bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 10
Numbers 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 11 →
1
Allefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
2
Gwna i ti ddau utgorn arian; yn gyfanwaith y gwnei hwynt: a byddant i ti i alw y gynulleidfa ynghyd, ac i beri i'r gwersylloedd gychwyn.
3
A phan ganant â hwynt, yr ymgasgl yr holl gynulleidfa atat, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
4
Ond os ag un y canant; yna y tywysogion sef penaethiaid miloedd Israel, a ymgasglant.
5
Pan ganoch larwm; yna y gwersylloedd y rhai a wersyllant tua'r dwyrain, a gychwynnant.
6
Pan ganoch larwm yr ail waith; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tua'r deau, a gychwynnant: larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn.
7
Ac wrth alw ynghyd y gynulleidfa, cenwch yr utgyrn; ond na chenwch larwm.
8
A meibion Aaron, yr offeiriaid, a ganant ar yr utgyrn; a byddant i chwi yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau
9
Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymwr a'ch gorthrymo chwi; cenwch larwm mewn utgyrn: yna y coffeir chwi gerbron yr ARGLWYDD eich DUW, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion.
10
Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedig, ac ar ddechrau eich misoedd, y cenwch ar yr utgyrn uwchben eich offrymau poeth, ac uwchben eich aberthau hedd; a byddant i chwi yn goffadwriaeth gerbron eich DUW: myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW.
11
A bu yn yr ail flwyddyn, ar yr ail fis, ar yr ugeinfed dydd o'r mis, gyfodi o'r cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth.
12
A meibion Israel a gychwynasant i'w taith o anialwch Sinai; a'r cwmwl a arhosodd yn anialwch Paran.
13
Felly y cychwynasant y waith gyntaf, wrth air yr ARGLWYDD trwy law Moses.
14
Ac yn gyntaf y cychwynnodd lluman gwersyll meibion Jwda yn ôl eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab.
15
Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar.
16
Ac ar lu llwyth meibion Sabulon, Elïab mab Helon.
17
Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant, gan ddwyn y tabernacl.
18
Yna y cychwynnodd lluman gwersyll Reuben yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Elisur mab Sedeur.
19
Ac ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Surisadai.
20
Ac ar lu llwyth meibion Gad, Eliasaff mab Deuel.
21
A'r Cohathiaid a gychwynasant, gan ddwyn y cysegr; a'r lleill a godent y tabernacl, tra fyddent hwy yn dyfod.
22
Yna lluman gwersyll meibion Effraim a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr oedd ar ei lu ef Elisama mab Ammihud.
23
Ac ar lu llwyth meibion Manasse, Gamaliel mab Pedasur.
24
Ac ar lu llwyth meibion Benjamin, Abidan mab Gideoni.
25
Yna lluman gwersyll meibion Dan, yn olaf o'r holl wersylloedd, a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahieser mab Ammisadai.
26
Ac ar lu llwyth meibion Aser, Pagiel mab Ocran.
27
Ac ar lu llwyth meibion Nafftali, Ahira mab Enan.
28
Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ôl eu lluoedd, pan gychwynasant.
29
A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i'r lle am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyda ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr ARGLWYDD ddaioni am Israel.
30
Dywedodd yntau wrtho, Nid af ddim; ond i'm gwlad fy hun, ac at fy nghenedl fy hun, yr af.
31
Ac efe a ddywedodd, Na ad ni, atolwg; canys ti a adwaenost ein gwersyllfaoedd yn yr anialwch, ac a fyddi yn lle llygaid i ni,
32
A phan ddelych gyda ni, a dyfod o'r daioni hwnnw, yr hwn a wna'r ARGLWYDD i ni, ninnau a wnawn ddaioni i tithau.
33
A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr ARGLWYDD daith tri diwrnod: ac arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd yn myned o'u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orffwysfa iddynt.
34
A chwmwl yr ARGLWYDD oedd arnynt y dydd, pan elent o'r gwersyll.
35
A hefyd pan gychwynnai yr arch, Moses a ddywedai, Cyfod, ARGLWYDD, a gwasgarer dy elynion; a ffoed dy gaseion o'th flaen.
36
A phan orffwysai hi, y dywedai efe, Dychwel, ARGLWYDD, at fyrddiwn miloedd Israel.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36