bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 13
1 Samuel 13
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 14 →
1
Saul a deyrnasodd un flwyddyn; ac wedi iddo deyrnasu ddwy flynedd ar Israel,
2
Saul a ddewisodd iddo dair mil o Israel; dwy fil oedd gyda Saul ym Michmas ac ym mynydd Bethel, a mil oedd gyda Jonathan yn Gibea Benjamin: a'r bobl eraill a anfonodd efe bawb i'w babell ei hun.
3
A Jonathan a drawodd sefyllfa y Philistiaid, yr hon oedd yn Geba: a chlybu y Philistiaid hynny. A Saul a ganodd mewn utgorn trwy'r holl dir, gan ddywedyd, Clywed yr Hebreaid.
4
A holl Israel a glywsant ddywedyd daro o Saul sefyllfa y Philistiaid, a bod Israel yn ffiaidd gan y Philistiaid: a'r bobl a ymgasglodd ar ôl Saul i Gilgal.
5
A'r Philistiaid a ymgynullasant i ymladd ag Israel, deng mil ar hugain o gerbydau, a chwe mil o wŷr meirch, a phobl eraill cyn amled â'r tywod sydd ar fin y môr. A hwy a ddaethant i fyny, ac a wersyllasant ym Michmas, o du y dwyrain i Beth-afen.
6
Pan welodd gwŷr Israel fod yn gyfyng arnynt, (canys gwasgasid ar y bobl,) yna y bobl a ymguddiasant mewn ogofeydd, ac mewn drysni, ac mewn creigiau, ac mewn tyrau, ac mewn pydewau.
7
A rhai o'r Hebreaid a aethant dros yr Iorddonen, i dir Gad a Gilead: a Saul oedd eto yn Gilgal, a'r holl bobl a aethant ar ei ôl ef dan grynu.
8
Ac efe a arhosodd saith niwrnod, hyd yr amser gosodedig a nodasai Samuel. Ond ni ddaeth Samuel i Gilgal; a'r bobl a ymwasgarodd oddi wrtho ef.
9
A Saul a ddywedodd, Dygwch ataf fi boethoffrwm, ac offrymau hedd. Ac efe a offrymodd y poethoffrwm.
10
Ac wedi darfod iddo offrymu'r poethoffrwm, wele, Samuel a ddaeth: a Saul a aeth allan i'w gyfarfod ef, ac i gyfarch gwell iddo.
11
A dywedodd Samuel, Beth a wnaethost ti? A Saul a ddywedodd, Oherwydd gweled ohonof i'r bobl ymwasgaru oddi wrthyf, ac na ddaethost tithau o fewn y dyddiau gosodedig, ac i'r Philistiaid ymgasglu i Michmas;
12
Am hynny y dywedais, Y Philistiaid yn awr a ddeuant i waered ataf fi i Gilgal, ac ni weddïais gerbron yr ARGLWYDD: am hynny yr anturiais i, ac yr offrymais boethoffrwm.
13
A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ynfyd y gwnaethost: ni chedwaist orchymyn yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a orchmynnodd efe i ti: canys yr ARGLWYDD yn awr a gadarnhasai dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd.
14
Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di: yr ARGLWYDD a geisiodd iddo ŵr wrth fodd ei galon ei hun: yr ARGLWYDD hefyd a orchmynnodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl; oherwydd na chedwaist ti yr hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD i ti.
15
A Samuel a gyfododd ac a aeth i fyny o Gilgal i Gibea Benjamin: a chyfrifodd Saul y bobl a gafwyd gydag ef, ynghylch chwe chant o wŷr.
16
A Saul a Jonathan ei fab, a'r bobl a gafwyd gyda hwynt, oedd yn aros yn Gibea Benjamin: a'r Philistiaid a wersyllasant ym Michmas.
17
A daeth allan o wersyll y Philistiaid anrheithwyr, yn dair byddin: un fyddin a drodd tua ffordd Offra, tua gwlad Sual;
18
A'r fyddin arall a drodd tua ffordd Beth-horon: a'r drydedd fyddin a drodd tua ffordd y terfyn sydd yn edrych tua dyffryn Seboim, tua'r anialwch.
19
Ac ni cheid gof trwy holl wlad Israel: canys dywedasai y Philistiaid, Rhag gwneuthur o'r Hebreaid gleddyfau neu waywffyn.
20
Ond holl Israel a aent i waered at y Philistiaid, i flaenllymu bob un ei swch, a'i gwlltwr, a'i fwyell, a'i gaib.
21
Ond yr oedd llifddur i wneuthur min ar y ceibiau, ac ar y cylltyrau, ac ar y picffyrch, ac ar y bwyeill, ac i flaenllymu'r symbylau.
22
Felly yn nydd y rhyfel ni chaed na chleddyf na gwaywffon yn llaw yr un o'r bobl oedd gyda Saul a Jonathan, ond a gaed gyda Saul a Jonathan ei fab.
23
A sefyllfa'r Philistiaid a aeth allan i fwlch Michmas.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31