bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 21
Numbers 21
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 22 →
1
A'r brenin Arad, y Canaanead, preswylydd y deau, a glybu fod Israel yn dyfod ar hyd ffordd yr ysbïwyr; ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a ddaliodd rai ohonynt yn garcharorion.
2
Ac addunodd Israel adduned i'r ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt.
3
A gwrandawodd yr ARGLWYDD ar lais Israel; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef; ac efe a'u difrododd hwynt, a'u dinasoedd; ac a alwodd enw y lle hwnnw Horma.
4
A hwy a aethant o fynydd Hor, ar hyd ffordd y môr coch, i amgylchu tir Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, oherwydd y ffordd.
5
A llefarodd y bobl yn erbyn DUW, ac yn erbyn Moses, Paham y dygasoch ni o'r Aifft, i farw yn yr anialwch? canys nid oes na bara na dwfr; a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn.
6
A'r ARGLWYDD a anfonodd ymysg y bobl seirff tanllyd; a hwy a frathasant y bobl: a bu feirw o Israel bobl lawer.
7
A daeth y bobl at Moses, adywedasant Pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn dy erbyn dithau: gweddïa ar yr ARGLWYDD, ar yrru ohono ef y seirff oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl.
8
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Gwna i ti sarff danllyd, a gosod ar drostan: a phawb a frather, ac a edrycho ar honno, fydd byw.
9
A gwnaeth Moses sarff bres, ac a'i gosododd ar drostan: yna os brathai sarff ŵr, ac edrych ohono ef ar y sarff bres, byw fyddai.
10
A meibion Israel a gychwynasant oddi yno, ac a wersyllasant yn Oboth.
11
A hwy a aethant o Oboth, ac a wersyllasant yng ngharneddau Abarim, yn yr anialwch, yr hwn oedd ar gyfer Moab, tua chodiad haul.
12
Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth afon Sared.
13
Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth ryd Arnon, yr hon sydd yn yr anialwch, yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid: canys Arnon oedd derfyn Moab, rhwng Moab a'r Amoriaid.
14
Am hynny dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr ARGLWYDD, Y peth a wnaeth efe yn y môr coch, ac yn afonydd Arnon,
15
Ac wrth raeadr yr afonydd, yr hwn a dreigla i breswylfa Ar, ac a bwysa at derfyn Moab.
16
Ac oddi yno yr aethant i Beer: honno yw y ffynnon lle y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Casgl y bobl ynghyd, a mi a roddaf iddynt ddwfr.
17
Yna y canodd Israel y gân hon: Cyfod, ffynnon; cenwch iddi.
18
Ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a gloddiodd penaethiaid y bobl, ynghyd â'r deddfwr, â'u ffyn. Ac o'r anialwch yr aethant i Mattana:
19
Ac o Mattana i Nahaliel; ac o Nahaliel i Bamoth:
20
Ac o Bamoth, yn y dyffryn sydd yng ngwlad Moab, i ben y bryn sydd yn edrych tua'r diffeithwch.
21
Yna yr anfonodd Israel genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid, gan ddywedyd,
22
Gad i mi fyned trwy dy dir: ni thrown i faes, na gwinllan; nid yfwn ddwfr un ffynnon: ar hyd ffordd y brenin y cerddwn, hyd onid elom allan o'th derfynau di.
23
Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i'r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel.
24
Ac Israel a'i trawodd ef â min y cleddyf; ac a oresgynnodd ei dir ef, o Arnon hyd Jabboc, hyd at feibion Ammon: canys cadarn oedd terfyn meibion Ammon.
25
A chymerodd Israel yr holl ddinasoedd hynny: a thrigodd Israel yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon, ac yn ei holl bentrefydd.
26
Canys dinas Sehon, brenin yr Amoriaid, ydoedd Hesbon, ac yntau a ryfelasai yn erbyn brenin Moab, yr hwn a fuasai o'r blaen, ac a ddug ei dir ef oddi arno, hyd Arnon.
27
Am hynny y dywed y diarhebwyr, Deuwch i Hesbon; adeilader a chadarnhaer dinas Sehon.
28
Canys tân a aeth allan o Hesbon, a fflam o ddinas Sehon: bwytaodd Ar ym Moab, a pherchenogion Bamoth Arnon.
29
Gwae di, Moab; darfu amdanat, bobl Cemos: rhoddodd ei feibion dihangol, a'i ferched, mewn caethiwed i Sehon brenin yr Amoriaid.
30
Saethasom hwynt: darfu am Hesbon, hyd Dibon: ac anrheithiasom hyd Noffa, yr hon sydd hyd Medeba.
31
A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid.
32
A Moses a anfonodd i chwilio Jaser: a hwy a orchfygasant ei phentrefydd hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid y rhai oedd yno.
33
Troesant hefyd ac aethant i fyny hyd ffordd Basan: ac Og brenin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel, hyd Edrei, efe a'i holl bobl.
34
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Nac ofna ef: canys yn dy law di y rhoddais ef, a'i holl bobl, a'i dir; a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.
35
Am hynny y trawsant ef, a'i feibion, a'i holl bobl, fel na adawyd iddo ef weddill: a hwy a berchenogasant ei dir ef.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36