bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 23
1 Samuel 23
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 24 →
1
Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Wele y Philistiaid yn ymladd yn erbyn Ceila; ac y maent hwy yn anrheithio yr ysguboriau.
2
Am hynny y gofynnodd Dafydd i'r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A af fi a tharo'r Philistiaid hyn? A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Dafydd, Dos, a tharo'r Philistiaid, ac achub Ceila.
3
A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele ni yn ofnus yma yn Jwda: pa faint mwy os awn i Ceila, yn erbyn byddinoedd y Philistiaid?
4
Yna Dafydd eilwaith a ymgynghorodd â'r ARGLWYDD. A'r ARGLWYDD a'i hatebodd ef, ac a ddywedodd, Cyfod, dos i waered i Ceila; canys myfi a roddaf y Philistiaid yn dy law di.
5
A Dafydd a'i wŷr a aethant i Ceila, ac a ymladdodd â'r Philistiaid: ac a ddug eu gwartheg hwynt, ac a'u trawodd hwynt â lladdfa fawr. Felly y gwaredodd Dafydd drigolion Ceila.
6
A bu, pan ffodd Abiathar mab Ahimelech at Dafydd i Ceila, ddwyn ohono ef effod yn ei law.
7
A mynegwyd i Saul ddyfod Dafydd i Ceila. A dywedodd Saul, DUW a'i rhoddodd ef yn fy llaw i: canys caewyd arno ef pan ddaeth i ddinas â phyrth ac â barrau iddi.
8
A Saul a alwodd yr holl bobl ynghyd i ryfel, i fyned i waered i Ceila, i warchae ar Dafydd ac ar ei wŷr.
9
A gwybu Dafydd fod Saul yn bwriadu drwg i'w erbyn ef: ac efe a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad, Dwg yr effod.
10
Yna y dywedodd Dafydd, O ARGLWYDD DDUW Israel, gan glywed y clybu dy was, fod Saul yn ceisio dyfod i Ceila, i ddistrywio y ddinas er fy mwyn i.
11
A ddyry arglwyddi Ceila fi yn ei law ef? a ddaw Saul i waered, megis y clybu dy was? O ARGLWYDD DDUW Israel, mynega, atolwg, i'th was. A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Efe a ddaw i waered.
12
Yna y dywedodd Dafydd, A ddyry arglwyddi Ceila fyfi a'm gwŷr yn llaw Saul? A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Rhoddant.
13
Yna y cyfododd Dafydd a'i wŷr, y rhai oedd ynghylch chwe chant, ac a aethant o Ceila, ac a rodiasant lle y gallent. A mynegwyd i Saul, fod Dafydd wedi dianc o Ceila; ac efe a beidiodd â myned allan.
14
A Dafydd a arhosodd yn yr anialwch mewn amddiffynfeydd, ac a arhodd mewn mynydd, yn anialwch Siff: a Saul a'i ceisiodd ef bob dydd: ond ni roddodd DUW ef yn ei law ef.
15
A gwelodd Dafydd fod Saul wedi myned allan i geisio ei einioes ef: a Dafydd oedd yn anialwch Siff, mewn coed.
16
A Jonathan mab Saul a gyfododd, ac a aeth at Dafydd i'r coed; ac a gryfhaodd ei law ef yn NUW.
17
Dywedodd hefyd wrtho ef, Nac ofna: canys llaw Saul fy nhad ni'th gaiff di; a thi a deyrnesi ar Israel, a minnau a fyddaf yn nesaf atat ti: a Saul fy nhad sydd yn gwybod hyn hefyd.
18
A hwy ill dau a wnaethant gyfamod gerbron yr ARGLWYDD. A Dafydd a arhosodd yn y coed; a Jonathan a aeth i'w dŷ ei hun.
19
Yna y daeth y Siffiaid i fyny at Saul i Gibea, gan ddywedyd, Onid yw Dafydd yn ymguddio gyda ni mewn amddiffynfeydd yn y coed, ym mryn Hachila, yr hwn sydd o'r tu deau i'r diffeithwch?
20
Ac yn awr, O frenin, tyred i waered yn ôl holl ddymuniad dy galon; a bydded arnom ni ei roddi ef yn llaw y brenin.
21
A dywedodd Saul, Bendigedig fyddoch chwi gan yr ARGLWYDD: canys tosturiasoch wrthyf.
22
Ewch, atolwg, paratowch; eto mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch am ei gyniweirfa ef, lle y mae efe yn tramwy, a phwy a'i gwelodd ef yno; canys dywedwyd i mi ei fod ef yn gyfrwys iawn.
23
Edrychwch gan hynny, a mynnwch wybod yr holl lochesau y mae efe yn ymguddio ynddynt, a dychwelwch ataf fi â sicrwydd, fel yr elwyf gyda chwi; ac os bydd efe yn y wlad, mi a chwiliaf amdano ef trwy holl filoedd Jwda.
24
A hwy a gyfodasant, ac a aethant i Siff o flaen Saul: ond Dafydd a'i wŷr oedd yn anialwch Maon, yn y rhos o'r tu deau i'r diffeithwch.
25
Saul hefyd a'i wŷr a aeth i'w geisio ef. A mynegwyd i Dafydd: am hynny efe a ddaeth i waered i graig, ac a arhosodd yn anialwch Maon. A phan glybu Saul hynny, efe a erlidiodd ar ôl Dafydd yn anialwch Maon.
26
A Saul a aeth o'r naill du i'r mynydd, a Dafydd a'i wŷr o'r tu arall i'r mynydd; ac yr oedd Dafydd yn brysio i fyned ymaith rhag ofn Saul; canys Saul a'i wŷr a amgylchynasant Dafydd a'i wŷr, i'w dala hwynt.
27
Ond cennad a ddaeth at Saul, gan ddywedyd, Brysia, a thyred: canys y Philistiaid a ymdaenasant ar hyd y wlad.
28
Am hynny y dychwelodd Saul o erlid ar ôl Dafydd; ac efe a aeth yn erbyn y Philistiaid: oherwydd hynny y galwasant y fan honno Sela Hamma-lecoth.
29
A Dafydd a aeth i fyny oddi yno, ac a arhosodd yn amddiffynfeydd En-gedi.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31