bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 35
Numbers 35
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 36 →
1
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho, gan ddywedyd
2
Gorchymyn i feibion Israel, roddi ohonynt i'r Lefiaid, o etifeddiaeth eu meddiant, ddinasoedd i drigo ynddynt: rhoddwch hefyd i'r Lefiaid faes pentrefol wrth y dinasoedd o'u hamgylch.
3
A'r dinasoedd fyddant iddynt i drigo ynddynt; a'u pentrefol feysydd fyddant i'w hanifeiliaid, ac i'w cyfoeth, ac i'w holl fwystfilod.
4
A meysydd pentrefol y dinasoedd y rhai a roddwch i'r Lefiaid, a gyrhaeddant o fur y ddinas tuag allan, fil o gufyddau o amgylch.
5
A mesurwch o'r tu allan i'r ddinas, o du'r dwyrain ddwy fil o gufyddau, a thua'r deau ddwy fil o gufyddau, a thua'r gorllewin ddwy fil o gufyddau, a thua'r gogledd ddwy fil o gufyddau; a'r ddinas fydd yn y canol: hyn fydd iddynt yn feysydd pentrefol y dinasoedd.
6
Ac o'r dinasoedd a roddwch i'r Lefiaid, bydded chwech yn ddinasoedd noddfa, y rhai a roddwch, fel y gallo'r llawruddiog ffoi yno: a rhoddwch ddwy ddinas a deugain atynt yn ychwaneg.
7
Yr holl ddinasoedd a roddwch i'r Lefiaid, fyddant wyth ddinas a deugain, hwynt a'u pentrefol feysydd.
8
A'r dinasoedd y rhai a roddwch, fydd o feddiant meibion Israel: oddi ar yr aml eu dinasoedd, y rhoddwch yn aml; ac oddi ar y prin, y rhoddwch yn brin: pob un yn ôl ei etifeddiaeth a etifeddant, a rydd i'r Lefiaid o'i ddinasoedd.
9
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
10
Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan eloch dros yr Iorddonen i dir Canaan;
11
Yna gosodwch i chwi ddinasoedd; dinasoedd noddfa fyddant i chwi: ac yno y ffy y llawruddiog a laddo ddyn mewn amryfusedd.
12
A'r dinasoedd fyddant i chwi yn noddfa rhag y dialydd; fel na ladder y llawruddiog, hyd oni safo gerbron y gynulleidfa mewn barn.
13
Ac o'r dinasoedd y rhai a roddwch, chwech fydd i chwi yn ddinasoedd noddfa.
14
Tair dinas a roddwch o'r tu yma i'r Iorddonen, a thair dinas a roddwch yn nhir Canaan: dinasoedd noddfa fyddant hwy.
15
I feibion Israel, ac i'r dieithr, ac i'r ymdeithydd a fyddo yn eu mysg, y bydd y chwe dinas hyn yn noddfa; fel y gallo pob un a laddo ddyn mewn amryfusedd, ffoi yno.
16
Ac os ag offeryn haearn y trawodd ef, fel y bu farw, llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.
17
Ac os â charreg law, yr hon y byddai efe farw o'i phlegid, y trawodd ef, a'i farw; llawruddiog yw efe; lladder y llawruddiog yn farw.
18
Neu os efe a'i trawodd ef â llawffon, yr hon y byddai efe farw o'i phlegid, a'i farw; llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.
19
Dialydd y gwaed a ladd y llawruddiog pan gyfarfyddo ag ef, efe a'i lladd ef.
20
Ac os mewn cas y gwthia efe ef, neu y teifl ato mewn bwriad, fel y byddo efe farw;
21
Neu ei daro ef â'i law, mewn galanastra, fel y byddo farw: lladder yn farw yr hwn a'i trawodd; llofrudd yw hwnnw: dialydd y gwaed a ladd y llofrudd pan gyfarfyddo ag ef.
22
Ond os yn ddisymwth, heb alanastra, y gwthia efe ef, neu y teifl ato un offeryn yn ddifwriad;
23
Neu ei daro ef â charreg, y byddai efe farw o'i phlegid, heb ei weled ef; a pheri iddi syrthio arno, fel y byddo farw, ac efe heb fod yn elyn, ac heb geisio niwed iddo ef:
24
Yna barned y gynulleidfa rhwng y trawydd a dialydd y gwaed, yn ôl y barnedigaethau hyn.
25
Ac achubed y gynulleidfa y llofrudd o law dialydd y gwaed, a thröed y gynulleidfa ef i ddinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi: a thriged yntau ynddi hyd farwolaeth yr archoffeiriad, yr hwn a eneiniwyd â'r olew cysegredig.
26
Ac os y llofrudd gan fyned a â allan o derfyn dinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi;
27
A'i gael o ddialydd y gwaed allan o derfyn dinas ei noddfa, a lladd o ddialydd y gwaed y llofrudd; na rodder hawl gwaed yn ei erbyn:
28
Canys o fewn dinas ei noddfa y dyly drigo, hyd farwolaeth yr archoffeiriad ac wedi marwolaeth yr archoffeiriad dychweled y llofrudd i dir ei etifeddiaeth.
29
A hyn fydd i chwi yn ddeddf farnedig trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau.
30
Pwy bynnag a laddo ddyn, wrth a ddywedo tystion y lleddir y llofrudd: ac un tyst ni chaiff dystiolaethu yn erbyn dyn, i beri iddo farw.
31
Hefyd, na chymerwch iawn am einioes y llofrudd, yr hwn sydd euog i farw; ond lladder ef yn farw.
32
Ac na chymerwch iawn gan yr hwn a ffodd i ddinas ei noddfa, er cael dychwelyd i drigo yn y tir, hyd farwolaeth yr offeiriad;
33
Fel na halogoch y tir yr ydych ynddo; canys y gwaed hwn a haloga'r tir: a'r tir ni lanheir oddi wrth y gwaed a dywallter arno, ond â gwaed yr hwn a'i tywalltodd.
34
Am hynny nac aflanha y tir y trigoch ynddo, yr hwn yr ydwyf fi yn preswylio yn ei ganol: canys myfi yr ARGLWYDD ydwyf yn preswylio yng nghanol meibion Israel.
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 36 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36