bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 2
Numbers 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 3 →
1
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
2
Meibion Israel a wersyllant bob un wrth ei luman ei hun, dan arwyddion tŷ eu tadau: o amgylch pabell y cyfarfod y gwersyllant o hirbell.
3
A'r rhai a wersyllant o du'r dwyrain tua chodiad haul, fydd gwŷr lluman gwersyll Jwda, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Jwda fydd Nahson mab Aminadab.
4
A'i lu ef, a'u rhai rhifedig hwynt, fyddant bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant.
5
A llwyth Issachar a wersyllant yn nesaf ato: a chapten meibion Issachar fydd Nethaneel mab Suar.
6
A'i lu ef, a'i rifedigion, fyddant bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
7
Yna llwyth Sabulon: ac Elïab mab Helon fydd capten meibion Sabulon.
8
A'i lu ef, a'i rifedigion, fyddant ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant.
9
Holl rifedigion gwersyll Jwda fyddant yn ôl eu lluoedd, yn gan mil aphedwarugain mil a chwe mil a phedwar cant. Yn flaenaf y cychwyn y rhai hyn.
10
Lluman gwersyll Reuben fydd tua'r deau, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Reuben fydd Elisur mab Sedeur.
11
A'i lu ef, a'i rifedigion, fyddant chwe mil a deugain a phum cant.
12
A'r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Simeon: a chapten meibion Simeon fydd Selumiel mab Surisadai.
13
A'i lu ef, a'u rhifedigion, fydd onid un trigain mil a thri chant.
14
Yna llwyth Gad: a chapten meibion Gad fydd Eliasaff mab Reuel.
15
A'i lu ef, a'u rhifedigion hwynt, fyddant bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain.
16
Holl rifedigion gwersyll Reuben fyddant gan mil ac un ar ddeg a deugain o filoedd, a phedwar cant a deg a deugain, yn ôl eu lluoedd. Ac yn ail y cychwynnant hwy.
17
A phabell y cyfarfod a gychwyn yng nghanol y gwersylloedd, gyda gwersyll y Lefiaid: fel y gwersyllant, felly y symudant, pob un yn ei le, wrth eu llumanau.
18
Lluman gwersyll Effraim fydd tua'r gorllewin, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Effraim fydd Elisama mab Ammihud.
19
A'i lu ef, a'u rhifedigion, fyddant ddeugain mil a phum cant.
20
Ac yn ei ymyl ef llwyth Manasse; a chapten meibion Manasse fydd Gamaliel mab Pedasur.
21
A'i lu ef, a'u rhifedigion, fyddant ddeuddeng mil ar hugain a dau gant.
22
Yna llwyth Benjamin: a chapten meibion Benjamin fydd Abidan mab Gideoni.
23
A'i lu ef, a'u rhifedigion, fyddant bymtheng mil ar hugain a phedwar cant.
24
Holl rifedigion gwersyll Effraim fyddant, yn ôl eu lluoedd, gan mil ac wyth mil a chant. Ac a gychwynnant yn drydydd.
25
Lluman gwersyll Dan fydd tua'r gogledd, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Dan fydd Ahieser mab Ammisadai.
26
A'i lu ef, a'u rhifedigion, fyddant ddwy fil a thrigain a saith gant.
27
A'r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Aser: a chapten meibion Aser fydd Pagiel mab Ocran.
28
A'i lu ef, a'u rhifedigion, fyddant un fil a deugain a phum cant.
29
Yna llwyth Nafftali: a chapten meibion Nafftali fydd Ahira mab Enan.
30
A'i lu ef, a'u rhifedigion, fyddant dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
31
Holl rifedigion gwersyll Dan fyddant gan mil ac onid tair mil trigain mil a chwe chant. Yn olaf y cychwynnant â'u llumanau.
32
Dyma rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau. Holl rifedigion y gwersylloedd, yn ôl eu lluoedd, oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain.
33
Ond y Lefiaid ni chyfrifwyd ymysg meibion Israel; megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
34
A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses: felly y gwersyllasant wrth eu llumanau, ac felly y cychwynasant, bob un yn ei deuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36