bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 20
1 Samuel 20
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 21 →
1
A Dafydd a ffodd o Naioth yn Rama: ac a ddaeth, ac a ddywedodd gerbron Jonathan, Beth a wneuthum i? beth yw fy anwiredd? a pheth yw fy mhechod o flaen dy dad di, gan ei fod efe yn ceisio fy einioes i?
2
Ac efe a ddywedodd wrtho, Na ato DUW; ni byddi farw: wele, ni wna fy nhad ddim, na mawr na bychan, heb ei fynegi i mi: paham gan hynny y celai fy nhad y peth hyn oddi wrthyf fi? Nid felly y mae.
3
A Dafydd a dyngodd eilwaith, ac a ddywedodd, Dy dad a ŵyr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di; am hynny y dywed, Na chaed Jonathan wybod hyn, rhag ei dristáu ef: cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a'th enaid dithau yn fyw, nid oes ond megis cam rhyngof fi ac angau.
4
Yna y dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dywed beth yw dy ewyllys, a mi a'i cwblhaf i ti.
5
A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Wele, y dydd cyntaf o'r mis yw yfory, a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda'r brenin i fwyta: ond gollwng fi, fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y trydydd dydd.
6
Os dy dad a ymofyn yn fanwl amdanaf; yna dywed, Dafydd gan ofyn a ofynnodd gennad gennyf fi, i redeg i Bethlehem, ei ddinas ei hun: canys aberth blynyddol sydd yno i'r holl genedl.
7
Os fel hyn y dywed efe, Da; heddwch fydd i'th was: ond os gan ddigio y digia efe, gwybydd fod ei fryd ef ar ddrwg.
8
Gwna gan hynny drugaredd â'th was; canys i gyfamod yr ARGLWYDD y dygaist dy was gyda thi: ac od oes anwiredd ynof fi, lladd di fi; canys i ba beth y dygi fi at dy dad?
9
A dywedodd Jonathan, Na ato DUW hynny i ti: canys, os gan wybod y cawn wybod fod malais wedi ei baratoi gan fy nhad i ddyfod i'th erbyn, onis mynegwn i ti?
10
A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Pwy a fynega i mi? neu beth os dy dad a'th etyb yn arw?
11
A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Tyred, ac awn i'r maes. A hwy a aethant ill dau i'r maes.
12
A Jonathan a ddywedodd wrth Dafydd, O ARGLWYDD DDUW Israel, wedi i mi chwilio meddwl fy nhad, ynghylch y pryd hwn yfory, neu drennydd; ac wele, os daioni fydd tuag at Dafydd, ac oni anfonaf yna atat ti, a'i fynegi i ti;
13
Fel hyn y gwnêl yr ARGLWYDD i Jonathan, ac ychwaneg: os da fydd gan fy nhad wneuthur drwg i ti; yna y mynegaf i ti, ac a'th ollyngaf ymaith, fel yr elych mewn heddwch: a bydded yr ARGLWYDD gyda thi, megis y bu gyda'm tad i.
14
Ac nid yn unig tra fyddwyf fi byw, y gwnei drugaredd yr ARGLWYDD â mi, fel na byddwyf fi marw:
15
Ond hefyd na thor ymaith dy drugaredd oddi wrth fy nhŷ i byth: na chwaith pan ddistrywio yr ARGLWYDD elynion Dafydd, bob un oddi ar wyneb y ddaear.
16
Felly y cyfamododd Jonathan â thŷ Dafydd; ac efe a ddywedodd, Gofynned yr ARGLWYDD hyn ar law gelynion Dafydd.
17
A Jonathan a wnaeth i Dafydd yntau dyngu, oherwydd efe a'i carai ef: canys fel y carai ei enaid ei hun, y carai efe ef.
18
A Jonathan a ddywedodd wrtho ef, Yfory yw y dydd cyntaf o'r mis: ac ymofynnir amdanat; oherwydd fe fydd dy eisteddle yn wag.
19
Ac wedi i ti aros dridiau, yna tyred i waered yn fuan; a thyred i'r lle yr ymguddiaist ynddo pan oedd y peth ar waith, ac aros wrth faen Esel.
20
A mi a saethaf dair o saethau tua'i ystlys ef, fel pes gollyngwn hwynt at nod.
