bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 7
1 Samuel 7
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 8 →
1
A gwŷr Ciriath-jearim a ddaethant, ac a gyrchasant i fyny arch yr ARGLWYDD, ac a'i dygasant hi i dŷ Abinadab, yn y bryn, ac a sancteiddiasant Eleasar ei fab ef i gadw arch yr ARGLWYDD.
2
Ac o'r dydd y trigodd yr arch yn Ciriath-jearim, y bu ddyddiau lawer; nid amgen nag ugain mlynedd: a holl dŷ Israel a alarasant ar ôl yr ARGLWYDD.
3
A Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel, gan ddywedyd, Os dychwelwch chwi at yr ARGLWYDD â'ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau dieithr o'ch mysg, ac Astaroth, a pharatowch eich calon at yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef yn unig; ac efe a'ch gwared chwi o law y Philistiaid.
4
Yna meibion Israel a fwriasant ymaith Baalim ac Astaroth, a'r ARGLWYDD yn unig a wasanaethasant.
5
A dywedodd Samuel, Cesglwch holl Israel i Mispa, a mi a weddïaf drosoch chwi at yr ARGLWYDD.
6
A hwy a ymgasglasant i Mispa, ac a dynasant ddwfr, ac a'i tywalltasant gerbron yr ARGLWYDD, ac a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a ddywedasant yno, Pechasom yn erbyn yr ARGLWYDD. A Samuel a farnodd feibion Israel ym Mispa.
7
A phan glybu y Philistiaid fod meibion Israel wedi ymgasglu i Mispa, arglwyddi'r Philistiaid a aethant i fyny yn erbyn Israel: a meibion Israel a glywsant, ac a ofnasant rhag y Philistiaid.
8
A meibion Israel a ddywedasant wrth Samuel, Na thaw di â gweiddi drosom at yr ARGLWYDD ein DUW, ar iddo ef ein gwared ni o law y Philistiaid.
9
A Samuel a gymerth laethoen, ac a'i hoffrymodd ef i gyd yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD: a Samuel a waeddodd ar yr ARGLWYDD dros Israel; a'r ARGLWYDD a'i gwrandawodd ef.
10
A phan oedd Samuel yn offrymu'r poethoffrwm, y Philistiaid a nesasant i ryfel yn erbyn Israel: a'r ARGLWYDD a daranodd â tharanau mawr yn erbyn y Philistiaid y diwrnod hwnnw, ac a'u drylliodd hwynt, a lladdwyd hwynt o flaen Israel.
11
A gwŷr Israel a aethant o Mispa, ac a erlidiasant y Philistiaid, ac a'u trawsant hyd oni ddaethant dan Bethcar.
12
A chymerodd Samuel faen, ac a'i gosododd rhwng Mispa a Sen, ac a alwodd ei enw ef Ebeneser; ac a ddywedodd, Hyd yma y cynorthwyodd yr ARGLWYDD nyni.
13
Felly y darostyngwyd y Philistiaid, ac ni chwanegasant mwyach ddyfod i derfyn Israel: a llaw yr ARGLWYDD a fu yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Samuel.
14
A'r dinasoedd, y rhai a ddygasai y Philistiaid oddi ar Israel, a roddwyd adref i Israel, o Ecron hyd Gath; ac Israel a ryddhaodd eu terfynau o law y Philistiaid: ac yr oedd heddwch rhwng Israel a'r Amoriaid.
15
A Samuel a farnodd Israel holl ddyddiau ei fywyd.
16
Aeth hefyd o flwyddyn i flwyddyn oddi amgylch i Bethel, a Gilgal, a Mispa, ac a farnodd Israel yn yr holl leoedd hynny.
17
A'i ddychwelfa ydoedd i Rama; canys yno yr oedd ei dŷ ef: yno hefyd y barnai efe Israel; ac yno yr adeiladodd efe allor i'r ARGLWYDD.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31