bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 40
Genesis 40
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 41 →
1
A Darfu wedi'r pethau hynny, i drulliad brenin yr Aifft, a'r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aifft.
2
A Pharo a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen‐trulliad, a'r pen‐pobydd:
3
Ac a'u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ'r distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseff yn rhwym.
4
A'r distain a wnaeth Joseff yn olygwr arnynt hwy; ac efe a'u gwasanaethodd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser.
5
A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aifft, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy.
6
A'r bore y daeth Joseff atynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.
7
Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo, y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddiw?
8
A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo. A Joseff a ddywedodd wrthynt, Onid i DDUW y perthyn dehongli? mynegwch, atolwg, i mi.
9
A'r pen‐trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o'm blaen;
10
Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc: ac yr oedd hi megis yn blaen‐darddu; ei blodeuyn a dorasai allan, ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed.
11
Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw: a chymerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwpan Pharo; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo.
12
A Joseff a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw'r tair cainc.
13
O fewn tri diwrnod eto Pharo a ddyrchafa dy ben di, ac a'th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwpan Pharo yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddit drulliad iddo.
14
Eto cofia fi gyda thi, pan fo daioni i ti, a gwna, atolwg, â mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharo, a dwg fi allan o'r tŷ hwn:
15
Oblegid yn lladrad y'm lladratawyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi yng ngharchar.
16
Pan welodd y pen‐pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseff, Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd‐dyllog ar fy mhen.
17
Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharo o waith pobydd; a'r ehediaid yn eu bwyta hwynt o'r cawell oddi ar fy mhen.
18
A Joseff a atebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell.
19
O fewn tri diwrnod eto y cymer Pharo dy ben di oddi arnat, ac a'th groga di ar bren; a'r ehediaid a fwytânt dy gnawd di oddi amdanat.
20
Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharo: ac efe a wnaeth wledd i'w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen‐trulliad, a'r pen‐pobydd ymysg ei weision.
21
Ac a osododd y pen‐trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwpan i law Pharo.
22
A'r pen‐pobydd a grogodd efe; fel y deonglasai Joseff iddynt hwy.
23
Ond y pen‐trulliad ni chofiodd Joseff, eithr anghofiodd ef.
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 41 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50