bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 14
Genesis 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 15 →
1
A bu yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd;
2
Wneuthur ohonynt ryfel â Bera brenin Sodom, ac â Birsa brenin Gomorra, â Sinab brenin Adma, ac â Semeber brenin Seboim, ac â brenin Bela, hon yw Soar.
3
Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw'r môr heli.
4
Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer, a'r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant.
5
A'r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer, a'r brenhinoedd y rhai oedd gydag ef, ac a drawsant y Reffaimiaid yn Asteroth‐Carnaim, a'r Susiaid yn Ham, a'r Emiaid yn Safe-Ciriathaim,
6
A'r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch.
7
Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno yw Cades, ac a drawsant holl wlad yr Amaleciaid, a'r Amoriaid hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Haseson‐tamar.
8
Allan hefyd yr aeth brenin Sodom, a brenin Gomorra, a brenin Adma, a brenin Seboim, a brenin Bela, honno yw Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt;
9
A Chedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd, ac Amraffel brenin Sinar, ac Arioch brenin Elasar: pedwar brenin yn erbyn pump.
10
A dyffryn Sidim oedd lawn o byllau clai; a brenhinoedd Sodom a Gomorra a ffoesant, ac a syrthiasant yno: a'r lleill a ffoesant i'r mynydd.
11
A hwy a gymerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorra, a'u holl luniaeth hwynt, ac a aethant ymaith.
12
Cymerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram, a'i gyfoeth, ac a aethant ymaith; oherwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo.
13
A daeth un a ddianghasai, ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo yng ngwastadedd Mamre yr Amoriad, brawd Escol, a brawd Aner; a'r rhai hyn oedd mewn cynghrair ag Abram.
14
A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd, efe a arfogodd o'i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef, ddeunaw a thri chant, ac a ymlidiodd hyd Dan.
15
As efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nos, efe a'i weision, ac a'u trawodd hwynt, ac a'u hymlidiodd hyd Hoba, yr hon sydd o'r tu aswy i Damascus.
16
Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth, a'i frawd Lot hefyd, a'i gyfoeth, a ddug efe drachefn, a'r gwragedd hefyd, a'r bobl.
17
A brenin Sodom a aeth allan i'w gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a'r brenhinoedd oedd gydag ef,) i ddyffryn Safe, hwn yw dyffryn y brenin.
18
Melchisedec hefyd, brenin Salem, a ddug allan fara a gwin; ac efe oedd offeiriad i DDUW goruchaf:
19
Ac a'i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan DDUW goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear:
20
A bendigedig fyddo DUW goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo ddegwm o'r cwbl.
21
A dywedodd brenin Sodom wrth Abram, Dod i mi y dynion, a chymer i ti y cyfoeth.
22
Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr ARGLWYDD DDUW goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear,
23
Na chymerwn o edau hyd garrai esgid, nac o'r hyn oll sydd eiddot ti; rhag dywedyd ohonot, Myfi a gyfoethogais Abram:
24
Ond yn unig yr hyn a fwytaodd y llanciau, a rhan y gwŷr a aethant gyda mi, Aner, Escol, a Mamre: cymerant hwy eu rhan.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50