bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 39
Genesis 39
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 40 →
1
A Joseff a ddygwyd i waered i'r Aifft: a Potiffar yr Eifftwr, tywysog Pharo a'i ddistain, a'i prynodd ef o law yr Ismaeliaid, y rhai a'i dygasant ef i waered yno.
2
Ac yr oedd yr ARGLWYDD gyda Joseff, ac efe oedd ŵr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Eifftiad.
3
A'i feistr a welodd fod yr ARGLWYDD gydag ef, a bod yr ARGLWYDD yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe.
4
A Joseff a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a'i gwasanaethodd ef: yntau a'i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef.
5
Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i'r ARGLWYDD fendithio tŷ'r Eifftiad, er mwyn Joseff: ac yr oedd bendith yr ARGLWYDD ar yr hyn oll oedd eiddo ef, yn y tŷ, ac yn y maes.
6
Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo dan law Joseff; ac ni wyddai oddi wrth ddim a'r a oedd gydag ef, oddieithr y bwyd yr oedd efe yn ei fwyta: Joseff hefyd oedd deg o bryd, a glân yr olwg.
7
A darfu wedi'r pethau hynny, i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Joseff, a dywedyd, Gorwedd gyda mi.
8
Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ŵyr pa beth sydd gyda mi yn y tŷ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i.
9
Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn na myfi; ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi; oblegid ei wraig ef wyt ti: pa fodd, gan hynny, y gallaf wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn DUW!
10
A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseff beunydd, ac yntau heb wrando arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyda hi.
11
A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Joseff ddyfod i'r tŷ, i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ.
12
Hithau a'i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyda mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan.
13
A phan welodd hi adael ohono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi ohono allan;
14
Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i'n gwaradwyddo: daeth ataf fi i orwedd gyda myfi; minnau a waeddais â llef uchel;
15
A phan glywodd efe ddyrchafu ohonof fi fy llef, a gweiddi; yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan.
16
A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.
17
A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn, gan ddywedyd, Yr Hebrewas, yr hwn a ddygaist i ni, a ddaeth ataf i'm gwaradwyddo;
18
Ond pan ddyrchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl, ac a ffodd allan.
19
A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi; yna yr enynnodd ei lid ef.
20
A meistr Joseff a'i cymerth ef, ac a'i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharorion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchardy.
21
Ond yr ARGLWYDD oedd gyda Joseff, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo yng ngolwg pennaeth y carchardy.
22
A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseff yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur.
23
Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a'r a oedd dan ei law ef, am fod yr ARGLWYDD gydag ef; a'r hyn a wnâi efe, yr ARGLWYDD a'i llwyddai.
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 40 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50