bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 18
Genesis 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 19 →
1
A'r ARGLWYDD a ymddangosodd iddo ef yng ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, yng ngwres y dydd.
2
Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwyr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i'w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd tua'r ddaear,
3
Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di, na ddos heibio, atolwg, oddi wrth dy was.
4
Cymerer, atolwg, ychydig ddwfr, a golchwch eich traed, a gorffwyswch dan y pren;
5
Ac mi a ddygaf damaid o fara, a chryfhewch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: oherwydd i hynny y daethoch at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist.
6
Ac Abraham a frysiodd i'r babell at Sara, ac a ddywedodd, Paratoa ar frys dair ffiolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau.
7
Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymerodd lo tyner a da, ac a'i rhoddodd at y llanc, yr hwn a frysiodd i'w baratoi ef.
8
Ac efe a gymerodd ymenyn, a llaeth, a'r llo a baratoesai efe, ac a'i rhoddes o'u blaen hwynt: ac efe a safodd gyda hwynt tan y pren; a hwy a fwytasant.
9
A hwy a ddywedasant wrtho ef, Mae Sara dy wraig? Ac efe a ddywedodd, Wele hi yn y babell.
10
Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf atat ynghylch amser bywoliaeth; ac wele fab i Sara dy wraig. A Sara oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o'i ôl ef.
11
Abraham hefyd a Sara oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sara yn ôl arfer gwragedd.
12
Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch, a'm harglwydd yn hen hefyd?
13
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sara fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf finnau yn wir, wedi fy heneiddio?
14
A fydd dim yn anodd i'r ARGLWYDD? Ar yr amser nodedig y dychwelaf atat, ynghylch amser bywoliaeth, a mab fydd i Sara.
15
A Sara a wadodd, gan ddywedyd, Ni chwerddais i: oherwydd hi a ofnodd. Yntau a ddywedodd, Nage, oblegid ti a chwerddaist.
16
A'r gwŷr a godasant oddi yno, ac a edrychasant tua Sodom: ac Abraham a aeth gyda hwynt, i'w hanfon hwynt.
17
A'r ARGLWYDD a ddywedodd, A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf?
18
Canys Abraham yn ddiau a fydd yn genhedlaeth fawr a chref, ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear.
19
Canys mi a'i hadwaen ef, y gorchymyn efe i'w blant, ac i'w dylwyth ar ei ôl, gadw ohonynt ffordd yr ARGLWYDD, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo'r ARGLWYDD ar Abraham yr hyn a lefarodd efe amdano.
20
Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd, Am fod gwaedd Sodom a Gomorra yn ddirfawr, a'u pechod hwynt yn drwm iawn;
21
Disgynnaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ôl eu gwaedd a ddaeth ataf fi, y gwnaethant yn hollol: ac onid e, mynnaf wybod.
22
A'r gwŷr a droesant oddi yno, ac a aethant tua Sodom: ac Abraham yn sefyll eto gerbron yr ARGLWYDD.
23
Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â'r annuwiol?
24
Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas: a ddifethi di hwynt hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o'i mewn hi?
25
Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyda'r annuwiol, fel y byddo'r cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?
26
A dywedodd yr ARGLWYDD, Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt.
27
Ac Abraham a atebodd, ac a ddywedodd, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw.
28
Ond odid bydd pump yn eisiau o'r deg a deugain cyfiawn: a ddifethi di yr holl ddinas er pump? Yntau a ddywedodd, Na ddifethaf, os caf yno bump a deugain.
29
Ac efe a chwanegodd lefaru wrtho ef eto, ac a ddywedodd, Ond odid ceir yno ddeugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf er mwyn y deugain.
30
Ac efe a ddywedodd, O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf: Ceir yno ond odid ddeg ar hugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain.
31
Yna y dywedodd efe, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd: Ond odid ceir yno ugain. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn ugain.
32
Yna y dywedodd, O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid ceir yno ddeg. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn deg.
33
A'r ARGLWYDD a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan ag Abraham: ac Abraham a ddychwelodd i'w le ei hun.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50