bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 3
1 Samuel 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 4 →
1
A'r bachgen Samuel a wasanaethodd yr ARGLWYDD gerbron Eli. A gair yr ARGLWYDD oedd werthfawr yn y dyddiau hynny; nid oedd weledigaeth eglur.
2
A'r pryd hwnnw, pan oedd Eli yn gorwedd yn ei fangre, wedi i'w lygaid ef ddechrau tywyllu, fel na allai weled;
3
A chyn i lamp DUW ddiffoddi yn nheml yr ARGLWYDD, lle yr oedd arch DUW, a Samuel oedd wedi gorwedd i gysgu:
4
Yna y galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel. Dywedodd yntau, Wele fi.
5
Ac efe a redodd at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Ni elwais i; dychwel a gorwedd. Ac efe a aeth ac a orweddodd.
6
A'r ARGLWYDD a alwodd eilwaith, Samuel. A Samuel a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Na elwais, fy mab; dychwel a gorwedd.
7
Ac nid adwaenai Samuel eto yr ARGLWYDD, ac nid eglurasid iddo ef air yr ARGLWYDD eto.
8
A'r ARGLWYDD a alwodd Samuel drachefn y drydedd waith. Ac efe a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. A deallodd Eli mai yr ARGLWYDD a alwasai ar y bachgen.
9
Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel, Dos, gorwedd: ac os geilw efe arnat, dywed, Llefara, ARGLWYDD; canys y mae dy was yn clywed. Felly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei le.
10
A daeth yr ARGLWYDD, ac a safodd, ac a alwodd megis o'r blaen, Samuel, Samuel. A dywedodd Samuel, Llefara; canys y mae dy was yn clywed.
11
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Wele fi yn gwneuthur peth yn Israel, yr hwn pwy bynnag a'i clywo, fe a ferwina ei ddwy glust ef.
12
Yn y dydd hwnnw y dygaf i ben yn erbyn Eli yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef, gan ddechrau a diweddu ar unwaith.
13
Mynegais hefyd iddo ef, y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd a ŵyr efe; oherwydd i'w feibion haeddu iddynt felltith, ac nas gwaharddodd efe iddynt.
14
Ac am hynny y tyngais wrth dŷ Eli, na wneir iawn am anwiredd tŷ Eli ag aberth, nac â bwyd-offrwm byth.
15
A Samuel a gysgodd hyd y bore, ac a agorodd ddrysau tŷ yr ARGLWYDD: a Samuel oedd yn ofni mynegi y weledigaeth i Eli.
16
Ac Eli a alwodd ar Samuel, ac a ddywedodd, Samuel fy mab. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
17
Ac efe a ddywedodd, Beth yw y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrthyt? na chela, atolwg, oddi wrthyf: fel hyn y gwnelo DUW i ti, ac fel hyn y chwanego, os celi oddi wrthyf ddim o'r holl bethau a lefarodd efe wrthyt.
18
A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo. Dywedodd yntau, Yr ARGLWYDD yw efe: gwnaed a fyddo da yn ei olwg.
19
A chynyddodd Samuel; a'r ARGLWYDD oedd gydag ef, ac ni adawodd i un o'i eiriau ef syrthio i'r ddaear.
20
A gwybu holl Israel, o Dan hyd Beerseba, mai proffwyd ffyddlon yr ARGLWYDD oedd Samuel.
21
A'r ARGLWYDD a ymddangosodd drachefn yn Seilo: canys yr ARGLWYDD a ymeglurhaodd i Samuel yn Seilo trwy air yr ARGLWYDD.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31