bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 30
Genesis 30
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 31 →
1
Pan welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob, yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Jacob, Moes feibion i mi; ac onid e mi a fyddaf farw.
2
A chyneuodd llid Jacob wrth Rahel; ac efe a ddywedodd, Ai myfi sydd yn lle DUW, yr hwn a ataliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti?
3
A dywedodd hithau, Wele fy llawforwyn Bilha, dos i mewn ati hi; a hi a blanta ar fy ngliniau i, fel y caffer plant i minnau hefyd ohoni hi.
4
A hi a roddes ei llawforwyn Bilha iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn ati.
5
A Bilha a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob.
6
A Rahel a ddywedodd, DUW a'm barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan.
7
Hefyd Bilha, llawforwyn Rahel, a feichiogodd eilwaith, ac a ymddûg yr ail fab i Jacob.
8
A Rahel a ddywedodd, Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â'm chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw ef Nafftali.
9
Pan welodd Lea beidio ohoni â phlanta, hi a gymerth ei llawforwyn Silpa, ac a'i rhoddes hi yn wraig i Jacob.
10
A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg fab i Jacob.
11
A Lea a ddywedodd, Y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw ef Gad.
12
A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg yr ail fab i Jacob.
13
A Lea a ddywedodd, Yr ydwyf yn ddedwydd; oblegid merched a'm galwant yn ddedwydd: a hi a alwodd ei enw ef Aser.
14
Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaeaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a'u dug hwynt at Lea ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Lea, Dyro, atolwg, i mi o fandragorau dy fab.
15
Hithau a ddywedodd wrthi, Ai bychan yw dwyn ohonot fy ngŵr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab? A Rahel a ddywedodd, Cysged gan hynny gyda thi heno am fandragorau dy fab.
16
A Jacob a ddaeth o'r maes yn yr hwyr; a Lea a aeth allan i'w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Ataf fi y deui: oblegid gan brynu y'th brynais am fandragorau fy mab. Ac efe a gysgodd gyda hi y nos honno.
17
A DUW a wrandawodd ar Lea a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob.
18
A Lea a ddywedodd, Rhoddodd DUW fy ngwobr i mi, oherwydd rhoddi ohonof fi fy llawforwyn i'm gŵr: a hi a alwodd ei enw ef Issachar.
19
Lea hefyd a feichiogodd eto, ac a ymddûg y chweched mab i Jacob.
20
A Lea a ddywedodd, Cynysgaeddodd DUW fyfi â chynhysgaeth dda; fy ngŵr a drig weithian gyda mi, oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef: a hi a alwodd ei enw ef Sabulon.
21
Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dina.
22
A DUW a gofiodd Rahel, a DUW a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chroth hi.
23
A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, DUW a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith.
24
A hi a alwodd ei enw ef Joseff, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.
25
A bu, wedi esgor o Rahel ar Joseff, ddywedyd o Jacob wrth Laban, Gollwng fi ymaith, fel yr elwyf i'm bro, ac i'm gwlad fy hun.
26
Dyro fy ngwragedd i mi, a'm plant, y rhai y gwasanaethais amdanynt gyda thi, fel yr elwyf ymaith: oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti.
27
A Laban a ddywedodd wrtho, Os cefais ffafr yn dy olwg, na syfl: da y gwn i'r ARGLWYDD fy mendithio i o'th blegid di.
28
Hefyd efe a ddywedodd, Dogna dy gyflog arnaf, a mi a'i rhoddaf.
29
Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dydi; a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyda myfi.
30
Oblegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i, ond yn lluosowgrwydd y cynyddodd; oherwydd yr ARGLWYDD a'th fendithiodd di er pan ddeuthum i: bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i'm tŷ fy hun?
31
Dywedodd yntau, Pa beth a roddaf i ti? A Jacob a atebodd, Ni roddi i mi ddim; os gwnei i mi y peth hyn, bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn.
32
Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddiw, gan neilltuo oddi yno bob llwdn mân‐frith a mawr‐frith, a phob llwdn cochddu ymhlith y defaid; y mawr‐frith hefyd a'r mân‐frith ymhlith y geifr: ac o'r rhai hynny y bydd fy nghyflog.
33
A'm cyfiawnder a dystiolaetha gyda mi o hyn allan, pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di: yr hyn oll ni byddo fân‐frith neu fawr‐frith ymhlith y geifr, neu gochddu ymhlith y defaid, lladrad a fydd hwnnw gyda myfi.
34
A dywedodd Laban, Wele, O na byddai yn ôl dy air di!
35
Ac yn y dydd hwnnw y neilltuodd efe y bychod cylch‐frithion a mawr‐frithion, a'r holl eifr mân‐frithion a mawr‐frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwyn arno, a phob cochddu ymhlith y defaid, ac a'u rhoddes dan law ei feibion ei hun.
36
Ac a osododd daith tri diwrnod rhyngddo ei hun a Jacob: a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban.
37
A Jacob a gymerth iddo wiail gleision o boplys, a chyll, a ffawydd; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwynion, gan ddatguddio'r gwyn yr hwn ydoedd yn y gwiail.
38
Ac efe a osododd y gwiail y rhai a ddirisglasai efe, yn y cwterydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deuai'r praidd i yfed, ar gyfer y praidd: fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed.
39
A'r praidd a gyfebrasant wrth y gwiail; a'r praidd a ddug rai cylch‐frithion, a mân‐frithion, a mawr‐frithion.
40
A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osododd wynebau y praidd tuag at y cylch‐frithion, ac at bob cochddu ymhlith praidd Laban; ac a osododd ddiadellau iddo ei hun o'r neilltu, ac nid gyda phraidd Laban y gosododd hwynt.
41
A phob amser y cyfebrai'r defaid cryfaf, Jacob a osodai'r gwiail o flaen y praidd yn y cwterydd, i gael ohonynt gyfebru wrth y gwiail;
42
Ond pan fyddai'r praidd yn weiniaid, ni osodai efe ddim: felly y gwannaf oedd eiddo Laban, a'r cryfaf eiddo Jacob.
43
A'r gŵr a gynyddodd yn dra rhagorol; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morynion, a gweision, a chamelod, ac asynnod.
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 31 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50