21
Wele hefyd, mi a anfonaf lanc, gan ddywedyd, Dos, cais y saethau. Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o'r tu yma i ti, dwg hwynt; yna tyred di: canys heddwch sydd i ti, ac nid oes dim niwed, fel mai byw yw yr ARGLWYDD.
22
Ond os fel hyn y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o'r tu hwnt i ti; dos ymaith; canys yr ARGLWYDD a'th anfonodd ymaith.
23
Ac am y peth a leferais i, mi a thi, wele yr ARGLWYDD fyddo rhyngof fi a thi yn dragywydd.
24
Felly Dafydd a ymguddiodd yn y maes. A phan ddaeth y dydd cyntaf o'r mis, y brenin a eisteddodd i fwyta bwyd.
25
A'r brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa, megis ar amseroedd eraill; sef ar yr eisteddfa wrth y pared; a Jonathan a gyfododd, ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul; a lle Dafydd oedd wag.
26
Ac nid ynganodd Saul ddim y diwrnod hwnnw: canys meddyliodd mai damwain oedd hyn; nad oedd efe lân, a'i fod yn aflan.
27
A bu drannoeth, yr ail ddydd o'r mis, fod lle Dafydd yn wag. A dywedodd Saul wrth Jonathan ei fab, Paham na ddaeth mab Jesse at y bwyd, na doe na heddiw?
28
A Jonathan a atebodd Saul, Dafydd gan ofyn a ofynnodd i mi am gael myned hyd Bethlehem:
29
Ac efe a ddywedodd, Gollwng fi, atolwg; oherwydd i'n tylwyth ni y mae aberth yn y ddinas, a'm brawd yntau a archodd i mi fod yno: ac yn awr, o chefais ffafr yn dy olwg, gad i mi fyned, atolwg, fel y gwelwyf fy mrodyr. Oherwydd hyn, ni ddaeth efe i fwrdd y brenin.
30
Yna y llidiodd dicter Saul yn erbyn Jonathan; ac efe a ddywedodd wrtho, Ti fab y gyndyn wrthnysig, oni wn i ti ddewis mab Jesse yn waradwydd i ti, ac yn gywilydd i noethder dy fam?
31
Canys tra fyddo mab Jesse yn fyw ar y ddaear, ni'th sicrheir di na'th deyrnas: yn awr gan hynny anfon, a chyrch ef ataf; canys marw a gaiff efe.
32
A Jonathan a atebodd Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Paham y bydd efe marw? beth a wnaeth efe?
33
A Saul a ergydiodd waywffon ato ef, i'w daro ef. Wrth hyn y gwybu Jonathan fod ei dad ef wedi rhoi ei fryd ar ladd Dafydd.
34
Felly Jonathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid dicllon, ac ni fwytaodd fwyd yr ail ddydd o'r mis: canys drwg oedd ganddo dros Dafydd, oherwydd i'w dad ei waradwyddo ef.
35
A'r bore yr aeth Jonathan i'r maes erbyn yr amser a osodasai efe i Dafydd, a bachgen bychan gydag ef.
36
Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen, Rhed, cais yn awr y saethau yr ydwyf fi yn eu saethu. A'r bachgen a redodd: yntau a saethodd saeth y tu hwnt iddo ef.
37
A phan ddaeth y bachgen hyd y fan yr oedd y saeth a saethasai Jonathan, y llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, ac a ddywedodd, Onid yw y saeth o'r tu hwnt i ti?
38
A llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, Cyflyma, brysia, na saf. A bachgen Jonathan a gasglodd y saethau, ac a ddaeth at ei feistr.
39
A'r bachgen ni wyddai ddim: yn unig Jonathan a Dafydd a wyddent y peth.
40
A Jonathan a roddodd ei offer at ei fachgen, ac a ddywedodd wrtho, Dos, dwg y rhai hyn i'r ddinas.
41
A'r bachgen a aeth ymaith; a Dafydd a gyfododd oddi wrth y deau, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd dair gwaith. A hwy a gusanasant bob un ei gilydd, ac a wylasant y naill wrth y llall; a Dafydd a ragorodd.
42
A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dos mewn heddwch: yr hyn a dyngasom ni ein dau yn enw yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD fyddo rhyngof fi a thi, a rhwng fy had i a'th had dithau, safed hynny yn dragywydd. Ac efe a gyfododd ac a aeth ymaith: a Jonathan a aeth i'r ddinas.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31