bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 21
1 Samuel 21
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 22 →
1
Yna y daeth Dafydd i Nob at Ahimelech yr offeiriad. Ac Ahimelech a ddychrynodd wrth gyfarfod â Dafydd; ac a ddywedodd wrtho, Paham yr ydwyt ti yn unig, ac heb neb gyda thi?
2
A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech yr offeiriad, Y brenin a orchmynnodd i mi beth, ac a ddywedodd wrthyf, Na chaed neb wybod dim o'r peth am yr hwn y'th anfonais, ac y gorchmynnais i ti: a'r gweision a gyfarwyddais i i'r lle a'r lle.
3
Ac yn awr beth sydd dan dy law? dod i mi bum torth yn fy llaw, neu y peth sydd i'w gael.
4
A'r offeiriad a atebodd Dafydd, ac a ddywedodd, Nid oes fara cyffredin dan fy llaw i; eithr y mae bara cysegredig: os y llanciau a ymgadwasant o'r lleiaf oddi wrth wragedd.
5
A Dafydd a atebodd yr offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, Diau atal gwragedd oddi wrthym ni er ys dau ddydd neu dri, er pan gychwynnais i; llestri y llanciau hefyd ydynt sanctaidd, a'r bara sydd megis cyffredin, ie, petai wedi ei gysegru heddiw yn y llestr.
6
Felly yr offeiriad a roddodd iddo ef y bara sanctaidd: canys nid oedd yno fara, ond y bara gosod, yr hwn a dynasid ymaith oddi gerbron yr ARGLWYDD, i osod bara brwd yn y dydd y tynnid ef ymaith.
7
Ac yr oedd yno y diwrnod hwnnw un o weision Saul yn aros gerbron yr ARGLWYDD, a'i enw Doeg, Edomiad, y pennaf o'r bugeiliaid oedd gan Saul.
8
A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech, Onid oes yma dan dy law di waywffon, neu gleddyf? canys ni ddygais fy nghleddyf na'm harfau chwaith i'm llaw, oherwydd bod gorchymyn y brenin ar ffrwst.
9
A dywedodd yr offeiriad, Cleddyf Goleiath y Philistiad, yr hwn a leddaist ti yn nyffryn Ela; wele ef wedi ei oblygu mewn brethyn o'r tu ôl i'r effod: o chymeri hwnnw i ti, cymer; canys nid oes yma yr un arall ond hwnnw. A Dafydd a ddywedodd, Nid oes o fath hwnnw; dyro ef i mi.
10
Dafydd hefyd a gyfododd, ac a ffodd y dydd hwnnw rhag ofn Saul, ac a aeth at Achis brenin Gath.
11
A gweision Achis a ddywedasant wrtho ef, Onid hwn yw Dafydd brenin y wlad? onid i hwn y canasant yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn?
12
A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon, ac a ofnodd yn ddirfawr rhag Achis brenin Gath.
13
Ac efe a newidiodd ei wedd yn eu golwg hwynt; ac a gymerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt, ac a gripiodd ddrysau y porth, ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf.
14
Yna y dywedodd Achis wrth ei weision, Wele, gwelwch y gŵr yn gwallgofi; paham y dygasoch ef ataf fi?
15
Ai eisiau ynfydion sydd arnaf fi, pan ddygasoch hwn i ynfydu o'm blaen i? a gaiff hwn ddyfod i'm tŷ i?
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31