bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Numbers 20
Numbers 20
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 21 →
1
A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa a ddaethant i anialwch Sin, yn y mis cyntaf; ac arhodd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y claddwyd hi.
2
Ac nid oedd dwfr i'r gynulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron.
3
Ac ymgynhennodd y bobl â Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr gerbron yr ARGLWYDD!
4
Paham y dygasoch gynulleidfa yr ARGLWYDD i'r anialwch hwn, i farw ohonom ni a'n hanifeiliaid ynddo?
5
A phaham y dygasoch ni i fyny o'r Aifft, i'n dwyn ni i'r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranatbren, ac heb ddwfr i'w yfed?
6
A daeth Moses ac Aaron oddi gerbron y gynulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau a gogoniant yr ARGLWYDD a ymddangosodd iddynt.
7
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
8
Cymer y wialen, a chasgl y gynulleidfa ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o'r graig, a dioda'r gynulleidfa a'u hanifeiliaid.
9
A Moses a gymerodd y wialen oddi gerbron yr ARGLWYDD, megis y gorchmynasai efe iddo.
10
A Moses ac Aaron a gynullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o'r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr?
11
A Moses a gododd ei law, ac a drawodd y graig ddwy waith â'i wialen: a daeth dwfr lawer allan; a'r gynulleidfa a yfodd, a'u hanifeiliaid hefyd.
12
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i'm sancteiddio yng ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i'r tir a roddais iddynt.
13
Dyma ddyfroedd Meriba; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â'r ARGLWYDD, ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.
14
A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenin Edom, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Israel dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni:
15
Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i'r Aifft, ac yr arosasom yn yr Aifft lawer o ddyddiau; ac y drygodd yr Eifftiaid ni, a'n tadau.
16
A ni a waeddasom ar yr ARGLWYDD; ac efe a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac a'n dug ni allan o'r Aifft: ac wele ni yn Cades, dinas ar gwr dy ardal di.
17
Atolwg, gad i ni fyned trwy dy wlad: nid awn trwy faes, na gwinllan, ac nid yfwn ddwfr un ffynnon: priffordd y brenin a gerddwn; ni thrown ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy, nes i ni fyned allan o'th derfynau di.
18
A dywedodd Edom wrtho, Na thyred heibio i mi, rhag i mi ddyfod â'r cleddyf i'th gyfarfod.
19
A meibion Israel a ddywedasant wrtho, Ar hyd y briffordd yr awn i fyny; ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o'th ddwfr di, rhoddaf ei werth ef; yn unig ar fy nhraed yr af trwodd yn ddiniwed.
20
Yntau a ddywedodd, Ni chei fyned trwodd. A daeth Edom allan i gyfarfod ag ef, â phobl lawer, ac â llaw gref.
21
Felly Edom a nacaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef.
22
A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor.
23
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd,
24
Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i'r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhau i'm gair, wrth ddwfr Meriba.
25
Cymer Aaron ac Eleasar ei fab, a dwg hwynt i fyny i fynydd Hor;
26
A diosg ei wisgoedd oddi am Aaron, a gwisg hwynt am Eleasar ei fab ef: canys Aaron a gesglir at ei bobl, ac a fydd farw yno.
27
A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD: a hwy a aethant i fyny i fynydd Hor, yng ngŵydd yr holl gynulleidfa.
28
A diosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd, ac a'u gwisgodd hwynt am Eleasar ei fab ef: a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd. A disgynnodd Moses ac Eleasar o'r mynydd.
29
A'r holl gynulleidfa a welsant farw Aaron; a holl dŷ Israel a wylasant am Aaron ddeng niwrnod ar hugain.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36