bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 4
Genesis 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 5 →
1
Ac Adda a adnabu Efa ei wraig: a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, Cefais ŵr gan yr ARGLWYDD.
2
A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel; ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio'r ddaear.
3
A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i'r ARGLWYDD.
4
Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac o'u braster hwynt. A'r ARGLWYDD a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm:
5
Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A dicllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wynepryd ef.
6
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Cain, Paham y llidiaist? a phaham y syrthiodd dy wynepryd?
7
Os da y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn dda, pechod a orwedd wrth y drws: atat ti hefyd y mae ei ddymuniad ef, a thi a lywodraethi arno ef.
8
A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd: ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a'i lladdodd ef.
9
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Cain, Mae Abel dy frawd di? Yntau a ddywedodd, Nis gwn; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?
10
A dywedodd DUW, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gweiddi arnaf fi o'r ddaear.
11
Ac yr awr hon melltigedig wyt ti o'r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law di.
12
Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear.
13
Yna y dywedodd Cain wrth yr ARGLWYDD, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddau.
14
Wele, gyrraist fi heddiw oddi ar wyneb y ddaear, ac o'th ŵydd di y'm cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a'm caffo a'm lladd.
15
A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Am hynny y dielir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A'r ARGLWYDD a osododd nod ar Cain, rhag i neb a'i caffai ei ladd ef.
16
A Chain a aeth allan o ŵydd yr ARGLWYDD, ac a drigodd yn nhir Nod, o'r tu dwyrain i Eden.
17
Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd enw y ddinas yn ôl enw ei fab, Enoch.
18
Ac i Enoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehwiael, a Mehwiael a genhedlodd Methwsael, a Methwsael a genhedlodd Lamech.
19
A Lamech a gymerodd iddo ddwy o wragedd: enw y gyntaf oedd Ada, ac enw yr ail Sila.
20
Ac Ada a esgorodd ar Jabal; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell, a pherchen anifail.
21
Ac enw ei frawd ef oedd Jwbal; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ.
22
Sila hithau a esgorodd ar Tubal‐Cain, gweithydd pob cywreinwaith pres a haearn: a chwaer Tubal‐Cain ydoedd Naama.
23
A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Ada a Sila, Clywch fy llais, gwragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd; canys mi a leddais ŵr i'm harcholl, a llanc i'm clais.
24
Os Cain a ddielir seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.
25
Ac Adda a adnabu ei wraig drachefn; a hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Seth: Oherwydd DUW (eb hi) a osododd i mi had arall yn lle Abel, am ladd o Cain ef.
26
I'r Seth hwn hefyd y ganwyd mab; ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50