bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 28
1 Samuel 28
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 29 →
1
A'r Philistiaid yn y dyddiau hynny a gynullasant eu byddinoedd yn llu, i ymladd yn erbyn Israel. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Gwybydd di yn hysbys, yr ei di gyda mi allan i'r gwersylloedd, ti a'th wŷr.
2
A dywedodd Dafydd wrth Achis, Yn ddiau ti a gei wybod beth a all dy was ei wneuthur. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Yn wir minnau a'th osodaf di yn geidwad ar fy mhen i byth.
3
A Samuel a fuasai farw; a holl Israel a alarasent amdano ef, ac a'i claddasent yn Rama, sef yn ei ddinas ei hun. A Saul a yrasai ymaith y swynyddion a'r dewiniaid o'r wlad.
4
A'r Philistiaid a ymgynullasant ac a ddaethant ac a wersyllasant yn Sunem: a Saul a gasglodd holl Israel ynghyd; a hwy a wersyllasant yn Gilboa.
5
A phan welodd Saul wersyll y Philistiaid, efe a ofnodd, a'i galon a ddychrynodd yn ddirfawr.
6
A phan ymgynghorodd Saul â'r ARGLWYDD, nid atebodd yr ARGLWYDD iddo, na thrwy freuddwydion, na thrwy Urim, na thrwy broffwydi.
7
Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, Ceisiwch i mi wraig o berchen ysbryd dewiniaeth, fel yr elwyf ati, ac yr ymofynnwyf â hi. A'i weision a ddywedasant wrtho, Wele, y mae gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor.
8
A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wisgodd ddillad eraill; ac efe a aeth, a dau ŵr gydag ef, a hwy a ddaethant at y wraig liw nos. Ac efe a ddywedodd, Dewinia, atolwg, i mi trwy ysbryd dewiniaeth, a dwg i fyny ataf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
9
A'r wraig a ddywedodd wrtho ef, Wele, ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul, yr hwn a ddifethodd y swynyddion a'r dewiniaid o'r wlad: paham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magl yn erbyn fy einioes i, i beri i mi farw?
10
A Saul a dyngodd wrthi hi i'r ARGLWYDD, gan ddywedyd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ni ddigwydd i ti niwed am y peth hyn.
11
Yna y dywedodd y wraig, Pwy a ddygaf fi i fyny atat ti? Ac efe a ddywedodd, Dwg i mi Samuel i fyny.
12
A'r wraig a ganfu Samuel, ac a lefodd â llef uchel: a'r wraig a lefarodd wrth Saul, gan ddywedyd, Paham y twyllaist fi? canys ti yw Saul.
13
A'r brenin a ddywedodd wrthi hi, Nac ofna: canys beth a welaist ti? A'r wraig a ddywedodd wrth Saul, Duwiau a welais yn dyrchafu o'r ddaear.
14
Yntau a ddywedodd wrthi, Pa ddull sydd arno ef? A hi a ddywedodd, Gŵr hen sydd yn dyfod i fyny, a hwnnw yn gwisgo mantell. A gwybu Saul mai Samuel oedd efe; ac efe a ostyngodd ei wyneb i lawr, ac a ymgrymodd.
15
A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Paham yr aflonyddaist arnaf, gan beri i mi ddyfod i fyny? A dywedodd Saul, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: canys y mae y Philistiaid yn rhyfela yn fy erbyn i, a DUW a giliodd oddi wrthyf fi, ac nid yw yn fy ateb mwyach, na thrwy law proffwydi, na thrwy freuddwydion: am hynny y gelwais arnat ti, i hysbysu i mi beth a wnawn.
16
Yna y dywedodd Samuel, Paham gan hynny yr ydwyt ti yn ymofyn â mi, gan i'r ARGLWYDD gilio oddi wrthyt, a bod yn elyn i ti?
17
Yr ARGLWYDD yn ddiau a wnaeth iddo, megis y llefarodd trwy fy llaw i: canys yr ARGLWYDD a rwygodd y frenhiniaeth o'th law di, ac a'i rhoddes hi i'th gymydog, i Dafydd:
18
Oherwydd na wrandewaist ti ar lais yr ARGLWYDD, ac na chyflewnaist lidiowgrwydd ei ddicter ef yn erbyn Amalec; am hynny y gwnaeth yr ARGLWYDD y peth hyn i ti y dydd hwn.
19
Yr ARGLWYDD hefyd a ddyry Israel gyda thi yn llaw y Philistiaid: ac yfory y byddi di a'th feibion gyda mi: a'r ARGLWYDD a ddyry wersylloedd Israel yn llaw y Philistiaid.
20
Yna Saul a frysiodd ac a syrthiodd o'i hyd gyhyd ar y ddaear, ac a ofnodd yn ddirfawr, oherwydd geiriau Samuel: a nerth nid oedd ynddo; canys ni fwytasai fwyd yr holl ddiwrnod na'r holl noson honno.
21
A'r wraig a ddaeth at Saul, ac a ganfu ei fod ef yn ddychrynedig iawn; a hi a ddywedodd wrtho ef, Wele, gwrandawodd dy lawforwyn ar dy lais di, a gosodais fy einioes mewn enbydrwydd, ac ufuddheais dy eiriau a leferaist wrthyf:
22
Yn awr gan hynny gwrando dithau, atolwg, ar lais dy wasanaethferch, a gad i mi osod ger dy fron di damaid o fara; a bwyta, fel y byddo nerth ynot, pan elych i'th ffordd.
23
Ond efe a wrthododd, ac a ddywedodd, Ni fwytâf. Eto ei weision a'r wraig hefyd a'i cymellasant ef; ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt. Ac efe a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a eisteddodd ar y gwely.
24
Ac yr oedd gan y wraig lo bras yn tŷ; a hi a frysiodd, ac a'i lladdodd ef, ac a gymerth beilliaid, ac a'i tylinodd, ac a'i pobodd yn gri:
25
A hi a'i dug gerbron Saul, a cherbron ei weision: a hwy a fwytasant. Yna hwy a gyfodasant, ac a aethant ymaith y noson honno.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31