bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 2
Genesis 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 3 →
1
Felly y gorffennwyd y nefoedd a'r ddaear, a'u holl lu hwynt.
2
Ac ar y seithfed dydd y gorffennodd DUW ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe.
3
A DUW a fendigodd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef: oblegid ynddo y gorffwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai DUW i'w wneuthur.
4
Dyma genedlaethau y nefoedd a'r ddaear, pan grewyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD DDUW ddaear a nefoedd,
5
A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear, a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr ARGLWYDD DDUW lawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio'r ddaear.
6
Ond tarth a esgynnodd o'r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear.
7
A'r ARGLWYDD DDUW a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a'r dyn a aeth yn enaid byw.
8
Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a blannodd ardd yn Eden, o du'r dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe.
9
A gwnaeth yr ARGLWYDD DDUW i bob pren dymunol i'r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o'r ddaear.
10
Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.
11
Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila, lle y mae yr aur:
12
Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae bdeliwm a'r maen onics.
13
Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia.
14
Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du'r dwyrain i Asyria: a'r bedwaredd afon yw Ewffrates.
15
A'r ARGLWYDD DDUW a gymerodd y dyn, ac a'i gosododd ef yng ngardd Eden, i'w llafurio ac i'w chadw hi.
16
A'r ARGLWYDD DDUW a orchmynnodd i'r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o'r ardd gan fwyta y gelli fwyta:
17
Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono, gan farw y byddi farw.
18
Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymwys iddo.
19
A'r ARGLWYDD DDUW a luniodd o'r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a'u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef.
20
Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymwys iddo.
21
A'r ARGLWYDD DDUW a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymerodd un o'i asennau ef, ac a gaeodd gig yn ei lle hi.
22
A'r ARGLWYDD DDUW a wnaeth yr asen a gymerasai efe o'r dyn, yn wraig, ac a'i dug at y dyn.
23
Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o'm hesgyrn i, a chnawd o'm cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o ŵr y cymerwyd hi.
24
Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â'i dad, ac â'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.
25
Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a'i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50