bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 12
1 Samuel 12
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 13 →
1
A Samuel a ddywedodd wrth holl Israel, Wele, gwrandewais ar eich llais yn yr hyn oll a ddywedasoch wrthyf, a gosodais frenin arnoch.
2
Ac yr awr hon, wele y brenin yn rhodio o'ch blaen chwi: a minnau a heneiddiais, ac a benwynnais; ac wele fy meibion hwythau gyda chwi; a minnau a rodiais o'ch blaen chwi o'm mebyd hyd y dydd hwn.
3
Wele fi; tystiolaethwch i'm herbyn gerbron yr ARGLWYDD, a cherbron ei eneiniog: ych pwy a gymerais? neu asyn pwy a gymerais? neu pwy a dwyllais? neu pwy a orthrymais i? neu o law pwy y cymerais wobr, i ddallu fy llygaid ag ef? a mi a'i talaf i chwi.
4
A hwy a ddywedasant, Ni thwyllaist ni, ni orthrymaist ni chwaith, ac ni chymeraist ddim o law neb.
5
Dywedodd yntau wrthynt, Yr ARGLWYDD sydd dyst yn eich erbyn chwi, ei eneiniog ef hefyd sydd dyst y dydd hwn, na chawsoch ddim yn fy llaw i. A'r bobl a ddywedasant, Tyst ydyw.
6
A Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Yr ARGLWYDD yw yr hwn a fawrhaodd Moses ac Aaron, a'r hwn a ddug i fyny eich tadau chwi o dir yr Aifft.
7
Yn awr gan hynny sefwch, fel yr ymresymwyf â chwi gerbron yr ARGLWYDD, am holl gyfiawnderau yr ARGLWYDD, y rhai a wnaeth efe i chwi ac i'ch tadau.
8
Wedi i Jacob ddyfod i'r Aifft, a gweiddi o'ch tadau chwi ar yr ARGLWYDD, yna yr ARGLWYDD a anfonodd Moses ac Aaron: a hwy a ddygasant eich tadau chwi o'r Aifft, ac a'u cyfleasant hwy yn y lle hwn.
9
A phan angofiasant yr ARGLWYDD eu DUW, efe a'u gwerthodd hwynt i law Sisera, tywysog milwriaeth Hasor, ac i law y Philistiaid, ac i law brenin Moab; a hwy a ymladdasant i'w herbyn hwynt.
10
A hwy a waeddasant ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedasant, Pechasom, am i ni wrthod yr ARGLWYDD, a gwasanaethu Baalim ac Astaroth: er hynny gwared ni yr awr hon o law ein gelynion, a nyni a'th wasanaethwn di.
11
A'r ARGLWYDD a anfonodd Jerwbbaal, a Bedan, a Jefftha, a Samuel, ac a'ch gwaredodd chwi o law eich gelynion o amgylch, a chwi a breswyliasoch yn ddiogel.
12
A phan welsoch fod Nahas brenin meibion Ammon yn dyfod yn eich erbyn, dywedasoch wrthyf, Nage; ond brenin a deyrnasa arnom ni; a'r ARGLWYDD eich DUW yn frenin i chwi.
13
Ac yn awr, wele y brenin a ddewisasoch chwi, a'r hwn a ddymunasoch: ac wele, yr ARGLWYDD a roddes frenin arnoch chwi.
14
Os ofnwch chwi yr ARGLWYDD, a'i wasanaethu ef, a gwrando ar ei lais, heb anufuddhau gair yr ARGLWYDD; yna y byddwch chwi, a'r brenin hefyd a deyrnasa arnoch, ar ôl yr ARGLWYDD eich DUW.
15
Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr ARGLWYDD, eithr anufuddhau gair yr ARGLWYDD; yna y bydd llaw yr ARGLWYDD yn eich erbyn chwi, fel yn erbyn eich tadau.
16
Sefwch gan hynny yn awr, a gwelwch y peth mawr hyn a wna yr ARGLWYDD o flaen eich llygaid chwi.
17
Onid cynhaeaf gwenith yw heddiw? Galwaf ar yr ARGLWYDD; ac efe a ddyry daranau, a glaw: fel y gwybyddoch ac y gweloch, mai mawr yw eich drygioni chwi yr hwn a wnaethoch yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn gofyn i chwi frenin.
18
Felly Samuel a alwodd ar yr ARGLWYDD; a'r ARGLWYDD a roddodd daranau a glaw y dydd hwnnw; a'r holl bobl a ofnodd yr ARGLWYDD a Samuel yn ddirfawr.
19
A'r holl bobl a ddywedasant wrth Samuel, Gweddïa dros dy weision ar yr ARGLWYDD dy DDUW, fel na byddom feirw; canys chwanegasom ddrygioni ar ein holl bechodau, wrth geisio i ni frenin.
20
A dywedodd Samuel wrth y bobl, Nac ofnwch; chwi a wnaethoch yr holl ddrygioni hyn: eto na chiliwch oddi ar ôl yr ARGLWYDD, ond gwasanaethwch yr ARGLWYDD â'ch holl galon;
21
Ac na chiliwch: canys felly yr aech ar ôl oferedd, y rhai ni lesânt, ac ni'ch gwaredant; canys ofer ydynt hwy.
22
Canys ni wrthyd yr ARGLWYDD ei bobl, er mwyn ei enw mawr: oherwydd rhyngodd bodd i'r ARGLWYDD eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun.
23
A minnau, na ato DUW i mi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD, trwy beidio â gweddïo drosoch: eithr dysgaf i chwi y ffordd dda ac uniawn.
24
Yn unig ofnwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd â'ch holl galon: canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch.
25
Ond os dilynwch ddrygioni, chwi a'ch brenin a ddifethir.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31