid ef, fel na allai efe weled.
16
A'r gŵr a ddywedodd wrth Eli, Myfi sydd yn dyfod o'r fyddin, myfi hefyd a ffoais heddiw o'r fyddin. A dywedodd yntau, Pa beth a ddigwyddodd, fy mab?
17
A'r gennad a atebodd, ac a ddywedodd, Israel a ffodd o flaen y Philistiaid; a bu hefyd laddfa fawr ymysg y bobl; a'th ddau fab hefyd, Hoffni a Phinees, a fuant feirw, ac arch DUW a ddaliwyd.
18
A phan grybwyllodd efe am arch DUW, yntau a syrthiodd oddi ar yr eisteddle yn wysg ei gefn gerllaw y porth; a'i wddf a dorrodd, ac efe a fu farw: canys y gŵr oedd hen a thrwm. Ac efe a farnasai Israel ddeugain mlynedd.
19
A'i waudd ef, gwraig Phinees, oedd feichiog, yn agos i esgor: a phan glybu sôn ddarfod dal arch DUW, a marw o'i chwegrwn a'i gŵr, hi a ymgrymodd, ac a glafychodd: canys ei gwewyr a ddaeth arni.
20
Ac ynghylch y pryd y bu hi farw, y dywedodd y gwragedd oedd yn sefyll gyda hi, Nac ofna; canys esgoraist ar fab Ond nid atebodd hi, ac nid ystyriodd.
21
A hi a alwodd y bachgen Ichabod; gan ddywedyd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; (am ddal arch DUW, ac am ei chwegrwn a'i gŵr.)
22
A hi a ddywedodd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; canys arch DUW a ddaliwyd.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31