bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 21
Genesis 21
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 22 →
1
A'r ARGLWYDD a ymwelodd â Sara fel y dywedasai, a gwnaeth yr ARGLWYDD i Sara fel y llefarasai.
2
Oherwydd Sara a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai DUW wrtho ef.
3
Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo (yr hwn a ymddygasai Sara iddo ef) Isaac.
4
Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchmynasai DUW iddo ef.
5
Ac Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.
6
A Sara a ddywedodd, Gwnaeth DUW i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyda mi.
7
Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoesai Sara sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef.
8
A'r bachgen a gynyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.
9
A Sara a welodd fab Agar yr Eifftes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar.
10
A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaethforwyn hon a'i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethes hon gydetifeddu â'm mab i Isaac.
11
A'r peth hyn fu ddrwg iawn yng ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.
12
A DUW a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llanc, nac am dy gaethforwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sara wrthyt, gwrando ar ei llais: oherwydd yn Isaac y gelwir i ti had.
13
Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth, oherwydd dy had di ydyw ef.
14
Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a'i rhoddes at Agar, gan osod ar ei hysgwydd hi hynny, a'r bachgen hefyd, ac efe a'i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer‐seba.
15
A darfu'r dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o'r gwŷdd.
16
A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ymhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.
17
A DUW a wrandawodd ar lais y llanc; ac angel DUW a alwodd ar Agar o'r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, oherwydd DUW a wrandawodd ar lais y llanc lle y mae efe.
18
Cyfod, cymer y llanc, ac ymafael ynddo â'th law; oblegid myfi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.
19
A DUW a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel o'r dwfr, ac a ddiododd y llanc.
20
Ac yr oedd DUW gyda'r llanc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa.
21
Ac yn anialwch Paran y trigodd efe; a'i fam a gymerodd iddo ef wraig o wlad yr Aifft.
22
Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant ag Abraham, gan ddywedyd, DUW sydd gyda thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.
23
Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i DDUW, na fyddi anffyddlon i mi, nac i'm mab, nac i'm hŵyr: yn ôl y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â'r wlad yr ymdeithiaist ynddi.
24
Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf.
25
Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais.
26
Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw.
27
Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a'u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau.
28
Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o'r praidd wrthynt eu hunain.
29
Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain?
30
Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymeri y saith hesbin o'm llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn.
31
Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer‐seba: oblegid yno y tyngasant ill dau.
32
Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer‐seba: a chyfododd Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid.
33
Ac yntau a blannodd goed yn Beer‐seba, ac a alwodd yno ar enw yr ARGLWYDD DDUW tragwyddol.
34
Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50