bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 6
Genesis 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 7 →
1
Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaear, a geni merched iddynt,
2
Weled o feibion DUW ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymerasant iddynt wragedd o'r rhai oll a ddewisasant.
3
A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe: a'i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant.
4
Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd pan ddaeth meibion DUW at ferched dynion, a phlanta o'r rhai hynny iddynt: dyma'r cedyrn a fu wŷr enwog gynt.
5
A'r ARGLWYDD a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser.
6
Ac edifarhaodd ar yr ARGLWYDD wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.
7
A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.
8
Ond Noa a gafodd ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD.
9
Dyma genedlaethau Noa: Noa oedd ŵr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyda DUW y rhodiodd Noa.
10
A Noa a genhedlodd dri o feibion, Sem, Cham, a Jaffeth.
11
A'r ddaear a lygrasid gerbron DUW; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd.
12
A DUW a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear.
13
A DUW a ddywedodd wrth Noa, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a'u difethaf hwynt gyda'r ddaear.
14
Gwna i ti arch o goed Goffer; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi mewn ac oddi allan â phyg.
15
Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chan cufydd fydd hyd yr arch, deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder.
16
Gwna ffenestr i'r arch, a gorffen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys: o dri uchder y gwnei di hi.
17
Ac wele myfi, ie myfi, yn dwyn dyfroedd dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga.
18
Ond â thi y cadarnhaf fy nghyfamod; ac i'r arch yr ei di, tydi a'th feibion, a'th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi.
19
Ac o bob peth byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i'r arch i'w cadw yn fyw gyda thi; gwryw a benyw fyddant.
20
O'r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o'r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth eu rhywogaeth; dau o bob rhywogaeth a ddaw atat i'w cadw yn fyw.
21
A chymer i ti o bob bwyd a fwyteir, a chasgl atat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau.
22
Felly y gwnaeth Noa, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai DUW iddo, felly y gwnaeth efe.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50