bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 31
1 Samuel 31
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
1
A'r Philistiad oedd yn ymladd yn erbyn Israel: a gwŷr Israel a ffoesant rhag y Philistiaid, ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa.
2
A'r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul a'i feibion; a'r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul.
3
A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul, a'r gwŷr bwâu a'i cawsant ef; ac efe a archollwyd yn dost gan y saethyddion.
4
Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a thrywana fi ag ef; rhag i'r rhai dienwaededig yma ddyfod a'm trywanu i, a'm gwaradwyddo. Ond ni fynnai ei yswain ef; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr: am hynny Saul a gymerodd gleddyf, ac a syrthiodd arno.
5
A phan welodd ei yswain farw o Saul, yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu farw gydag ef.
6
Felly y bu farw Saul, a'i dri mab, a'i yswain, a'i holl wŷr, y dydd hwnnw ynghyd.
7
A phan welodd gwŷr Israel, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r dyffryn, a'r rhai oedd o'r tu hwnt i'r Iorddonen, ffoi o wŷr Israel, a marw Saul a'i feibion, hwy a adawsant y dinasoedd, ac a ffoesant; a'r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt.
8
A'r bore, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a'i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa.
9
A hwy a dorasant ei ben ef, ac a ddiosgasant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth, i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt, ac ymysg y bobl.
10
A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth; a'i gorff ef a hoeliasant hwy ar fur Bethsan.
11
A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul;
12
Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant, a gerddasant ar hyd y nos, ac a ddygasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, oddi ar fur Bethsan, ac a ddaethant i Jabes, ac a'u llosgasant hwynt yno.
13
A hwy a gymerasant eu hesgyrn hwynt, ac a'u claddasant dan bren yn Jabes, ac ymprydiasant saith niwrnod.
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31