bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 8
Genesis 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 9 →
1
A DUW a gofiodd Noa, a phob peth byw, a phob anifail a'r a oedd gydag ef yn yr arch: a DUW a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a'r dyfroedd a lonyddasant.
2
Caewyd hefyd ffynhonnau'r dyfnder a ffenestri'r nefoedd; a lluddiwyd y glaw o'r nefoedd.
3
A'r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ymhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.
4
Ac yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, y gorffwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
5
A'r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y gwelwyd pennau'r mynyddoedd.
6
Ac ymhen deugain niwrnod yr agorodd Noa ffenestr yr arch a wnaethai efe.
7
Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear.
8
Ac efe a anfonodd golomen oddi wrtho, i weled a dreiasai'r dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear.
9
Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd ato ef i'r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynnodd ei law, ac a'i cymerodd hi, ac a'i derbyniodd hi ato i'r arch.
10
Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golomen allan o'r arch.
11
A'r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noa dreio o'r dyfroedd oddi ar y ddaear.
12
Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golomen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy.
13
Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, y darfu i'r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noa a symudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear.
14
Ac yn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, y ddaear a sychasai.
15
A llefarodd DUW wrth Noa, gan ddywedyd,
16
Dos allan o'r arch, ti, a'th wraig, a'th feibion, a gwragedd dy feibion, gyda thi.
17
Pob peth byw a'r sydd gyda thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyda thi: epiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear.
18
A Noa a aeth allan, a'i feibion, a'i wraig, a gwragedd ei feibion, gydag ef.
19
Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaear, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o'r arch.
20
A Noa a adeiladodd allor i'r ARGLWYDD, ac a gymerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymodd boethoffrymau ar yr allor.
21
A'r ARGLWYDD a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr ARGLWYDD yn ei galon, Ni chwanegaf felltithio'r ddaear mwy er mwyn dyn: oherwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o'i ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum.
22
Pryd hau, a chynhaeaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gaeaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50