bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 19
Genesis 19
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 20 →
1
A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i'w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd â'i wyneb tua'r ddaear;
2
Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, trowch, atolwg, i dŷ eich gwas; lletywch heno hefyd, a golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i'ch taith. A hwy a ddywedasant, Nage; oherwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol.
3
Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy: yna y troesant ato, ac y daethant i'w dŷ ef; ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croyw, a hwy a fwytasant.
4
Eithr cyn gorwedd ohonynt, gwŷr y ddinas, sef gwŷr Sodom, a amgylchasant o amgylch y tŷ, hen ac ieuanc, sef yr holl bobl o bob cwr;
5
Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, Mae y gwŷr a ddaethant atat ti heno? dwg hwynt allan atom ni, fel yr adnabyddom hwynt.
6
Yna y daeth Lot atynt hwy allan i'r drws, ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl;
7
Ac a ddywedodd, Atolwg, fy mrodyr, na wnewch ddrwg.
8
Wele yn awr, y mae dwy ferch gennyf fi, y rhai nid adnabuant ŵr; dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda: yn unig na wnewch ddim i'r gwŷr hyn; oherwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i.
9
A hwy a ddywedasant, Saf hwnt: dywedasant hefyd, Efe a ddaeth i ymdaith yn unig, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy. A hwy a bwysasant yn drwm ar y gŵr, sef ar Lot, a hwy a nesasant i dorri'r ddôr.
10
A'r gwŷr a estynasant eu llaw, ac a ddygasant Lot atynt i'r tŷ, ac a gaeasant y ddôr.
11
Trawsant hefyd y dynion oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio'r drws.
12
A'r gwŷr a ddywedasant wrth Lot, A oes gennyt ti yma neb eto? mab yng nghyfraith, a'th feibion, a'th ferched, a'r hyn oll sydd i ti yn y ddinas, a ddygi di allan o'r fangre hon.
13
Oblegid ni a ddinistriwn y lle hwn; am fod eu gwaedd hwynt yn fawr gerbron yr ARGLWYDD: a'r ARGLWYDD a'n hanfonodd ni i'w ddinistrio ef.
14
Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn priodi ei ferched ef, ac a ddywedodd, Cyfodwch, deuwch allan o'r fan yma; oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn difetha'r ddinas hon: ac yng ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair.
15
Ac ar godiad y wawr, yr angylion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd, Cyfod, cymer dy wraig, a'th ddwy ferch, y rhai sydd i'w cael; rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas.
16
Yntau a oedd hwyrfrydig, a'r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferch; am dosturio o'r ARGLWYDD wrtho ef; ac a'i dygasant ef allan, ac a'i gosodasant o'r tu allan i'r ddinas.
17
Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dianc am dy einioes; nac edrych ar dy ôl, ac na saf yn yr holl wastadedd: dianc i'r mynydd, rhag dy ddifetha.
18
A dywedodd Lot wrthynt, O nid felly, fy Arglwydd.
19
Wele yn awr, cafodd dy was ffafr yn dy olwg, a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost â mi, gan gadw fy einioes; ac ni allaf fi ddianc i'r mynydd, rhag i ddrwg fy ngoddiweddyd, a marw ohonof.
20
Wele yn awr, y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw: O gad i mi ddianc yno, (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid.
21
Yntau a ddywedodd wrtho, Wele, mi a ganiateais dy ddymuniad hefyd am y peth hyn, fel na ddinistriwyf y ddinas am yr hon y dywedaist.
22
Brysia, dianc yno; oherwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Soar.
23
Cyfodasai yr haul ar y ddaear, pan ddaeth Lot i Soar.
24
Yna yr ARGLWYDD a lawiodd ar Sodom a Gomorra frwmstan a thân oddi wrth yr ARGLWYDD, allan o'r nefoedd.
25
Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny, a'r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaear.
26
Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o'i du ôl ef, a hi a aeth yn golofn halen.
27
Ac Abraham a aeth yn fore i'r lle y safasai efe ynddo gerbron yr ARGLWYDD.
28
Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorra, a thua holl dir y gwastadedd; ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn.
29
A phan ddifethodd DUW ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd DUW am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.
30
A Lot a esgynnodd o Soar, ac a drigodd yn y mynydd, a'i ddwy ferch gydag ef: oherwydd efe a ofnodd drigo yn Soar; ac a drigodd mewn ogof, efe a'i ddwy ferch.
31
A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Ein tad ni sydd hen, a gŵr nid oes yn y wlad i ddyfod atom ni, wrth ddefod yr holl ddaear.
32
Tyred, rhoddwn i'n tad win i'w yfed, a gorweddwn gydag ef, fel y cadwom had o'n tad.
33
A hwy a roddasant win i'w tad i yfed y noson honno: a'r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyda'i thad; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
34
A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Wele, myfi a orweddais neithiwr gyda'm tad; rhoddwn win iddo ef i'w yfed heno hefyd, a dos dithau a gorwedd gydag ef, fel y cadwom had o'n tad.
35
A hwy a roddasant win i'w tad i yfed y noson honno hefyd: a'r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gydag ef; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
36
Felly dwy ferch Lot a feichiogwyd o'u tad.
37
A'r hynaf a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tad y Moabiaid hyd heddiw.
38
A'r ieuangaf, hefyd, a esgorodd hithau ar fab, ac a alwodd ei enw ef Ben‐ammi: efe yw tad meibion Ammon hyd heddiw.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50