bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 10
Genesis 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 11 →
1
Adyma genedlaethau meibion Noa: Sem, Cham, a Jaffeth; ganwyd meibion hefyd i'r rhai hyn wedi'r dilyw.
2
Meibion Jaffeth oedd Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.
3
Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riffath, a Thogarma.
4
A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.
5
O'r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.
6
A meibion Cham oedd Cus, a Misraim, a Phut, a Chanaan.
7
A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabteca: a meibion Raama; Seba, a Dedan.
8
Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.
9
Efe oedd heliwr cadarn gerbron yr ARGLWYDD: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr ARGLWYDD.
10
A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalne, yng ngwlad Sinar.
11
O'r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefe, a dinas Rehoboth, a Chala,
12
A Resen, rhwng Ninefe a Chala; honno sydd ddinas fawr.
13
Misraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftwhim,
14
Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o'r rhai y daeth Philistim,) a Chafftorim.
15
Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf‐anedig, a Heth,
16
A'r Jebusiad, a'r Amoriad, a'r Girgasiad,
17
A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r Siniad,
18
A'r Arfadiad, a'r Semariad, a'r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid.
19
Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gasa: y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorra, ac Adma, a Seboim, hyd Lesa.
20
Dyma feibion Cham, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.
21
I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Jaffeth yr hynaf.
22
Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram.
23
A meibion Aram; Us, a Hul, a Gether, a Mas.
24
Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Heber.
25
Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan.
26
A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleff, a Hasarmafeth, a Jera,
27
Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla,
28
Obal hefyd, ac Abinael, a Seba,
29
Offir hefyd, a Hafila, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan.
30
A'u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Seffar, mynydd y dwyrain.
31
Dyma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ôl eu hieithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.
32
Dyma deuluoedd meibion Noa, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu cenhedloedd: ac o'r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi'r dilyw.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50