bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 15
Genesis 15
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 16 →
1
Wedi'r pethau hyn, y daeth gair yr ARGLWYDD at Abram mewn gweledigaeth, gan ddywedyd, Nac ofna, Abram; myfi ydyw dy darian, dy wobr mawr iawn.
2
A dywedodd Abram, ARGLWYDD DDUW, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddi‐blant, a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleasar yma o Damascus.
3
Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd.
4
Ac wele air yr ARGLWYDD ato ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o'th ymysgaroedd di fydd dy etifedd.
5
Ac efe a'i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, Felly y bydd dy had di.
6
Yntau a gredodd yn yr ARGLWYDD, ac efe a'i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder.
7
Ac efe a ddywedodd wrtho, Myfi yw yr ARGLWYDD, yr hwn a'th ddygais di allan o Ur y Caldeaid, i roddi i ti y wlad hon i'w hetifeddu.
8
Yntau a ddywedodd, ARGLWYDD DDUW, trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi?
9
Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chyw colomen.
10
Ac efe a gymerth iddo y rhai hyn oll, ac a'u holltodd hwynt ar hyd eu canol, ac a roddodd bob rhan ar gyfer ei gilydd; ond ni holltodd efe yr adar.
11
A phan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau, yna Abram a'u tarfai hwynt.
12
A phan oedd yr haul ar fachludo, y syrthiodd trymgwsg ar Abram: ac wele ddychryn, a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef.
13
Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddieithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a'u gwasanaethant, a hwythau a'u cystuddiant bedwar can mlynedd.
14
A'r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr.
15
A thi a ei at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.
16
Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd eto anwiredd yr Amoriaid.
17
A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny.
18
Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates:
19
Y Ceneaid, a'r Cenesiaid, a'r Cadmoniaid.
20
Yr Hethiaid hefyd, a'r Pheresiaid, a'r Reffaimiaid,
21
Yr Amoriaid hefyd, a'r Canaaneaid, a'r Girgasiaid, a'r Jebusiaid.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50