bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 14
1 Samuel 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 15 →
1
A bu ddyddgwaith i Jonathan mab Saul ddywedyd wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa'r Philistiaid, yr hon sydd o'r tu hwnt: ond ni fynegodd efe i'w dad.
2
A Saul a arhosodd yng nghwr Gibea, dan bren pomgranad, yr hwn oedd ym Migron: a'r bobl oedd gydag ef oedd ynghylch chwe channwr;
3
Ac Ahia mab Ahitub, brawd Ichabod, mab Phinees, mab Eli, offeiriad yr ARGLWYDD yn Seilo, oedd yn gwisgo effod. Ac ni wyddai y bobl i Jonathan fyned ymaith.
4
A rhwng y bylchau, lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa'r Philistiaid, yr oedd craig serth o'r naill du i'r bwlch, a chraig serth o'r tu arall i'r bwlch; ac enw y naill oedd Boses, ac enw y llall Sene.
5
A safiad y naill oedd oddi wrth y gogledd ar gyfer Michmas, a'r llall oddi wrth y deau ar gyfer Gibea.
6
A dywedodd Jonathan wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa'r rhai dienwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr ARGLWYDD gyda ni: canys nid oes rwystr i'r ARGLWYDD waredu trwy lawer neu trwy ychydig.
7
A'r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef a ddywedodd wrtho, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: cerdda rhagot; wele fi gyda thi fel y mynno dy galon.
8
Yna y dywedodd Jonathan, Wele, ni a awn trosodd at y gwŷr hyn, ac a ymddangoswn iddynt.
9
Os dywedant fel hyn wrthym, Arhoswch nes i ni ddyfod atoch chwi; yna y safwn yn ein lle, ac nid awn i fyny atynt hwy.
10
Ond os fel hyn y dywedant, Deuwch i fyny atom ni; yna yr awn i fyny: canys yr ARGLWYDD a'u rhoddodd hwynt yn ein llaw ni; a hyn fydd yn argoel i ni.
11
A hwy a ymddangosasant ill dau i amddiffynfa'r Philistiaid. A'r Philistiaid a ddywedasant, Wele yr Hebreaid yn dyfod allan o'r tyllau y llechasant ynddynt.
12
A gwŷr yr amddiffynfa a atebasant Jonathan, a'r hwn oedd yn dwyn ei arfau, ac a ddywedasant, Deuwch i fyny atom ni, ac ni a ddangoswn beth i chwi. A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau, Tyred i fyny ar fy ôl: canys yr ARGLWYDD a'u rhoddes hwynt yn llaw Israel.
13
A Jonathan a ddringodd i fyny ar ei ddwylo, ac ar ei draed; a'r hwn oedd yn dwyn ei arfau ar ei ôl. A hwy a syrthiasant o flaen Jonathan: ei yswain hefyd oedd yn lladd ar ei ôl ef.
14
A'r lladdfa gyntaf honno a wnaeth Jonathan a'r hwn oedd yn dwyn ei arfau, oedd ynghylch ugeinwr, megis o fewn ynghylch hanner cyfer dau ych o dir.
15
A bu fraw yn y gwersyll, yn y maes, ac ymysg yr holl bobl: yr amddiffynfa a'r anrheithwyr hwythau hefyd a ddychrynasant: y ddaear hefyd a grynodd; a bu dychryn DUW.
16
A gwylwyr Saul yn Gibea Benjamin a edrychasant; ac wele y lliaws yn ymwasgaru, ac yn myned dan ymguro.
17
Yna y dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, Cyfrifwch yn awr, ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni. A phan gyfrifasant, wele, Jonathan a chludydd ei arfau nid oeddynt yno.
18
A Saul a ddywedodd wrth Ahia, Dwg yma arch DUW. (Canys yr oedd arch DUW y pryd hynny gyda meibion Israel.)
19
A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan â'r offeiriad, y terfysg, yr hwn oedd yng ngwersyll y Philistiaid, gan fyned a aeth, ac a anghwanegodd. A Saul a ddywedodd wrth yr offeiriad, Tyn atat dy law.
20
A Saul a'r holl bobl oedd gydag ef a ymgynullasant, ac a ddaethant i'r rhyfel: ac wele gleddyf pob un yn erbyn ei gyfnesaf; a dinistr mawr iawn oedd yno.
21
Yr Hebreaid hefyd, y rhai oedd gyda'r Philistiaid o'r blaen, y rhai a aethant i fyny gyda hwynt i'r gwersyll o'r wlad oddi amgylch, hwythau hefyd a droesant i fod gyda'r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan.
22
A holl wŷr Israel, y rhai oedd yn llechu ym mynydd Effraim, a glywsant ffoi o'r Philistiaid; hwythau hefyd a'u herlidiasant hwy o'u hôl yn y rhyfel.
23
Felly yr achubodd yr ARGLWYDD Israel y dydd hwnnw; a'r ymladd a aeth drosodd i Beth-afen.
24
A gwŷr Israel oedd gyfyng arnynt y dydd hwnnw: oherwydd tyngedasai Saul y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd hyd yr hwyr, fel y dialwyf ar fy ngelynion: Felly nid archwaethodd yr un o'r bobl ddim bwyd.
25
A'r rhai o'r holl wlad a ddaethant i goed, lle yr oedd mêl ar hyd wyneb y tir.
26
A phan ddaeth y bobl i'r coed, wele y mêl yn diferu; eto ni chododd un ei law at ei enau: canys ofnodd y bobl y llw.
27
Ond Jonathan ni chlywsai pan dyngedasai ei dad ef y bobl: am hynny efe a estynnodd flaen y wialen oedd yn ei law, ac a'i gwlychodd yn nil y mêl, ac a drodd ei law at ei enau; a'i lygaid a oleuasant.
