bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 16
1 Samuel 16
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 17 →
1
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Samuel, Pa hyd y galeri di am Saul, gan i mi ei fwrw ef ymaith o deyrnasu ar Israel? Llanw dy gorn ag olew, a dos; mi a'th anfonaf di at Jesse y Bethlehemiad: canys ymysg ei feibion ef y darperais i mi frenin.
2
A Samuel a ddywedodd, Pa fodd yr af fi? os Saul a glyw, efe a'm lladd i. A dywedodd yr ARGLWYDD, Cymer anner-fuwch gyda thi, a dywed, Deuthum i aberthu i'r ARGLWYDD.
3
A galw Jesse i'r aberth, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych: a thi a eneini i mi yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
4
A gwnaeth Samuel yr hyn a archasai yr ARGLWYDD, ac a ddaeth i Bethlehem. A henuriaid y ddinas a ddychrynasant wrth gyfarfod ag ef; ac a ddywedasant, Ai heddychlon dy ddyfodiad?
5
Ac efe a ddywedodd, Heddychlon: deuthum i aberthu i'r ARGLWYDD: ymsancteiddiwch, a deuwch gyda mi i'r aberth. Ac efe a sancteiddiodd Jesse a'i feibion, ac a'u galwodd hwynt i'r aberth.
6
A phan ddaethant, efe a edrychodd ar Eliab; ac a ddywedodd, Diau fod eneiniog yr ARGLWYDD ger ei fron ef.
7
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Samuel, Nac edrych ar ei wynepryd ef, nac ar uchder ei gorffolaeth ef: canys gwrthodais ef. Oherwydd nid edrych DUW fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad; ond yr ARGLWYDD a edrych ar y galon.
8
Yna Jesse a alwodd Abinadab, ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr ARGLWYDD hwn chwaith.
9
Yna y gwnaeth Jesse i Samma ddyfod. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr ARGLWYDD hwn chwaith.
10
Yna y parodd Jesse i'w saith mab ddyfod gerbron Samuel. A Samuel a ddywedodd wrth Jesse, Ni ddewisodd yr ARGLWYDD y rhai hyn.
11
Dywedodd Samuel hefyd wrth Jesse, Ai dyma dy holl blant? Yntau a ddywedodd, Yr ieuangaf eto sydd yn ôl; ac wele, mae efe yn bugeilio'r defaid. A dywedodd Samuel wrth Jesse, Danfon, a chyrch ef: canys nid eisteddwn ni i lawr nes ei ddyfod ef yma.
12
Ac efe a anfonodd, ac a'i cyrchodd ef. Ac efe oedd writgoch, a theg yr olwg, a hardd o wedd. A dywedodd yr ARGLWYDD, Cyfod, eneinia ef: canys dyma efe.
13
Yna y cymerth Samuel gorn yr olew, ac a'i heneiniodd ef yng nghanol ei frodyr. A daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Dafydd, o'r dydd hwnnw allan. Yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Rama.
14
Ond ysbryd yr ARGLWYDD a giliodd oddi wrth Saul; ac ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD a'i blinodd ef.
15
A gweision Saul a ddywedasant wrtho ef, Wele yn awr, drwg ysbryd oddi wrth DDUW sydd yn dy flino di.
16
Dyweded, atolwg, ein meistr ni wrth dy weision sydd ger dy fron, am iddynt geisio gŵr yn medru canu telyn: a bydd, pan ddelo drwg ysbryd oddi wrth DDUW arnat ti, yna iddo ef ganu â'i law; a da fydd i ti.
17
A dywedodd Saul wrth ei weision, Edrychwch yn awr i mi am ŵr yn medru canu yn dda, a dygwch ef ataf fi.
18
Ac un o'r llanciau a atebodd, ac a ddywedodd, Wele, gwelais fab i Jesse y Bethlehemiad, yn medru canu, ac yn rymus o nerth, ac yn rhyfelwr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn ŵr lluniaidd; a'r ARGLWYDD sydd gydag ef.
19
Yna yr anfonodd Saul genhadau at Jesse, ac a ddywedodd, Anfon ataf fi Dafydd dy fab, yr hwn sydd gyda'r praidd.
20
A Jesse a gymerth asyn llwythog o fara, a chostrelaid o win, a myn gafr, ac a'u hanfonodd gyda Dafydd ei fab at Saul.
21
A Dafydd a ddaeth at Saul, ac a safodd ger ei fron ef: yntau a'i hoffodd ef yn fawr; ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef.
22
A Saul a anfonodd at Jesse, gan ddywedyd, Arhosed Dafydd, atolwg, ger fy mron i: canys efe a gafodd ffafr yn fy ngolwg.
23
A phan fyddai y drwg ysbryd oddi wrth DDUW ar Saul, y cymerai Dafydd delyn, ac y canai â'i ddwylo; a byddai esmwythdra i Saul; a da oedd hynny iddo, a'r ysbryd drwg a giliai oddi wrtho.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31