bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 48
Genesis 48
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 47
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 49 →
1
A bu, wedi'r pethau hyn, ddywedyd o un wrth Joseff, Wele, y mae dy dad yn glaf. Ac efe a gymerth ei ddau fab gydag ef, Manasse ac Effraim.
2
A mynegodd un i Jacob, ac a ddywedodd, Wele dy fab Joseff yn dyfod atat. Ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd ar y gwely.
3
A dywedodd Jacob wrth Joseff, DUW Hollalluog a ymddangosodd i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, ac a'm bendithiodd:
4
Dywedodd hefyd wrthyf, Wele, mi a'th wnaf yn ffrwythlon, ac a'th amlhaf, ac yn dyrfa o bobloedd y'th wnaf, a rhoddaf y tir hwn i'th had di ar dy ôl di, yn etifeddiaeth dragwyddol.
5
Ac yr awr hon, dy ddau fab, y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aifft, cyn fy nyfod atat i'r Aifft, eiddof fi fyddant hwy: Effraim a Manasse fyddant eiddof fi, fel Reuben a Simeon.
6
A'th epil, y rhai a genhedlych ar eu hôl hwynt, fyddant eiddot ti dy hun; ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth.
7
A phan ddeuthum i o Mesopotamia, bu Rahel farw gyda mi yn nhir Canaan, ar y ffordd, pan oedd eto filltir o dir hyd Effrath: a chleddais hi yno ar ffordd Effrath: honno yw Bethlehem.
8
A gwelodd Israel feibion Joseff, ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn?
9
A Joseff a ddywedodd wrth ei dad, Dyma fy meibion i, a roddodd DUW i mi yma. Yntau a ddywedodd, Dwg hwynt, atolwg, ataf fi, a mi a'u bendithiaf hwynt.
10
Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint, fel na allai efe weled; ac efe a'u dygodd hwynt ato ef: yntau a'u cusanodd hwynt, ac a'u cofleidiodd.
11
Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Ni feddyliais weled dy wyneb; eto, wele, parodd DUW i mi weled dy had hefyd.
12
A Joseff a'u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb.
13
Cymerodd Joseff hefyd hwynt ill dau, Effraim yn ei law ddeau tua llaw aswy Israel, a Manasse yn ei law aswy tua llaw ddeau Israel; ac a'u nesaodd hwynt ato ef.
14
Ac Israel a estynnodd ei law ddeau, ac a'i gosododd ar ben Effraim, (a hwn oedd yr ieuangaf,) a'i law aswy ar ben Manasse: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasse oedd y cynfab.
15
Ac efe a fendithiodd Joseff, ac a ddywedodd, DUW, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, DUW, yr hwn a'm porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,
16
Yr angel yr hwn a'm gwaredodd i oddi wrth bob drwg, a fendithio'r llanciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn lliaws yng nghanol y wlad.
17
Pan welodd Joseff osod o'i dad ei law ddeau ar ben Effraim, bu anfodlon ganddo: ac efe a ddaliodd law ei dad, i'w symud hi oddi ar ben Effraim, ar ben Manasse.
18
Dywedodd Joseff hefyd wrth ei dad, Nid felly, fy nhad: canys dyma'r cynfab, gosod dy law ddeau ar ei ben ef.
19
A'i dad a omeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd; ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef, a'i had ef fydd yn lliaws o genhedloedd.
20
Ac efe a'u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithia Israel, gan ddywedyd, Gwnaed DUW di fel Effraim, ac fel Manasse. Ac efe a osododd Effraim o flaen Manasse.
21
Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Wele fi yn marw; a bydd DUW gyda chwi, ac efe a'ch dychwel chwi i dir eich tadau.
22
A mi a roddais i ti un rhan goruwch dy frodyr, yr hon a ddygais o law yr Amoriaid â'm cleddyf ac â'm bwa.
← Chapter 47
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 49 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50