bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 29
Genesis 29
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 30 →
1
A Jacob a gymerth ei daith, ac a aeth i wlad meibion y dwyrain.
2
Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; oherwydd o'r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd: a charreg fawr oedd ar enau'r pydew.
3
Ac yno y cesglid yr holl ddiadelloedd: a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau'r pydew, ac a ddyfrhaent y praidd; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau'r pydew yn ei lle.
4
A dywedodd Jacob wrthynt, Fy mrodyr, o ba le yr ydych chwi? A hwy a ddywedasant, O Haran yr ydym ni.
5
Ac efe a ddywedodd wrthynt, A adwaenoch chwi Laban fab Nachor? A hwy a ddywedasant, Adwaenom.
6
Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, A oes llwyddiant iddo ef? A hwy a ddywedasant, Oes, llwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyda'r defaid.
7
Yna y dywedodd efe, Wele eto y dydd yn gynnar, nid yw bryd casglu'r anifeiliaid dyfrhewch y praidd, ac ewch, a bugeiliwch.
8
A hwy a ddywedasant, Ni allwn ni, hyd oni chasgler yr holl ddiadelloedd, a threiglo ohonynt y garreg oddi ar wyneb y pydew; yna y dyfrhawn y praidd.
9
Tra yr ydoedd efe eto yn llefaru wrthynt, daeth Rahel hefyd gyda'r praidd oedd eiddo ei thad; oblegid hi oedd yn bugeilio.
10
A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nesaodd Jacob, ac a dreiglodd y garreg oddi ar enau'r pydew, ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam.
11
A Jacob a gusanodd Rahel, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.
12
A mynegodd Jacob i Rahel, mai brawd ei thad oedd efe, ac mai mab Rebeca oedd efe: hithau a redodd, ac a fynegodd i'w thad.
13
A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i'w gyfarfod ef, ac a'i cofleidiodd ef, ac a'i cusanodd, ac a'i dug ef i'w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn.
14
A dywedodd Laban wrtho ef, Yn ddiau fy asgwrn i a'm cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gydag ef fis o ddyddiau.
15
A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti, y'm gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth fydd dy gyflog?
16
Ac i Laban yr oedd dwy o ferched: enw yr hynaf oedd Lea, ac enw yr ieuangaf Rahel.
17
A llygaid Lea oedd weiniaid; ond Rahel oedd deg ei phryd, a glandeg yr olwg.
18
A Jacob a hoffodd Rahel; ac a ddywedodd, Mi a'th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.
19
A Laban a ddywedodd, Gwell yw ei rhoddi hi i ti, na'i rhoddi i ŵr arall: aros gyda mi.
20
Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd: ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi.
21
A dywedodd Jacob wrth Laban, Moes i mi fy ngwraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau,) fel yr elwyf ati hi.
22
A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno, ac a wnaeth wledd.
23
Ond bu yn yr hwyr, iddo gymryd Lea ei ferch, a'i dwyn hi ato ef; ac yntau a aeth ati hi.
24
A Laban a roddodd iddi Silpa ei forwyn, yn forwyn i Lea ei ferch.
25
A bu, y bore, wele Lea oedd hi: yna y dywedodd efe wrth Laban, Paham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel y'th wasanaethais? a phaham y'm twyllaist?
26
A dywedodd Laban, Ni wneir felly yn ein gwlad ni, gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf.
27
Cyflawna di wythnos hon, a ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyda mi eto saith mlynedd eraill.
28
A Jacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd ei hwythnos hi: ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.
29
Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi.
30
Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Lea, ac a wasanaethodd gydag ef eto saith mlynedd eraill.
31
A phan welodd yr ARGLWYDD mai cas oedd Lea, yna efe a agorodd ei chroth hi: a Rahel oedd amhlantadwy.
32
A Lea a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Reuben: oherwydd hi a ddywedodd, Diau edrych o'r ARGLWYDD ar fy nghystudd; canys yn awr fy ngŵr a'm hoffa i.
33
A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Am glywed o'r ARGLWYDD mai cas ydwyf fi; am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon.
34
A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Fy ngŵr weithian a lŷn yn awr wrthyf fi, canys plentais iddo dri mab: am hynny y galwyd ei enw ef Lefi.
35
A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Weithian y moliannaf yr ARGLWYDD: am hynny y galwodd ei enw ef Jwda. A hi a beidiodd â phlanta.
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 30 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50