bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Genesis 33
Genesis 33
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 34 →
1
A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr gydag ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy lawforwyn.
2
Ac ymlaen y gosododd efe y ddwy lawforwyn, a'u plant hwy, a Lea a'i phlant hithau yn ôl y rhai hynny, a Rahel a Joseff yn olaf.
3
Ac yntau a gerddodd o'u blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seithwaith, oni ddaeth efe yn agos at ei frawd.
4
Ac Esau a redodd i'w gyfarfod ef, ac a'i cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd ef: a hwy a wylasant.
5
Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu'r gwragedd, a'r plant; ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn gennyt ti? Yntau a ddywedodd, Y plant a roddes DUW o'i ras i'th was di.
6
Yna y llawforynion a nesasant, hwynt‐hwy a'u plant, ac a ymgrymasant.
7
A Lea a nesaodd a'i phlant hithau, ac a ymgrymasant: ac wedi hynny y nesaodd Joseff a Rahel, ac a ymgrymasant.
8
Ac efe a ddywedodd, Pa beth yw gennyt yr holl fintai acw a gyfarfûm i? Yntau a ddywedodd, Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd.
9
Ac Esau a ddywedodd, Y mae gennyf fi ddigon, fy mrawd; bydded i ti yr hyn sydd gennyt.
10
A Jacob a ddywedodd, Nage; atolwg, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, cymer fy anrheg o'm llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb DUW, a thi yn fodlon i mi.
11
Cymer, atolwg, fy mendith, yr hon a dducpwyd i ti; oblegid DUW a fu raslon i mi, ac am fod gennyf fi bob peth. Ac efe a fu daer arno: ac yntau a gymerodd;
12
Ac a ddywedodd, Cychwynnwn, ac awn: a mi a af o'th flaen di.
13
Yntau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a'r gwartheg blithion gyda myfi; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna'r holl braidd.
14
Aed, atolwg, fy arglwydd o flaen ei was; a minnau a ddeuaf yn araf, fel y gallo'r anifeiliaid sydd o'm blaen i, ac y gallo'r plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir.
15
Ac Esau a ddywedodd, Gadawaf yn awr gyda thi rai o'r bobl sydd gyda mi. Yntau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? Caffwyf ffafr yng ngolwg fy arglwydd.
16
Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.
17
A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i'w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth.
18
Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a wersyllodd o flaen y ddinas.
19
Ac a brynodd ran o'r maes y lledasai ei babell ynddo, o law meibion Hemor tad Sichem, am gan darn o arian:
20
Ac a osododd yno allor, ac a'i henwodd El‐Elohe‐Israel.
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 34 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50