bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 2
1 Samuel 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 3 →
1
A Hanna a weddïodd, ac a ddywedodd, Llawenychodd fy nghalon yn yr ARGLWYDD; fy nghorn a ddyrchafwyd yn yr ARGLWYDD: fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion: canys llawenychais yn dy iachawdwriaeth di.
2
Nid sanctaidd neb fel yr ARGLWYDD; canys nid dim hebot ti: ac nid oes graig megis ein DUW ni.
3
Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; na ddeued allan ddim balch o'ch genau: canys DUW gwybodaeth yw yr ARGLWYDD, a'i amcanion ef a gyflawnir.
4
Bwâu y cedyrn a dorrwyd, a'r gweiniaid a ymwregysasant â nerth.
5
Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a'r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgáu yr aml ei meibion.
6
Yr ARGLWYDD sydd yn marwhau, ac yn bywhau: efe sydd yn dwyn i waered i'r bedd, ac yn dwyn i fyny.
7
Yr ARGLWYDD sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu.
8
Efe sydd yn cyfodi'r tlawd o'r llwch, ac yn dyrchafu'r anghenus o'r tomennau, i'w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr ARGLWYDD colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt.
9
Traed ei saint a geidw efe, a'r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr.
10
Y rhai a ymrysonant â'r ARGLWYDD, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o'r nefoedd: yr ARGLWYDD a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i'w frenin, ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog.
11
Ac Elcana a aeth i Rama i'w dŷ; a'r bachgen a fu weinidog i'r ARGLWYDD gerbron Eli yr offeiriad.
12
A meibion Eli oedd feibion Belial: nid adwaenent yr ARGLWYDD.
13
A defod yr offeiriad gyda'r bobl oedd, pan offrymai neb aberth, gwas yr offeiriad a ddeuai pan fyddai y cig yn berwi, â chigwain dridant yn ei law;
14
Ac a'i trawai hi yn y badell, neu yn yr efyddyn, neu yn y crochan, neu yn y pair: yr hyn oll a gyfodai y gigwain, a gymerai yr offeiriad iddo. Felly y gwnaent yn Seilo i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno.
15
Hefyd cyn arogl-losgi ohonynt y braster, y deuai gwas yr offeiriad hefyd, ac a ddywedai wrth y gŵr a fyddai yn aberthu, Dyro gig i'w rostio i'r offeiriad: canys ni fyn efe gennyt gig berw, ond amrwd.
16
Ac os gŵr a ddywedai wrtho, Gan losgi llosgant yn awr y braster, ac yna cymer fel yr ewyllysio dy galon: yntau a ddywedai wrtho, Nage; yn awr y rhoddi ef: ac onid e, mi a'i cymeraf trwy gryfder.
17
Am hynny pechod y llanciau oedd fawr iawn gerbron yr ARGLWYDD: canys ffieiddiodd dynion offrwm yr ARGLWYDD.
18
A Samuel oedd yn gweini o flaen yr ARGLWYDD, yn fachgen, wedi ymwregysu ag effod liain.
19
A'i fam a wnâi iddo fantell fechan, ac a'i dygai iddo o flwyddyn i flwyddyn, pan ddelai hi i fyny gyda'i gŵr i aberthu yr aberth blynyddol.
20
Ac Eli a fendithiodd Elcana a'i wraig, ac a ddywedodd, Rhodded yr ARGLWYDD i ti had o'r wraig hon, am y dymuniad a ddymunodd gan yr ARGLWYDD. A hwy a aethant i'w mangre eu hun.
21
A'r ARGLWYDD a ymwelodd â Hanna; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar dri o feibion, a dwy o ferched: a'r bachgen Samuel a gynyddodd gerbron yr ARGLWYDD.
22
Ac Eli oedd hen iawn; ac efe a glybu yr hyn oll a wnaethai ei feibion ef i holl Israel, a'r modd y gorweddent gyda'r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
23
Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Paham y gwnaethoch y pethau hyn? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddrygair i chwi.
24
Nage, fy meibion: canys nid da y gair yr ydwyf fi yn ei glywed; eich bod chwi yn peri i bobl yr ARGLWYDD droseddu.
25
Os gŵr a becha yn erbyn gŵr, y swyddogion a'i barnant ef: ond os yn erbyn yr ARGLWYDD y pecha gŵr, pwy a eiriol drosto ef? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad, am y mynnai yr ARGLWYDD eu lladd hwynt.
26
A'r bachgen Samuel a gynyddodd, ac a aeth yn dda gan DDUW, a dynion hefyd.
27
A daeth gŵr i DDUW at Eli, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dad, pan oeddynt yn yr Aifft yn nhŷ Pharo?
28
Gan ei ddewis ef hefyd o holl lwythau Israel yn offeiriad i mi, i offrymu ar fy allor, i losgi arogl-darth, i wisgo effod ger fy mron? oni roddais hefyd i dŷ dy dad di holl ebyrth tanllyd meibion Israel?
29
Paham y sethrwch chwi fy aberth a'm bwyd-offrwm, y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pesgi eich hunain â'r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?
30
Am hynny medd ARGLWYDD DDUW Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o'm blaen i byth: eithr yn awr medd yr ARGLWYDD, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a'm dirmygwyr a ddirmygir.
31
Wele y dyddiau yn dyfod, pan dorrwyf dy fraich di, a braich tŷ dy dad, fel na byddo hen ŵr yn dy dŷ di.
32
A thi a gei weled gelyn yn fy nhrigfa, yn yr hyn oll a wna DUW o ddaioni i Israel: ac ni bydd hen ŵr yn dy dŷ di byth.
33
A'r gŵr o'r eiddot, yr hwn ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor, fydd i beri i'th lygaid ballu, ac i beri i'th galon ofidio: a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr.
34
A hyn fydd i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hoffni a Phinees: Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau.
35
A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlon a wna yn ôl fy nghalon a'm meddwl; a mi a adeiladaf iddo ef dŷ sicr, ac efe a rodia gerbron fy eneiniog yn dragywydd.
36
A bydd i bob un a adewir yn dy dŷ di ddyfod ac ymgrymu iddo ef am ddernyn o arian a thamaid o fara, a dywedyd, Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31