bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 29
1 Samuel 29
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 30 →
1
Yna y Philistiaid a gynullasant eu holl fyddinoedd i Affec: a'r Israeliaid oedd yn gwersyllu wrth ffynnon sydd yn Jesreel.
2
A thywysogion y Philistiaid oedd yn tramwy yn gannoedd, ac yn filoedd: ond Dafydd a'i wŷr oedd yn cerdded yn olaf gydag Achis.
3
Yna tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, Beth a wna yr Hebreaid hyn yma? Ac Achis a ddywedodd wrth dywysogion y Philistiaid, Onid dyma Dafydd, gwas Saul brenin Israel, yr hwn a fu gyda mi y dyddiau hyn, neu y blynyddoedd hyn, ac ni chefais ddim bai ynddo ef, er y dydd y syrthiodd efe ataf hyd y dydd hwn?
4
A thywysogion y Philistiaid a lidiasant wrtho; a thywysogion y Philistiaid a ddywedasant wrtho, Gwna i'r gŵr hwn ddychwelyd i'w le a osodaist iddo, ac na ddeled i waered gyda ni i'r rhyfel; rhag ei fod yn wrthwynebwr i ni yn y rhyfel: canys â pha beth y rhyngai hwn fodd i'w feistr? onid â phennau y gwŷr hyn?
5
Onid hwn yw Dafydd, am yr hwn y canasant wrth ei gilydd yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn?
6
Yna Achis a alwodd Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel mai byw yr ARGLWYDD, diau dy fod di yn uniawn, ac yn dda yn fy ngolwg i, pan elit allan a phan ddelit i mewn gyda mi yn y gwersyll: canys ni chefais ynot ddrygioni, o'r dydd y daethost ataf fi hyd y dydd hwn: eithr nid wyt ti wrth fodd y tywysogion.
7
Dychwel yn awr, gan hynny, a dos mewn heddwch, ac na anfodlona dywysogion y Philistiaid.
8
A dywedodd Dafydd wrth Achis, Ond beth a wneuthum i? a pheth a gefaist ti yn dy was, o'r dydd y deuthum o'th flaen di hyd y dydd hwn, fel na ddelwn i ymladd yn erbyn gelynion fy arglwydd frenin?
9
Ac Achis a atebodd ac a ddywedodd wrth Dafydd, Gwn mai da wyt ti yn fy ngolwg i, megis angel DUW: ond tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, Ni ddaw efe i fyny gyda ni i'r rhyfel.
10
Am hynny yn awr cyfod yn fore, a gweision dy feistr y rhai a ddaethant gyda thi: a phan gyfodoch yn fore, a phan oleuo i chwi ewch ymaith.
11
Felly Dafydd a gyfododd, efe a'i wŷr, i fyned ymaith y bore, i ddychwelyd i dir y Philistiaid. A'r Philistiaid a aethant i fyny i Jesreel.
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 30 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31