bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Samuel 27
1 Samuel 27
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 28 →
1
A Dafydd a ddywedodd yn ei galon, Yn awr difethir fi ryw ddydd trwy law Saul: nid oes dim well i mi na dianc i dir y Philistiaid; fel yr anobeithio Saul ddyfod o hyd i mi, ac na'm ceisio mwy yn holl derfynau Israel. Felly y dihangaf o'i law ef.
2
A Dafydd a gyfododd, ac a dramwyodd, efe a'r chwe channwr oedd gydag ef, at Achis mab Maoch, brenin Gath.
3
A Dafydd a arhosodd gydag Achis yn Gath, efe a'i wŷr, pob un gyda'i deulu; Dafydd a'i ddwy wraig, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig Nabal, y Garmeles.
4
A mynegwyd i Saul, ffoi o Dafydd i Gath: ac ni chwanegodd efe ei geisio ef mwy.
5
A Dafydd a ddywedodd wrth Achis, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg di, rhodder i mi le yn un o'r maestrefi, fel y trigwyf yno: canys paham yr erys dy was di yn ninas y brenin gyda thi?
6
Yna Achis a roddodd iddo ef y dydd hwnnw Siclag; am hynny y mae Siclag yn eiddo brenhinoedd Jwda hyd y dydd hwn.
7
A rhifedi y dyddiau yr arhosodd Dafydd yng ngwlad y Philistiaid, oedd flwyddyn a phedwar mis.
8
A Dafydd a'i wŷr a aethant i fyny, ac a ruthrasant ar y Gesuriaid, a'r Gesriaid, a'r Amaleciaid: canys hwynt-hwy gynt oedd yn preswylio yn y wlad, ffordd yr elych i Sur, ie, hyd wlad yr Aifft.
9
A Dafydd a drawodd y wlad; ac ni adawodd yn fyw ŵr na gwraig; ac a ddug y defaid, a'r gwartheg, a'r asynnod, a'r camelod, a'r gwisgoedd, ac a ddychwelodd ac a ddaeth at Achis.
10
Ac Achis a ddywedodd, I ba le y rhuthrasoch chwi heddiw? A dywedodd Dafydd, Yn erbyn tu deau Jwda, ac yn erbyn tu deau y Jerahmeeliaid, ac yn erbyn tu deau y Ceneaid.
11
Ac ni adawsai Dafydd yn fyw ŵr na gwraig, i ddwyn chwedlau i Gath; gan ddywedyd, Rhag mynegi ohonynt i'n herbyn, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnaeth Dafydd, ac felly y bydd ei arfer ef yr holl ddyddiau yr arhoso efe yng ngwlad y Philistiaid.
12
Ac Achis a gredodd Dafydd, gan ddywedyd, Efe a'i gwnaeth ei hun yn ffiaidd gan ei bobl ei hun Israel; am hynny y bydd efe yn was i mi yn dragywydd.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31