bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 32
Genesis 32
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 33 →
1
A Jacob a gerddodd i'w daith yntau: ac angylion DUW a gyfarfu ag ef.
2
A Jacob a ddywedodd, pan welodd hwynt, Dyma wersyll DUW: ac a alwodd enw y lle hwnnw Mahanaim.
3
A Jacob a anfonodd genhadau o'i flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir, i wlad Edom:
4
Ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau; Fel hyn y dywed dy was di Jacob; Gyda Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn.
5
Ac y mae i mi eidionau, ac asynnod, defaid, a gweision, a morynion: ac anfon a wneuthum i fynegi i'm harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.
6
A'r cenhadau a ddychwelasant at Jacob, gan ddywedyd, Daethom at dy frawd Esau; ac y mae efe yn dyfod i'th gyfarfod di, a phedwar cant o wŷr gydag ef.
7
Yna Jacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arno: ac efe a rannodd y bobl oedd gydag ef, a'r defaid, a'r eidionau, a'r camelod, yn ddwy fintai;
8
Ac a ddywedodd, Os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddihangol.
9
A dywedodd Jacob, O DDUW fy nhad Abraham, a DUW fy nhad Isaac, O ARGLWYDD, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i'th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti!
10
Ni ryglyddais y lleiaf o'th holl drugareddau di, nac o'r holl wirionedd a wnaethost â'th was: oblegid â'm ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai.
11
Achub fi, atolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod ohono a'm taro, a'r fam gyda'r plant.
12
A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddiau; a'th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.
13
Ac yno y lletyodd efe y noson honno: ac o'r hyn a ddaeth i'w law ef y cymerth efe anrheg i'w frawd Esau;
14
Dau gant o eifr, ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid, ac ugain o hyrddod,
15
Deg ar hugain o gamelod blithion a'u llydnod, deugain o wartheg, a deg o deirw, ugain o asennod, a deg o ebolion.
16
Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyr o'r neilltu; ac a ddywedodd wrth ei weision, Ewch trosodd o'm blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyr a'i gilydd.
17
Ac efe a orchmynnodd i'r blaenaf, gan ddywedyd, Os Esau fy mrawd a'th gyferfydd di, ac a ymofyn â thydi, gan ddywedyd, I bwy y perthyni di? ac i ba le yr ei? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o'th flaen di?
18
Yna y dywedi, Eiddo dy was Jacob; anrheg yw wedi ei hanfon i'm harglwydd Esau: ac wele yntau hefyd ar ein hôl ni.
19
Felly y gorchmynnodd hefyd i'r ail, ac i'r trydydd, ac i'r rhai oll oedd yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gaffoch afael arno.
20
A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hôl ni. Oblegid (eb efe) bodlonaf ei wyneb ef â'r anrheg sydd yn myned o'm blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau.
21
Felly yr anrheg a aeth trosodd o'i flaen ef: ac efe a letyodd y noson honno yn y gwersyll.
22
Ac efe a gyfododd y noson honno, ac a gymerth ei ddwy wraig, a'i ddwy lawforwyn, a'i un mab ar ddeg, ac a aeth dros ryd Jabboc.
23
Ac a'u cymerth hwynt, ac a'u trosglwyddodd trwy'r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo.
24
A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi'r wawr.
25
A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chyswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech ohono ag ef.
26
A'r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a atebodd, Ni'th ollyngaf, oni'm bendithi.
27
Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a atebodd, Jacob.
28
Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyda DUW fel tywysog, a chyda dynion, ac a orchfygaist.
29
A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, atolwg, dy enw. Ac yntau a atebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a'i bendithiodd ef.
30
A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais DDUW wyneb yn wyneb, a dihangodd fy einioes.
31
A'r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel, ac yr oedd efe yn gloff o'i glun.
32
Am hynny plant Israel ni fwytânt y gewyn a giliodd, yr hwn sydd o fewn cyswllt y forddwyd, hyd y dydd hwn: oblegid cyffwrdd â chyswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd.
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 33 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50