bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 28
Genesis 28
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 29 →
1
Yna y galwodd Isaac ar Jacob, ac a'i bendithiodd ef: efe a orchmynnodd iddo hefyd, ac a ddywedodd wrtho, Na chymer wraig o ferched Canaan.
2
Cyfod, dos i Mesopotamia, i dŷ Bethuel tad dy fam; a chymer i ti wraig oddi yno, o ferched Laban brawd dy fam:
3
A DUW Hollalluog a'th fendithio, ac a'th ffrwythlono, ac a'th luosogo, fel y byddech yn gynulleidfa pobloedd:
4
Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i'th had gyda thi, i etifeddu ohonot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd DUW i Abraham.
5
Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob: ac efe a aeth i Mesopotamia, at Laban fab Bethuel y Syriad, brawd Rebeca, mam Jacob ac Esau.
6
Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob, a'i anfon ef i Mesopotamia, i gymryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio, gan ddywedyd, Na chymer wraig o ferched Canaan;
7
A gwrando o Jacob ar ei dad, ac ar ei fam, a'i fyned i Mesopotamia;
8
Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan yng ngolwg Isaac ei dad;
9
Yna Esau a aeth at Ismael, ac a gymerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nebaioth, yn wraig iddo, at ei wragedd eraill.
10
A Jacob a aeth allan o Beer‐seba, ac a aeth tua Haran.
11
Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre, ac a letyodd yno dros nos; oblegid machludo'r haul: ac efe a gymerth o gerrig y lle hwnnw, ac a osododd dan ei ben, ac a gysgodd yn y fan honno.
12
Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a'i phen yn cyrhaeddyd i'r nefoedd: ac wele angylion DUW yn dringo ac yn disgyn ar hyd‐ddi.
13
Ac wele yr ARGLWYDD yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw ARGLWYDD DDUW Abraham dy dad, a DUW Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i'th had.
14
A'th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i'r gorllewin, ac i'r dwyrain, ac i'r gogledd, ac i'r deau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di.
15
Ac wele fi gyda thi; ac mi a'th gadwaf pa le bynnag yr elych, ac a'th ddygaf drachefn i'r wlad hon: oherwydd ni'th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt.
16
A Jacob a ddeffrôdd o'i gwsg; ac a ddywedodd, Diau fod yr ARGLWYDD yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i.
17
Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, Mor ofnadwy yw'r lle hwn! nid oes yma onid tŷ i DDUW, a dyma borth y nefoedd.
18
A Jacob a gyfododd yn fore, ac a gymerth y garreg a osodasai efe dan ei ben, ac efe a'i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi.
19
Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Bethel: ond Lus fuasai enw y ddinas o'r cyntaf.
20
Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os DUW fydd gyda myfi, ac a'm ceidw yn y ffordd yma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara i'w fwyta, a dillad i'w gwisgo,
21
A dychwelyd ohonof mewn heddwch i dŷ fy nhad; yna y bydd yr ARGLWYDD yn DDUW i mi.
22
A'r garreg yma, yr hon a osodais yn golofn, a fydd yn dŷ DDUW; ac o'r hyn oll a roddech i mi, gan ddegymu mi a'i degymaf i ti.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50