28
Yna un o'r bobl a atebodd, ac a ddywedodd, Gan dynghedu y tynghedodd dy dad y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd heddiw. A'r bobl oedd luddedig.
29
Yna y dywedodd Jonathan, Fy nhad a flinodd y wlad. Gwelwch yn awr fel y goleuodd fy llygaid i, oherwydd i mi archwaethu ychydig o'r mêl hwn:
30
Pa faint mwy, pe bwytasai y bobl yn ddiwarafun heddiw o anrhaith eu gelynion, yr hon a gawsant hwy? oni buasai yn awr fwy y lladdfa ymysg y Philistiaid?
31
A hwy a drawsant y Philistiaid y dydd hwnnw o Michmas hyd Ajalon: a'r bobl oedd ddiffygiol iawn.
32
A'r bobl a ruthrodd at yr anrhaith, ac a gymerasant ddefaid, a gwartheg, a lloi, ac a'u lladdasant ar y ddaear: a'r bobl a'u bwytaodd gyda'r gwaed.
33
Yna y mynegasant hwy i Saul, gan ddywedyd, Wele, y bobl sydd yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, gan fwyta ynghyd â'r gwaed. Ac efe a ddywedodd, Troseddasoch: treiglwch ataf fi heddiw faen mawr.
34
Dywedodd Saul hefyd, Ymwasgerwch ymysg y bobl, a dywedwch wrthynt, Dygwch ataf fi bob un ei ych, a phob un ei lwdn dafad, a lleddwch hwynt yma, a bwytewch; ac na phechwch yn erbyn yr ARGLWYDD, gan fwyta ynghyd â'r gwaed. A'r bobl oll a ddygasant bob un ei ych yn ei law y noswaith honno, ac a'u lladdasant yno.
35
A Saul a adeiladodd allor i'r ARGLWYDD. Hon oedd yr allor gyntaf a adeiladodd efe i'r ARGLWYDD.
36
A dywedodd Saul, Awn i waered ar ôl y Philistiaid liw nos, ac anrheithiwn hwynt hyd oni oleuo y bore, ac na adawn un ohonynt. Hwythau a ddywedasant, Gwna yr hyn oll fyddo da yn dy olwg. Yna y dywedodd yr offeiriad, Nesawn yma at DDUW.
37
Ac ymofynnodd Saul â DUW, A af fi i waered ar ôl y Philistiaid? a roddi di hwynt yn llaw Israel? Ond nid atebodd efe ef y dydd hwnnw.
38
A dywedodd Saul, Dyneswch yma holl benaethiaid y bobl: mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch ym mhwy y bu y pechod hwn heddiw.
39
Canys, megis mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn gwaredu Israel, pe byddai hyn yn Jonathan fy mab, diau y llwyr roddir ef i farwolaeth. Ac nid atebodd neb o'r holl bobl ef.
40
Yna y dywedodd efe wrth holl Israel, Chwi a fyddwch ar y naill du; minnau hefyd a Jonathan fy mab fyddwn ar y tu arall. A dywedodd y bobl wrth Saul, Gwna a fyddo da yn dy olwg.
41
Am hynny y dywedodd Saul wrth ARGLWYDD DDUW Israel, Dod oleufynag. A daliwyd Jonathan a Saul: ond y bobl a ddihangodd.
42
Dywedodd Saul hefyd, Bwriwch goelbren rhyngof fi a Jonathan fy mab. A daliwyd Jonathan.
43
Yna y dywedodd Saul wrth Jonathan, Mynega i mi beth a wnaethost. A Jonathan a fynegodd iddo, ac a ddywedodd, Gan archwaethu yr archwaethais ychydig o fêl ar flaen y wialen oedd yn fy llaw; ac wele, a fyddaf fi farw?
44
Dywedodd Saul hefyd, Felly gwneled DUW i mi, ac felly chwaneged, onid gan farw y byddi di farw, Jonathan.
45
A dywedodd y bobl wrth Saul, A leddir Jonathan, yr hwn a wnaeth yr ymwared mawr hyn yn Israel? Na ato DUW: fel mai byw yr ARGLWYDD, ni syrth un o wallt ei ben ef i'r ddaear; canys gyda DUW y gweithiodd efe heddiw. A'r bobl a waredasant Jonathan, fel na laddwyd ef.
46
Yna Saul a aeth i fyny oddi ar ôl y Philistiaid: a'r Philistiaid a aethant i'w lle eu hun.
47
Felly y cymerodd Saul y frenhiniaeth ar Israel; ac a ymladdodd yn erbyn ei holl elynion oddi amgylch, yn erbyn Moab, ac yn erbyn meibion Ammon, ac yn erbyn Edom, ac yn erbyn brenhinoedd Soba, ac yn erbyn y Philistiaid: ac yn erbyn pwy bynnag yr wynebodd, efe a orchfygodd.
48
Cynullodd lu hefyd, a thrawodd Amalec; ac a waredodd Israel o law ei anrheithwyr.
49
A meibion Saul oedd Jonathan, ac Issui, a Malci-sua. Dyma enwau ei ddwy ferch ef: enw yr hynaf oedd Merab, ac enw yr ieuangaf Michal.
50
Ac enw gwraig Saul oedd Ahinoam merch Ahimaas: ac enw tywysog ei filwriaeth ef oedd Abner mab Ner, ewythr frawd ei dad i Saul.
51
Cis hefyd oedd dad Saul; a Ner tad Abner oedd fab Abiel.
52
A bu ryfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul: a phan welai Saul ŵr glew a nerthol, efe a'i cymerai ato ei hun.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31