bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 30
1 Samuel 30
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 31 →
1
A phan ddaeth Dafydd a'i wŷr i Siclag y trydydd dydd, yr Amaleciaid a ruthrasent ar du y deau, ac ar Siclag, ac a drawsent Siclag, ac a'i llosgasent hi â thân.
2
Caethgludasent hefyd y gwragedd oedd ynddi: o fychan hyd fawr ni laddasent hwy neb, eithr dygasent hwy ymaith, ac aethent i'w ffordd.
3
Felly y daeth Dafydd a'i wŷr i'r ddinas; ac wele hi wedi ei llosgi â thân: eu gwragedd hwynt hefyd, a'u meibion, a'u merched, a gaethgludasid.
4
Yna dyrchafodd Dafydd a'r bobl oedd gydag ef eu llef, ac a wylasant, hyd nad oedd nerth ynddynt i wylo.
5
Dwy wraig Dafydd hefyd a gaethgludasid, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail, gwraig Nabal y Carmeliad.
6
A bu gyfyng iawn ar Dafydd; canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef; oherwydd chwerwasai enaid yr holl bobl, bob un am ei feibion, ac am ei ferched: ond Dafydd a ymgysurodd yn yr ARGLWYDD ei DDUW.
7
A Dafydd a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad, mab Ahimelech, Dwg i mi, atolwg, yr effod, Ac Abiathar a ddug yr effod at Dafydd.
8
A Dafydd a ymofynnodd â'r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A erlidiaf fi ar ôl y dorf hon? a oddiweddaf fi hi? Ac efe a ddywedodd wrtho, Erlid: canys gan oddiweddyd y goddiweddi, a chan waredu y gwaredi.
9
Felly Dafydd a aeth, efe a'r chwe channwr oedd gydag ef, a hwy a ddaethant hyd afon Besor, lle yr arhosodd y rhai a adawyd yn ôl.
10
A Dafydd a erlidiodd, efe a phedwar cant o wŷr; canys dau cannwr a arosasant yn ôl, y rhai a flinasent fel na allent fyned dros afon Besor.
11
A hwy a gawsant Eifftddyn yn y maes, ac a'i dygasant ef at Dafydd; ac a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd; a hwy a'i diodasant ef â dwfr.
12
A hwy a roddasant iddo ddarn o ffigys, a dau swp o resin: ac efe a fwytaodd, a'i ysbryd a ddychwelodd ato: canys ni fwytasai fara, ac nid yfasai ddwfr dridiau a thair nos.
13
A Dafydd a ddywedodd wrtho, Gwas i bwy wyt ti? ac o ba le y daethost ti? Ac efe a ddywedodd, Llanc o'r Aifft ydwyf fi, gwas i ŵr o Amalec; a'm meistr a'm gadawodd, oblegid i mi glefychu er ys tridiau bellach.
14
Nyni a ruthrasom ar du deau y Cerethiaid, a'r hyn sydd eiddo Jwda, a thu deau Caleb: Siclag hefyd a losgasom ni â thân.
15
A Dafydd a ddywedodd wrtho, A fedri di fyned â mi i waered at y dorf hon? Yntau a ddywedodd, Twng wrthyf fi i DDUW, na leddi fi, ac na roddi fi yn llaw fy meistr, a mi a af â thi i waered at y dorf hon.
16
Ac efe a'i dug ef i waered: ac wele hwynt wedi ymwasgaru ar hyd wyneb yr holl dir, yn bwyta, ac yn yfed, ac yn dawnsio; oherwydd yr holl ysbail fawr a ddygasent hwy o wlad y Philistiaid, ac o wlad Jwda.
17
A Dafydd a'u trawodd hwynt o'r cyfnos hyd brynhawn drannoeth: ac ni ddihangodd un ohonynt, oddieithr pedwar cant o wŷr ieuanc, y rhai a farchogasant ar gamelod, ac a ffoesant.
18
A Dafydd a achubodd yr hyn oll a ddygasai yr Amaleciaid: Dafydd hefyd a waredodd ei ddwy wraig.
19
Ac nid oedd yn eisiau iddynt, na bychan na mawr, na mab na merch, na'r anrhaith, na dim ag a ddygasent hwy ganddynt: hyn oll a ddug Dafydd adref.
20
Dug Dafydd hefyd yr holl ddefaid, a'r gwartheg; y rhai a yrasant o flaen yr anifeiliaid eraill, ac a ddywedasant, Dyma anrhaith Dafydd.
21
A Dafydd a ddaeth at y ddau cannwr a flinasent, fel na allent ganlyn Dafydd, ac a barasid iddynt aros wrth afon Besor: a hwy a aethant i gyfarfod Dafydd, ac i gyfarfod â'r bobl oedd gydag ef. A phan nesaodd Dafydd at y bobl, efe a gyfarchodd well iddynt.
22
Yna yr atebodd pob gŵr drygionus, ac eiddo y fall, o'r gwŷr a aethai gyda Dafydd, ac a ddywedasant, Oherwydd nad aethant hwy gyda ni, ni roddwn ni iddynt hwy ddim o'r anrhaith a achubasom ni; eithr i bob un ei wraig, a'i feibion: dygant hwynt ymaith, ac ymadawant.
23
Yna y dywedodd Dafydd, Ni wnewch chwi felly, fy mrodyr, am yr hyn a roddodd yr ARGLWYDD i ni, yr hwn a'n cadwodd ni, ac a roddodd y dorf a ddaethai i'n herbyn, yn ein llaw ni.
24
Canys pwy a wrendy arnoch chwi yn y peth hyn? canys un fath fydd rhan yr hwn a elo i waered i ryfel, a rhan yr hwn a arhoso gyda'r dodrefn: hwy a gydrannant.
25
Ac o'r dydd hwnnw allan, efe a osododd hyn yn gyfraith ac yn farnedigaeth yn Israel, hyd y dydd hwn.
26
A phan ddaeth Dafydd i Siclag, efe a anfonodd o'r anrhaith i henuriaid Jwda, sef i'w gyfeillion, gan ddywedyd, Wele i chwi anrheg, o anrhaith gelynion yr ARGLWYDD;
27
Sef i'r rhai oedd yn Bethel, ac i'r rhai oedd yn Ramoth tua'r deau, ac i'r rhai oedd yn Jattir,
28
Ac i'r rhai oedd yn Aroer, ac i'r rhai oedd yn Siffmoth, ac i'r rhai oedd yn Estemoa,
29
Ac i'r rhai oedd yn Rachal, ac i'r rhai oedd yn ninasoedd y Jerahmeeliaid, ac i'r rhai oedd yn ninasoedd y Ceneaid,
30
Ac i'r rhai oedd yn Horma, ac i'r rhai oedd yn Chorasan, ac i'r rhai oedd yn Athac,
31
Ac i'r rhai oedd yn Hebron, ac i'r holl leoedd y buasai Dafydd a'i wŷr yn cyniwair ynddynt.
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 31 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31