bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 26
1 Samuel 26
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 27 →
1
A'r Siffiaid a ddaethant at Saul i Gibea, gan ddywedyd, Onid ydyw Dafydd yn llechu ym mryn Hachila, ar gyfer y diffeithwch?
2
Yna y cyfododd Saul, ac a aeth i waered i anialwch Siff, a thair mil o etholedigion gwŷr Israel gydag ef, i geisio Dafydd yn anialwch Siff.
3
A Saul a wersyllodd ym mryn Hachila, yr hwn sydd ar gyfer y diffeithwch, wrth y ffordd: a Dafydd oedd yn aros yn yr anialwch; ac efe a welodd fod Saul yn dyfod ar ei ôl ef i'r anialwch.
4
Am hynny Dafydd a anfonodd ysbïwyr, ac a wybu ddyfod o Saul yn sicr.
5
A Dafydd a gyfododd, ac a ddaeth i'r lle y gwersyllasai Saul ynddo: a chanfu Dafydd y lle yr oedd Saul yn gorwedd ynddo, ac Abner mab Ner, tywysog ei lu. A Saul oedd yn gorwedd yn y wersyllfa, a'r bobl yn gwersyllu o'i amgylch ef.
6
Yna y llefarodd Dafydd, ac y dywedodd wrth Ahimelech yr Hethiad, ac wrth Abisai mab Serfia, brawd Joab, gan ddywedyd, Pwy a â i waered gyda mi at Saul i'r gwersyll? A dywedodd Abisai, Myfi a af i waered gyda thi.
7
Felly y daeth Dafydd ac Abisai at y bobl liw nos. Ac wele Saul yn gorwedd ac yn cysgu yn y wersyllfa, a'i waywffon wedi ei gwthio i'r ddaear wrth ei obennydd ef: ac Abner a'r bobl oedd yn gorwedd o'i amgylch ef.
8
Yna y dywedodd Abisai wrth Dafydd, DUW a roddes heddiw dy elyn yn dy law di: yn awr gan hynny gad i mi ei daro ef, atolwg, â gwaywffon, hyd y ddaear un waith, ac nis aildrawaf ef.
9
A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, Na ddifetha ef: canys pwy a estynnai ei law yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD, ac a fyddai ddieuog?
10
Dywedodd Dafydd hefyd, Fel y mae yr ARGLWYDD yn fyw, naill ai yr ARGLWYDD a'i tery ef; ai ei ddydd ef a ddaw i farw; ai efe a ddisgyn i'r rhyfel, ac a ddifethir.
11
Yr ARGLWYDD a'm cadwo i rhag estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD: ond yn awr, cymer, atolwg, y waywffon sydd wrth ei obennydd ef, a'r llestr dwfr, ac awn ymaith.
12
A Dafydd a gymerth y waywffon, a'r llestr dwfr oddi wrth obennydd Saul; a hwy a aethant ymaith; ac nid oedd neb yn gweled, nac yn gwybod, nac yn neffro: canys yr oeddynt oll yn cysgu; oherwydd trymgwsg oddi wrth yr ARGLWYDD a syrthiasai arnynt hwy.
13
Yna Dafydd a aeth i'r tu hwnt, ac a safodd ar ben y mynydd o hirbell; ac encyd fawr rhyngddynt;
14
A Dafydd a lefodd ar y bobl, ac ar Abner mab Ner, gan ddywedyd, Onid atebi di, Abner? Yna Abner a atebodd, ac a ddywedodd, Pwy ydwyt ti sydd yn llefain ar y brenin?
15
A Dafydd a ddywedodd wrth Abner, Onid gŵr ydwyt ti? a phwy sydd fel ti yn Israel? a phaham na chedwaist dy arglwydd frenin? canys daeth un o'r bobl i ddifetha'r brenin dy arglwydd di.
16
Nid da y peth hyn a wnaethost ti. Fel y mae yr ARGLWYDD yn fyw, meibion euog o farwolaeth ydych chwi, am na chadwasoch eich meistr, eneiniog yr ARGLWYDD. Ac yn awr edrychwch pa le y mae gwaywffon y brenin, a'r llestr dwfr oedd wrth ei obennydd ef.
17
A Saul a adnabu lais Dafydd, ac a ddywedodd, Ai dy lais di yw hwn, fy mab Dafydd? A dywedodd Dafydd, Fy llais i ydyw, fy arglwydd frenin.
18
Dywedodd hefyd, Paham y mae fy arglwydd fel hyn yn erlid ar ôl ei was? canys beth a wneuthum? neu pa ddrygioni sydd yn fy llaw?
19
Yn awr gan hynny, atolwg, gwrandawed fy arglwydd frenin eiriau ei wasanaethwr. Os yr ARGLWYDD a'th anogodd di i'm herbyn, arogled offrwm: ond os meibion dynion, melltigedig fyddant hwy gerbron yr ARGLWYDD; oherwydd hwy a'm gyrasant i allan heddiw, fel nad ydwyf yn cael glynu yn etifeddiaeth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Dos, gwasanaetha dduwiau dieithr.
20
Yn awr, gan hynny, na syrthied fy ngwaed i i'r ddaear o flaen wyneb yr ARGLWYDD: canys brenin Israel a ddaeth allan i geisio chwannen, megis un yn hela petris yn y mynyddoedd.
21
Yna Saul a ddywedodd, Pechais: dychwel, Dafydd fy mab: canys ni'th ddrygaf mwy; oherwydd gwerthfawr fu fy einioes i yn dy olwg di y dydd hwn: wele, ynfyd y gwneuthum, a mi a gyfeiliornais yn ddirfawr.
22
A Dafydd a atebodd, ac a ddywedodd, Wele waywffon y brenin; deled un o'r llanciau drosodd, a chyrched hi.
23
Yr ARGLWYDD a dalo i bob un ei gyfiawnder a'i ffyddlondeb: canys yr ARGLWYDD a'th roddodd di heddiw yn fy llaw i; ond nid estynnwn i fy llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD.
24
Ac wele, megis y bu werthfawr dy einioes di heddiw yn fy ngolwg i, felly gwerthfawr fyddo fy einioes innau yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwareded fi o bob cyfyngdra.
25
Yna y dywedodd Saul wrth Dafydd, Bendigedig fych di, fy mab Dafydd: hefyd ti a wnei fawredd, ac a orchfygi rhag llaw. A Dafydd a aeth i ffordd; a Saul a ddychwelodd i'w fangre ei hun.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31