bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 12
Genesis 12
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 13 →
1
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o'th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i'r wlad a ddangoswyf i ti.
2
A mi a'th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a'th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.
3
Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a'th felltithwyr a felltigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti.
4
Yna yr aeth Abram, fel y llefarasai yr ARGLWYDD wrtho; a Lot a aeth gydag ef: ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thrigain pan aeth efe allan o Haran.
5
Ac Abram a gymerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a'u holl olud a gasglasent hwy, a'r eneidiau a enillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.
6
Ac Abram a dramwyodd trwy'r tir hyd le Sichem, hyd wastadedd More: a'r Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw.
7
A'r ARGLWYDD a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I'th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i'r ARGLWYDD, yr hwn a ymddangosasai iddo.
8
Ac efe a dynnodd oddi yno i'r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell, gan adael Bethel tua'r gorllewin, a Hai tua'r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i'r ARGLWYDD, ac a alwodd ar enw yr ARGLWYDD.
9
Ac Abram a ymdeithiodd, gan fyned ac ymdaith tua'r deau.
10
Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram a aeth i waered i'r Aifft, i ymdeithio yno, am drymhau o'r newyn yn y wlad.
11
A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i'r Aifft, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti:
12
A phan welo'r Eifftiaid dydi, hwy a ddywedant, Dyma'i wraig ef; a hwy a'm lladdant i, a thi a adawant yn fyw.
13
Dywed, atolwg, mai fy chwaer wyt ti: fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o'th blegid di.
14
A bu, pan ddaeth Abram i'r Aifft, i'r Eifftiaid edrych ar y wraig, mai glân odiaeth oedd hi.
15
A thywysogion Pharo a'i gwelsant hi, ac a'i canmolasant hi wrth Pharo: a'r wraig a gymerwyd i dŷ Pharo.
16
Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid, a gwartheg, ac asynnod, a gweision, a morynion, ac asennod, a chamelod.
17
A'r ARGLWYDD a drawodd Pharo a'i dŷ â phlâu mawrion, o achos Sarai gwraig Abram.
18
A Pharo a alwodd Abram, ac a ddywedodd, Paham y gwnaethost hyn i mi? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi?
19
Paham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? fel y cymerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymer hi, a dos ymaith.
20
A Pharo a roddes orchymyn i'w ddynion o'i blegid ef: a hwy a'i gollyngasant ef ymaith, a'i wraig, a'r hyn oll oedd eiddo ef.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50