bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 8
1 Samuel 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 9 →
1
Ac wedi heneiddio Samuel, efe a osododd ei feibion yn farnwyr ar Israel.
2
Ac enw ei fab cyntaf-anedig ef oedd Joel; ac enw yr ail, Abeia: y rhai hyn oedd farnwyr yn Beerseba.
3
A'i feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef, eithr troesant ar ôl cybydd-dra, a chymerasant obrwy, a gwyrasant farn.
4
Yna holl henuriaid Israel a ymgasglasant, ac a ddaethant at Samuel i Rama,
5
Ac a ddywedasant wrtho ef, Wele, ti a heneiddiaist, a'th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di: yn awr gosod arnom ni frenin i'n barnu, megis yr holl genhedloedd.
6
A'r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, Dyro i ni frenin i'n barnu: a Samuel a weddïodd ar yr ARGLWYDD.
7
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywedant wrthyt: canys nid ti y maent yn ei wrthod, ond myfi a wrthodasant, rhag i mi deyrnasu arnynt.
8
Yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethant, o'r dydd y dygais hwynt o'r Aifft hyd y dydd hwn, ac fel y gwrthodasant fi, ac y gwasanaethasant dduwiau dieithr; felly y gwnânt hwy hefyd i ti.
9
Yn awr gan hynny gwrando ar eu llais hwynt: eto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenin a deyrnasa arnynt.
10
A Samuel a fynegodd holl eiriau yr ARGLWYDD wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio brenin ganddo.
11
Ac efe a ddywedodd, Dyma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi: Efe a gymer eich meibion, ac a'u gesyd iddo yn ei gerbydau, ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef:
12
Ac a'u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei âr, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau.
13
A'ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau.
14
Ac efe a gymer eich meysydd, a'ch gwinllannoedd, a'ch olewlannoedd gorau, ac a'u dyry i'w weision.
15
Eich hadau hefyd a'ch gwinllannoedd a ddegyma efe, ac a'u dyry i'w ystafellyddion ac i'w weision.
16
Eich gweision hefyd, a'ch morynion, eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a'ch asynnod, a gymer efe, ac a'u gesyd i'w waith.
17
Eich defaid hefyd a ddegyma efe: chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef.
18
A'r dydd hwnnw y gwaeddwch, rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi: ac ni wrendy yr ARGLWYDD arnoch yn y dydd hwnnw.
19
Er hynny y bobl a wrthodasant wrando ar lais Samuel; ac a ddywedasant, Nage, eithr brenin fydd arnom ni:
20
Fel y byddom ninnau hefyd fel yr holl genhedloedd; a'n brenin a'n barna ni, efe a â allan hefyd o'n blaen ni, ac efe a ymladd ein rhyfeloedd ni.
21
A gwrandawodd Samuel holl eiriau y bobl, ac a'u hadroddodd hwynt lle y clybu yr ARGLWYDD.
22
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Gwrando ar eu llais hwynt, a gosod frenin arnynt. A dywedodd Samuel wrth wŷr Israel, Ewch bob un i'w ddinas ei hun.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31