bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 9
1 Samuel 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 10 →
1
Ac yr oedd gŵr o Benjamin, a'i enw Cis, mab Abiel, mab Seror, mab Bechorath, mab Affeia, mab i ŵr o Jemini, yn gadarn o nerth.
2
Ac iddo ef yr oedd mab, a'i enw Saul, yn ŵr ieuanc, dewisol a glân: ac nid oedd neb o feibion Israel lanach nag ef: o'i ysgwydd i fyny yr oedd yn uwch na'r holl bobl.
3
Ac asynnod Cis, tad Saul, a gyfrgollasant: a dywedodd Cis wrth Saul ei fab, Cymer yn awr un o'r llanciau gyda thi, a chyfod, dos, cais yr asynnod.
4
Ac efe a aeth trwy fynydd Effraim, ac a dramwyodd trwy wlad Salisa, ac nis cawsant hwynt: yna y tramwyasant trwy wlad Salim, ac nis cawsant hwynt: ac efe a aeth trwy wlad Jemini, ond nis cawsant hwynt.
5
Pan ddaethant i wlad Suff, y dywedodd Saul wrth ei lanc oedd gydag ef, Tyred, a dychwelwn; rhag i'm tad beidio â'r asynnod, a gofalu amdanom ni.
6
Dywedodd yntau wrtho ef, Wele, yn awr y mae yn y ddinas hon ŵr i DDUW, a'r gŵr sydd anrhydeddus; yr hyn oll a ddywedo efe, gan ddyfod a ddaw: awn yno yn awr; nid hwyrach y mynega efe i ni y ffordd y mae i ni fyned iddi.
7
Yna y dywedodd Saul wrth ei lanc, Wele, od awn ni, pa beth a ddygwn ni i'r gŵr? canys y bara a ddarfu yn ein llestri ni, a gwobr arall nid oes i'w ddwyn i ŵr DUW: beth sydd gennym?
8
A'r llanc a atebodd eilwaith i Saul, ac a ddywedodd, Wele, cafwyd gyda mi bedwaredd ran sicl o arian: mi a roddaf hynny i ŵr DUW, er mynegi i ni ein ffordd.
9
(Gynt yn Israel, fel hyn y dywedai gŵr wrth fyned i ymgynghori â DUW; Deuwch, ac awn hyd at y gweledydd: canys y Proffwyd heddiw, a elwid gynt yn Weledydd.)
10
Yna y dywedodd Saul wrth ei lanc, Da y dywedi; tyred, awn. Felly yr aethant i'r ddinas yr oedd gŵr DUW ynddi.
11
Ac fel yr oeddynt yn myned i riw y ddinas, hwy a gawsant lancesau yn dyfod allan i dynnu dwfr; ac a ddywedasant wrthynt, A yw y gweledydd yma?
12
Hwythau a'u hatebasant hwynt, ac a ddywedasant, Ydyw; wele efe o'th flaen; brysia yr awr hon; canys heddiw y daeth efe i'r ddinas; oherwydd aberth sydd heddiw gan y bobl yn yr uchelfa.
13
Pan ddeloch gyntaf i'r ddinas, chwi a'i cewch ef, cyn ei fyned i fyny i'r uchelfa i fwyta; canys ni fwyty y bobl hyd oni ddelo efe, oherwydd efe a fendiga yr aberth; ar ôl hynny y bwyty y rhai a wahoddwyd: am hynny ewch i fyny; canys ynghylch y pryd hwn y cewch ef.
14
A hwy a aethant i fyny i'r ddinas; a phan ddaethant i ganol y ddinas, wele Samuel yn dyfod i'w cyfarfod, i fyned i fyny i'r uchelfa.
15
A'r ARGLWYDD a fynegasai yng nghlust Samuel, ddiwrnod cyn dyfod Saul, gan ddywedyd.
16
Ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf atat ti ŵr o wlad Benjamin; a thi a'i heneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel, ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid: canys edrychais ar fy mhobl; oherwydd daeth eu gwaedd ataf.
17
A phan ganfu Samuel Saul, yr ARGLWYDD a ddywedodd wrtho ef, Wele y gŵr am yr hwn y dywedais wrthyt: hwn a lywodraetha ar fy mhobl.
18
Yna Saul a nesaodd at Samuel yng nghanol y porth, ac a ddywedodd, Mynega i mi, atolwg, pa le yma y mae tŷ y gweledydd.
19
A Samuel a atebodd Saul, ac a ddywedodd, Myfi yw y gweledydd: dos i fyny o'm blaen i'r uchelfa; canys bwytewch gyda myfi heddiw: a mi a'th ollyngaf y bore, ac a fynegaf i ti yr hyn oll y sydd yn dy galon.
20
Ac am yr asynnod a gyfrgollasant er ys tridiau, na ofala amdanynt; canys cafwyd hwynt. Ac i bwy y mae holl bethau dymunol Israel? onid i ti, ac i holl dŷ dy dad?
21
A Saul a atebodd ac a ddywedodd, Onid mab Jemini ydwyf fi, o'r lleiaf o lwythau Israel? a'm teulu sydd leiaf o holl deuluoedd llwyth Benjamin? a phaham y dywedi wrthyf y modd hyn?
22
A Samuel a gymerth Saul a'i lanc, ac a'u dug hwynt i'r ystafell, ac a roddodd iddynt le o flaen y gwahoddedigion; a hwy oeddynt ynghylch dengwr ar hugain.
23
A Samuel a ddywedodd wrth y cog, Moes y rhan a roddais atat ti, am yr hon y dywedais wrthyt, Cadw hon gyda thi.
24
A'r cog a gyfododd yr ysgwyddog, a'r hyn oedd arni, ac a'i gosododd gerbron Saul. A Samuel a ddywedodd, Wele yr hyn a adawyd; gosod ger dy fron, a bwyta: canys hyd y pryd hwn y cadwyd ef i ti, er pan ddywedais, Y bobl a wahoddais i. A bwytaodd Saul gyda Samuel y dydd hwnnw.
25
A phan ddisgynasant o'r uchelfa i'r ddinas, Samuel a ymddiddanodd â Saul ar ben y tŷ.
26
A hwy a gyfodasant yn fore: ac ynghylch codiad y wawr, galwodd Samuel ar Saul i ben y tŷ, gan ddywedyd, Cyfod, fel y'th hebryngwyf ymaith. A Saul a gyfododd, ac efe a Samuel a aethant ill dau allan.
27
Ac fel yr oeddynt yn myned i waered i gwr eithaf y ddinas, Samuel a ddywedodd wrth Saul, Dywed wrth y llanc am fyned o'n blaen ni; (felly yr aeth efe;) ond saf di yr awr hon, a mynegaf i ti air DUW.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31