bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 5
Numbers 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 6 →
1
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2
Gorchymyn i feibion Israel, anfon allan o'r gwersyll bob gwahanglwyfus, a phob un y byddo diferlif arno, a phob un a halogir wrth y marw.
3
Yn wryw ac yn fenyw yr anfonwch hwynt, allan o'r gwersyll yr anfonwch hwynt; fel na halogont eu gwersylloedd, y rhai yr ydwyf fi yn preswylio yn eu plith.
4
A meibion Israel a wnaethant felly, ac a'u hanfonasant hwynt i'r tu allan i'r gwersyll: megis y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.
5
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
6
Llefara wrth feibion Israel, Os gŵr neu wraig a wna un o holl bechodau dynol, gan wneuthur camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD, a bod o'r enaid hwnnw yn euog:
7
Yna cyffesant eu pechod a wnaethant; a rhodded yn ei ôl yr hyn a fyddo efe euog ohono erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato, a rhodded i'r hwn y gwnaeth efe gam ag ef.
8
Ac oni bydd i'r gŵr gyfnesaf i dalu am y camwedd iddo, yr iawn am y camwedd yr hwn a delir i'r ARGLWYDD, fydd eiddo yr offeiriad; heblaw yr hwrdd cymod yr hwn y gwna efe gymod ag ef trosto.
9
A phob offrwm dyrchafael, o holl sanctaidd bethau meibion Israel, y rhai a offrymant at yr offeiriad, fydd eiddo ef.
10
A sancteiddio gŵr, eiddo ef fyddant: hyn a roddo neb i'r offeiriad, eiddo ef fydd.
11
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
12
Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pob gŵr pan wyro ei wraig ef, a gwneuthur bai yn ei erbyn ef;
13
A bod i ŵr a wnelo â hi, a bod yn guddiedig o olwg ei gŵr hi, ac yn gyfrinachol, a hithau wedi ei halogi, ac heb dyst yn ei herbyn, a hithau heb ei dal ar ei gweithred;
14
A dyfod gwŷn eiddigedd arno, ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig, a hithau wedi ei halogi; neu ddyfod ysbryd eiddigedd arno, ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig, a hithau heb ei halogi:
15
Yna dyged y gŵr ei wraig at yr offeiriad, a dyged ei hoffrwm drosti hi, degfed ran effa o flawd haidd: na thywallted olew arno, ac na rodded thus arno; canys offrwm eiddigedd yw, offrwm cof yn coffáu anwiredd.
16
A nesaed yr offeiriad hi, a phared iddi sefyll gerbron yr ARGLWYDD.
17
A chymered yr offeiriad ddwfr sanctaidd mewn llestr pridd, a chymered yr offeiriad o'r llwch fyddo ar lawr y tabernacl, a rhodded yn y dwfr.
18
A phared yr offeiriad i'r wraig sefyll gerbron yr ARGLWYDD, a diosged oddi am ben y wraig, a rhodded yn ei dwylo offrwm y coffa; offrwm eiddigedd yw efe: ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw sydd yn peri'r felltith.
19
A thynged yr offeiriad hi, a dyweded wrth y wraig, Oni orweddodd gŵr gyda thi, ac oni wyraist i aflendid gydag arall yn lle dy ŵr, bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw hwn sydd yn peri'r felltith.
20
Ond os gwyraist ti oddi wrth dy ŵr ac os halogwyd di, a chydio o neb â thi heblaw dy ŵr dy hun:
21
Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melltith, a dyweded yr offeiriad wrth y wraig, Rhodded yr ARGLWYDD dydi yn felltith ac yn llw ymysg dy bobl, pan wnelo yr ARGLWYDD dy forddwyd yn bwdr, a'th groth yn chwyddedig;
22
Ac aed y dwfr melltigedig hwn i'th goluddion, i chwyddo dy groth, ac i bydru dy forddwyd. A dyweded y wraig, Amen, amen.
23
Ac ysgrifenned yr offeiriad y melltithion hyn mewn llyfr, a golched hwynt ymaith â'r dwfr chwerw.
24
A phared i'r wraig yfed o'r dwfr chwerw sydd yn peri'r felltith: ac aed y dwfr sydd yn peri'r felltith i'w mewn hi, yn chwerw.
25
A chymered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd; a chyhwfaned yr offrwm gerbron yr ARGLWYDD, ac offrymed ef ar yr allor.
26
A chymered yr offeiriad o'r offrwm lonaid ei law, ei goffadwriaeth, a llosged ar yr allor; ac wedi hynny pared i'r wraig yfed y dwfr.
27
Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gŵr, yr â'r dwfr sydd yn peri'r felltith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwydd: a'r wraig a fydd yn felltith ymysg ei phobl.
28
Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw; yna hi a fydd ddihangol, ac a blanta.
29
Dyma gyfraith eiddigedd, pan wyro gwraig at arall yn lle ei gŵr, ac ymhalogi:
30
Neu os daw ar ŵr wŷn eiddigedd, a dal ohono eiddigedd wrth ei wraig; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr ARGLWYDD, a gwnaed yr offeiriad iddi yn ôl y gyfraith hon.
31
A'r gŵr fydd dieuog o'r anwiredd, a'r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36