bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 50
Genesis 50
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 49
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
1
Yna y syrthiodd Joseff ar wyneb ei dad, ac a wylodd arno ef, ac a'i cusanodd ef.
2
Gorchmynnodd Joseff hefyd i'w weision, y meddygon, berarogli ei dad ef: felly y meddygon a beraroglasant Israel.
3
Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod, (canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a beraroglir,) yna yr Eifftiaid a'i harwylasant ef ddeng niwrnod a thrigain.
4
Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Joseff wrth deulu Pharo, gan ddywedyd, Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg, lleferwch wrth Pharo, atolwg, gan ddywedyd,
5
Fy nhad a'm tyngodd, gan ddywedyd, Wele fi yn marw: yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan, yno y'm cleddi. Ac yr awr hon caffwyf fyned i fyny, atolwg, fel y claddwyf fy nhad; yna mi a ddychwelaf.
6
A dywedodd Pharo, Dos i fyny, a chladd dy dad, fel y'th dyngodd.
7
A Joseff a aeth i fyny i gladdu ei dad: a holl weision Pharo, sef henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlad yr Aifft, a aethant i fyny gydag ef,
8
A holl dŷ Joseff, a'i frodyr, a thŷ ei dad: eu rhai bach yn unig, a'u defaid, a'u gwartheg, a adawsant yn nhir Gosen.
9
Ac aeth i fyny gydag ef gerbydau, a gwŷr meirch hefyd: ac yr oedd yn llu mawr iawn.
10
A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad, yr hwn sydd dros yr Iorddonen; ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm iawn: canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod.
11
Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad, y galar yn llawr dyrnu Atad; yna y dywedasant, Dyma alar trwm gan yr Eifftiaid: am hynny y galwasant ei enw Abel‐Misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen.
12
A'i feibion a wnaethant iddo megis y gorchmynasai efe iddynt.
13
Canys ei feibion a'i dygasant ef i wlad Canaan, ac a'i claddasant ef yn ogof maes Machpela: yr hon a brynasai Abraham gyda'r maes, yn feddiant beddrod, gan Effron yr Hethiad, o flaen Mamre.
14
A dychwelodd Joseff i'r Aifft, efe, a'i frodyr, a'r rhai oll a aethant i fyny gydag ef i gladdu ei dad, wedi iddo gladdu ei dad.
15
Pan welodd brodyr Joseff farw o'u tad, hwy a ddywedasant, Joseff ond odid a'n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef.
16
A hwy a anfonasant at Joseff i ddywedyd, Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw, gan ddywedyd,
17
Fel hyn y dywedwch wrth Joseff; Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a'u pechod hwynt; canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision DUW dy dad. Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho.
18
A'i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef; ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti.
19
A dywedodd Joseff wrthynt, Nac ofnwch; canys a ydwyf fi yn lle DUW?
20
Chwi a fwriadasoch ddrwg i'm herbyn; ond DUW a'i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer.
21
Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a'ch cynhaliaf chwi, a'ch rhai bach. Ac efe a'u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.
22
A Joseff a drigodd yn yr Aifft, efe, a theulu ei dad: a bu Joseff fyw gan mlynedd a deg.
23
Gwelodd Joseff hefyd, o Effraim, orwyrion: maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasse, ar liniau Joseff.
24
A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a DUW gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a'ch dwg chwi i fyny o'r wlad hon, i'r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.
25
A thyngodd Joseff feibion Israel, gan ddywedyd, DUW gan eich gofwyo a'ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma.
26
A Joseff a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a'i peraroglasant ef; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aifft.
← Chapter 49
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50