bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 34
Genesis 34
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 33
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 35 →
1
A Dina merch Lea, yr hon a ymddygasai hi i Jacob, a aeth allan i weled merched y wlad.
2
A Sichem mab Hemor yr Hefiad, tywysog y wlad, a'i canfu hi, ac a'i cymerth hi, ac a orweddodd gyda hi, ac a'i treisiodd.
3
A'i enaid ef a lynodd wrth Dina merch Jacob; ie, efe a hoffodd y llances, ac a ddywedodd wrth fodd calon y llances.
4
Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dad, gan ddywedyd, Cymer y llances hon yn wraig i mi.
5
A Jacob a glybu i Sichem halogi Dina ei ferch: (a'i feibion ef oedd gyda'i anifeiliaid ef yn y maes); a Jacob a dawodd â sôn hyd oni ddaethant hwy adref.
6
A Hemor tad Sichem a aeth allan at Jacob, i ymddiddan ag ef.
7
A meibion Jacob a ddaethant o'r maes, wedi clywed ohonynt; a'r gwŷr a ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, oblegid gwneuthur o Sichem ffolineb yn Israel, gan orwedd gyda merch Jacob; canys ni ddylesid gwneuthur felly.
8
A Hemor a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Glynu a wnaeth enaid Sichem fy mab i wrth eich merch chwi: rhoddwch hi, atolwg, yn wraig iddo ef.
9
Ac ymgyfathrechwch â ni; rhoddwch eich merched chwi i ni, a chymerwch ein merched ni i chwithau.
10
A chwi a gewch breswylio gyda ni, a'r wlad fydd o'ch blaen chwi: trigwch a negeseuwch ynddi, a cheisiwch feddiannau ynddi.
11
Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thad hi, ac wrth ei brodyr, Caffwyf ffafr yn eich golwg, a'r hyn a ddywedoch wrthyf a roddaf.
12
Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynhysgaeth a rhodd, a mi a roddaf fel y dywedoch wrthyf: rhoddwch chwithau y llances i mi yn wraig.
13
A meibion Jacob a atebasant Sichem, a Hemor ei dad ef, yn dwyllodrus, ac a ddywedasant, oherwydd iddo ef halogi Dina eu chwaer hwynt;
14
Ac a ddywedasant wrthynt, Ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i ŵr dienwaededig: oblegid gwarthrudd yw hynny i ni.
15
Ond yn hyn y cytunwn â chwi: Os byddwch fel nyni, gan enwaedu pob gwryw i chwi;
16
Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi, ac y cymerwn eich merched chwithau i ninnau, a ni a gyd‐drigwn â chwi, a ni a fyddwn yn un bobl.
17
Ond oni wrandewch arnom ni i'ch enwaedu; yna y cymerwn ein merch, ac a awn ymaith.
18
A'u geiriau hwynt oedd dda yng ngolwg Hemor, ac yng ngolwg Sichem mab Hemor.
19
Ac nid oedodd y llanc wneuthur y peth, oblegid efe a roddasai serch ar ferch Jacob: ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dŷ ei dad.
20
A Hemor, a Sichem ei fab ef, a aethant i borth eu dinas, ac a lefarasant wrth eu dinasyddion, gan ddywedyd,
21
Y gwŷr hyn heddychol ŷnt hwy gyda ni; trigant hwythau yn y wlad, a gwnânt eu negesau ynddi; a'r wlad, wele, sydd ddigon eang iddynt hwy: cymerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd, a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy.
22
Ond yn hyn y cytuna y dynion â ni, i drigo gyda ni, ar fod yn un bobl, os enwaedir pob gwryw i ni, fel y maent hwy yn enwaededig.
23
Eu hanifeiliaid hwynt, a'u cyfoeth hwynt, a'u holl ysgrubliaid hwynt, onid eiddom ni fyddant hwy? yn unig cytunwn â hwynt, a hwy a drigant gyda ni.
24
Ac ar Hemor, ac ar Sichem ei fab ef, y gwrandawodd pawb a'r a oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef: ac enwaedwyd pob gwryw, sef y rhai oll oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef.
25
A bu ar y trydydd dydd, pan oeddynt hwy yn ddolurus, gymryd o ddau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, brodyr Dina, bob un ei gleddyf, a dyfod ar y ddinas yn hyderus, a lladd pob gwryw.
26
Lladdasant hefyd Hemor a Sichem ei fab â min y cleddyf; a chymerasant Dina o dŷ Sichem, ac a aethant allan.
27
Meibion Jacob a ddaethant ar y lladdedigion, ac a ysbeiliasant y ddinas, am halogi ohonynt eu chwaer hwynt.
28
Cymerasant eu defaid hwynt, a'u gwartheg, a'u hasynnod hwynt, a'r hyn oedd yn y ddinas, a'r hyn oedd yn y maes,
29
A'u holl gyfoeth hwynt; a'u holl rai bychain, a'u gwragedd, a gaethgludasant hwy; ac ysbeiliasant yr hyn oll oedd yn y tai.
30
A Jacob a ddywedodd wrth Simeon a Lefi, Trallodasoch fi, gan beri i mi fod yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, gan y Canaaneaid a'r Pheresiaid: a minnau yn ychydig o nifer, hwy a ymgasglant yn fy erbyn, a thrawant fi: felly y difethir fi, mi a'm tŷ.
31
Hwythau a atebasant, Ai megis putain y gwnâi efe ein chwaer ni?
← Chapter 33
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 35 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50